Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Yr Erledigaeth yn y Flwyddyn 1795

Y Deffroad Crefyddol yn Ymledu Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Abergynolwyn

PENOD IV
YR ERLEDIGAETH YN Y FLWYDDYN 1795

CYNWYSIAD.—Gwrthwynebiad i gofrestru y capelau—Gwedd newydd yr erledigaeth—Tro rhyfedd o erlid gerllaw Towyn—Galw y milwyr allan—Yr erlid yn dechreu yn Nghorris—Gosod dirwy o £20 ar William Hugh, Llechwedd, ac eraill—Y milwyr yn ceisio dal Lewis Morris—Yr achosion crefyddol yn sefyll—Tystiolaeth Robert Griffith, Dolgellau—Chwarter Sesiwn y Bala—Trwydded Edward William, Towyn—Lewis Morris yn pregethu yn Nhowyn—Methu dal yr anifeiliaid yn lanerchgoediog—Effeithiau yr erledigaeth—Barn y bobl am yr erlidwyr—Golwg gyflawn ar yr amgylchiadau.

 HAN hynod a thra phwysig o hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd ydyw yr erledigaeth chwerw a gymerodd le ymhen ychydig flynyddoedd ar ol sefydlu yr eglwysi cyntaf rhwng y Ddwy Afon. Bu crefydd yn hir, fel y crybwyllwyd, cyn cymeryd meddiant llwyr o'r rhan hon o'r sir, ond yma y cyfarfyddwyd â'r profedigaethau chwerwaf, am dymor byr, mae'n debyg, o un man yn Nghymru. Gorfuwyd i'r ardaloedd fu yn aros hwyaf heb yr efengyl, ddioddef y goruchwyliaethau trymaf yn herwydd yr efengyl. Cyfeirio yr ydys at yr erledigaeth ffyrnig a gymerodd le yn y flwyddyn 1795. Dechreuodd, mae'n wir, ryw gymaint cyn hyn, ac fe barhaodd rai blynyddau yn ddiweddarach, ond dyma y flwyddyn y cyrhaeddodd ei plwynt uwchaf. Daeth yr erlidwyr allan yn yr erledigaeth hon mewn gwedd newydd —gwedd nad oedd y Methodistiaid ddim wedi cael eu blino ganddynt o'r blaen, sef trwy gymeryd y gyfraith yn eu llaw i gosbi pregethwyr, a'r neb a'u derbynient i'w tai i bregethu. Hyd yr adeg yma, sef oddeutu y flwyddyn 1795, nid oedd neb yn perthyn i'r Methodistiaid yn y Gogledd wedi cymeryd trwydded i bregethu, yr hyn oedd y gyfraith yn ei ganiatau, a'r hyn hefyd oedd wedi cael ei wneuthur yn gyffredin gan enwadau eraill yr Ymneillduwyr. Ac nid oedd capelau na thai anedd ychwaith wedi cael eu trwyddedu gan y Methodistiaid. Ymddengys i'r priodoldeb o wneyd hyny fod dan sylw droion cyn hyn yn y Gymdeithasfa, ond yr oedd gwrthwynebiad cryf yn erbyn yn yr holl siroedd, am y rheswm nad oedd y Methodistiaid ddim yn ystyried eu hunain yn Ymneillduwyr. Yr oeddynt o'r dechreu, er's dros haner can' mlynedd, yn para i lynu o ran teimlad a chredo wrth Eglwys Loegr, er eu bod yn ymarferol wedi cilio allan o honi. Oherwydd eu hwyrfrydigrwydd i geisio amddiffyn y gyfraith drostynt, fe gymerodd eu gelynion y gyfraith yn eu llaw eu hunain i'w cosbi, ac yn yr ardaloedd hyn, yr amser a nodwyd, y dechreuodd y traha hwn. Hanesydd hynaf y Methodistiaid, y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, a ddywed:—

"Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un diben, taflu rhai allan o'u tiroedd, trin eraill yn greulawn trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, ymysg eraill, un Lewis Evan a fu yn y carchar yn Nolgellau flwyddyn gyfan, gyru eraill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rhai yr holl flynyddoedd yn defnyddio'r gyfraith i gosbi y pregethwyr, ynghyd â'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny oddiwrth y doethion a'r deallus trwy yi holl amser; a thrwy hyny, fe gafodd yr efengyl y wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prif ffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd, a glanau y moroedd, &c., yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw wr bonheddig oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Daliwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd Lewis Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno, rhoddodd. ei hun dan nodded y llywodraeth."—Tudalen 94, yr argraffiad diweddaf.

Y gwr bonheddig uchod oedd Mr. Edward Corbett, o Ynys- maengwyn. Efe, yn ol y dystiolaeth hon, oedd y cyntaf i gymeryd y gyfraith yn ei law i gosbi pregethwyr. O'r blaen, ymunai y boneddigion, yr offeiriaid, a'r werin â'u gilydd i ddirmygu, a llabyddio, a rhwystro pregethwyr a chrefyddwyr ymhob rhyw fodd, a phrawf o hyn ydoedd yr erlid mawr a fu ar y 45 a ddychwelent o Langeitho i Sir Gaernarfon. Yn awr, dechreuodd y boneddwr o Ynysmaengwyn eu poenydio mewn ffordd newydd, a meddyliodd y gallai roddi pen arnynt oll yn y ffordd hono. Yr oedd Mr. Corbett yn Ustus Heddwch, ac yn un o'r tirfeddianwyr mwyaf yn y wlad. Cadwai nifer mawr o gŵn hela, yn ol arfer boneddigion y wlad. A chan ei bod y blynyddoedd hyny yn amser o ryfel poeth a pharhaus. rhwng y deyrnas hon â Ffrainc, cadwai nifer o filwyr—gynifer a phedwar ugain," ebe Lewis Morris—o amgylch ei balas. Yr oedd yn elynol iawn i'r grefydd newydd yr oedd son am dani yn y wlad, ac yn greulon yn erbyn y pregethwyr a ddelent i dai i bregethu, yn gystal ag yn erbyn y bobl a'u derbynient i'w tai. Tybir mai dylanwad eraill arno a fu yr achos iddo gymeryd y ffordd newydd o erlid crefyddwyr, a myned i'r fath eithafion o erledigaeth. O'i ran ei hun, yr oedd, fel y ceir gweled eto, yn foneddwr hynaws a charedig yn ei ardal. Taenai yr offeiriaid bob chwedlau anwireddus am y Methodistiaid, galwent hwy yn bobl y "weddi dywyll," a dywedent mai y bobl fwyaf drygionus a dichellgar oeddynt, ac na byddai diogelwch i bersonau nac eiddo os gadewid hwy i fyned ymlaen i lwyddo, ac oblegid hyny, tybiai yntau ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i'r wlad wrth eu cosbi.

Tro rhyfedd o erlid oedd hwnw a fu ar Benybryn, gerllaw Towyn. Coffheir am dano yn fynych gan hen bobl yn yr ardal,. ond amrywia yr adroddiad gryn lawer gan wahanol bersonau. Yn ol pob tebyg, fel hyn y digwyddodd:— Yr oedd Mr. William Jones, gŵr ieuanc a ofalai ar y pryd am eglwys yr Annibynwyr yn Machynlleth, yn pregetha ar Benybryn, Towyn, a daeth gweision Mr. Corbett, a haid o fytheuaid i'r lle i aflonyddu. Wedi i'r gwasanaeth ddechreu, chwythai arweinydd y cŵn y corn, gan ddisgwyl iddynt wneyd eu hoernadau, ond ni chymerai y cŵn sylw o hono; chwythai drachefn a thrachefn, ac o'r diwedd fflangellai â'i chwip, er hyny i gyd ni wnai y bytheuaid ddim swn, ac ni symudent mo'u tafod. Modd bynag, darfu i'r gweision a'r erlidwyr a'u canlynent amgylchu y pregethwr, gan wneuthur lleisiau ac oernadau eu hunain, a phob llwon a rhegfeydd, a bygythient ollwng y cŵn arno, i'w rwygo yn gariai oni roddai i fyny bregethu. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1789, oblegid y flwyddyn cynt y daethai Mr. William Jones i Fachynlleth, a bu farw ymhen dwy flynedd ; tybir i'r tro hwn effeithio ar ei iechyd.

Gosodai y boneddwr o Ynysmaengwyn weithiau gyflegrau a drylliau gyferbyn â'r manau y cynhelid gwasanaeth crefyddol, gan fygwth chwythu yn ddrylliau pwy bynag a ymgasglent yno. Gorfuwyd i'r Methodistiaid fyned a'u Cyfarfod Misol i Fryncrug unwaith oherwydd hyn. Ond cymerodd yr amgylchiad hwn le rai blynyddau yn ddiweddarach. Y tro cyntaf sydd yn hysbys iddo ddangos ffyrnigrwydd mewn erledigaeth oedd y tro hwnw ar Benybryn, uwchlaw tref Towyn. Ond mwy na thebyg ydyw fod yr ysbryd ynddo cynt, a gellir yn hawdd gasglu fod a fynai hyny rywbeth â bod crefydd wedi bod mor hir heb gael lle i roddi ei throed i lawr yn yr ardaloedd oddeutu. Wrth weled y pregethu yn myned ar gynydd, ac eglwysi yn cael eu ffurfio, ffyrnigodd y boneddwr yn fwy-fwy, daeth i ddeall fod y pregethwyr yn pregethu heb licence, ac mewn tai heb eu recordio, a galwodd ei filwyr allan i ddwyn pawb a allai i afael y gyfraith. Erbyn y flwyddyn 1795 yr oedd y storm fawr yn dechreu ymgasglu. Y flwyddyn hon ymosododd y boneddwr ar yr holl wlad yn ei gyffiniau, o Gorris i lawr i Dowyn. Hyd y gallwn ddeall, yn Nghorris y dechreuodd yr erledigaeth yn ei gwedd newydd. Yr oedd dau reswm dros. hyn. Elai yr achos crefyddol yn ei flaen yno yn well, a llwyddai yr adeg yma yn fwy nag yn un rhan arall o'r dosbarth; yr oedd hefyd un o'r pump cyntaf a ffurfiai yr eglwys. Fethodistaidd yn Nghorris, Jane Roberts, Rugog, yn byw ar dyddyn y boneddwr. Ceir yr hanes a ganlyn yn Methodistiaeth Cymru (I. 580.):-

"Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr bonheddig, yr hwn oedd yn byw rai milldiroedd oddiwrthynt (10 neu 12 milldir). Yr oedd ei theulu yn lliosog, nid llai nag un ar ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag, i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gwr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tyddyn, a chafodd addewid o hono, ar yr amod i'r wraig ymadael a'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,—

'Wel, John bach, sut y bu hi gyda'r gwr bonheddig?'

'Canolig,' ebe John, 'gallasai fod yn waeth.'

'A gewch chwi y tir eto?' gofynai y wraig.

'Caf,' ebe John, 'ond i ti ymadael â'r bobl yna.'

'Wel, John bach,' ebe Jane, 'os ydych chwi yn tybied mai gwell i chwi a'r plant fyddai i mi ymadael, ymadael a wnaf â chwi, ond nid â 'nghrefydd byth?' Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, a'i theulu, nac â'i chrefydd,"

Gwnaeth y boneddwr ymgais mwy penderfynol i gyraedd ei amcan yn yr ardal hon. Nid oedd yr Hen Gastell, sef y tŷ y cynhelid gwasanaeth crefyddol ynddo yn Nghorris wedi ei gofrestru, a chredai yntau y gallai ddwyn y rhai a ymgasglent ynddo i afael cyfraith. Ond yr oedd y ty hwnw ar dir gŵr penderfynol, sef Dafydd Humphrey, tad y diweddar Humphrey Davies, a thaid Mr. Humphrey Davies, U.H, Abercorris. Mae yn werth cael y dyfyniad canlynol eto,—

"Nid oedd yr Hen Castell, mwy na thai eraill y pryd hwn, wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phenderfynai y gŵr bonheddig dreio beth a wnai dull arall o erlid tuag at lethu yr heresi newydd oedd yn ymdaenu mor arswydus ymhob man. Meddyliodd y mynai efe ddal gŵr y tŷ, a chynifer a geid yn ymgynull yno, a'u dirwyo oll, yn ol y gyfraith, o dan y Conventicle Act. Yr oedd deg neu ddeuddeg o'r milwyr hyn ar eu ffordd tua'r Hen Gastell, dan arfau, i ddal y crefyddwyr; ond daeth hyn i glustiau rhyw un a ewyllysiai yn dda iddynt, a rhedai hwn tra y gallai; un arall a gymerai y newydd ac a redai yr un modd, ac felly o un i arall, cerddai y newydd am ddyfodiad y milwyr, yn gynt na'r milwyr eu hunain. Pan glybu Dafydd Humphrey y newydd, brysiodd a chymerodd y pulpud o'r Hen Gastell, gan ei gario ar ei gefn, a'i guddio dan wellt yn y beudy. Yntau a ymguddiodd ei hunan mewn rhedyn yn ngolwg y ffordd, a gwelwn' meddai, 'y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi cwm Corris o ben bwygilydd. Anfonwyd un o'r gweision i ymofyn am danaf fi, a phan ddywedodd fy ngwraig nad oeddwn yn y tŷ, gorchymynodd i mi fyned at ei feistr dranoeth.' Ar hyn aethant ymaith, heb wneyd dim llawer o niwed mwy nag afradu cryn lawer o bylor. Tranoeth aeth Dafydd Humphrey at y gŵr mawr, ac wedi arwain y troseddwr i wydd ei arglwydd, gofynwyd iddo,—

'A wyt ti yn gosod y tŷ i bregethu ynddo?'

'Ydwyf, Syr,' oedd yr ateb.

'I bwy?' gofynai y boneddwr.

'I Vaughan Jones, Syr,' ebe yntau;

'Rhaid i Vaughan Jones ateb i'r gyfraith,' ebe y boneddwr.

Aeth a'r achos i'r Charter Session yn y Bala; ond nid oedd Vaughan Jones ar gael, ac nid oedd cyfreithiwr chwaith, erbyn hyn, a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr."

Disgynodd yr erlyniad i'r llawr oherwydd fod y byrddau wedi troi yn erbyn y boneddwr yn Chwarter Sesiwn y Bala; ond cyn i hono ddyfod oddiamgylch yr oedd ef wedi gwneuthur hafoc o'r crefyddwyr, ac wedi creu dychryn yn eu plith ymhob man. Yn gynar yr un flwyddyn, gyrwyd milwyr o Ynysmaengwyn i ddal ac i ddirwyo eraill. Yr oedd William Hugh, Llechwedd, Abergynolwyn, un o bregethwyr cyntaf Gorllewin Meirionydd, wedi dechreu pregethu er's 5 neu 6 blynedd, a digwyddodd iddo fod yn cadw odfa mewn tŷ yn Nhowyn. Achwynwyd arno wrth y gŵr mawr, oedd yn chwythu bygythion. Anfonodd yntau 12 o filwyr i'w ddal. Cymerodd un o'r deuddeg arno fod yn glaf ar y ffordd, ac ymesgusododd; ond cyrhaeddodd yr un-ar-ddeg, yn arfog, at y Llechwedd preswylfod William Hugh, yn fore iawn, ar ddydd Gwener, yn nechreu haf 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Aeth yntau rhag blaen, wedi derbyn y wys, gyda hwynt at yr ynad, yr hwn a'i dwrdiodd yn dost, ac a'i dirwyodd i 20p. Bu yn alluog trwy gynorthwy ei wraig, a chyfeillion ereill, i'w talu y diwrnod hwnw, a chafodd fyned yn rhydd.

Ond nid oedd yr ystorm drosodd arno eto. Ataliwyd ef i bregethu ar ol hyn. Ymhen rhyw nifer o wythosau, aeth i ymweled â'i gyfeillion yn Nolgellau, y rhai wedi clywed am ei dywydd a fu lawen iawn ganddynt ei weled, a chymellhasant ef i ddweyd gair yn gyhoeddus. Ufuddhaodd yntau i'w cais, a phregethodd. Cyn nos dranoeth yr oedd y newydd wedi cyraedd clustiau yr Ustus Heddwch (yr oedd achwynwyr yn brysur iawn y dyddiau hyny) fod William Hugh wedi pregethu yn Nolgellau. Rhoddwyd gorchymyn allan i'w ddal yr ail waith, a phe buasid yn llwyddo y tro hwn, buasai y ddirwy yn 40p.

Ond cafodd wybod am y cynllun mewn pryd, a'r canlyniad fu iddo ddianc, ac ymguddio hyd y Chwarter Seswn nesaf oedd i'w chynal yn y sir. Nid oedd pall bellach ar gynddaredd yr erlidiwr mawr. Chwiliai a chlustfeiniai am unrhyw achwyn yn erbyn y saint, fel y llew yn y goedwig yn chwilio am ysglyfaeth. Heblaw gosod dirwy o 20p. ar William Hugh; gosododd ddirwy o 20p. ar Griffith Owen, Llanerchgoediog; 20p. ar Edward William, Towyn; ac 20p. ar dŷ yn Bryncrug, ond nid ydym yn gallu gwybod tŷ pwy oedd hwn; ac ymddengys fod Vaughan Jones, Corris, wedi cael ei rybuddio i dalu dirwy o 20p. Dichon mai y digwyddiad mwyaf rhamantus yn yr holl helyntion hyn ydyw, yr hanes am y llew o Ynysmaengwyn yn ceisio dal y cawr, Lewis Morris, Coedygweddill, ac yn methu. Adrodda Lewis Morris ei hun fod yn mwriad Mr. Corbett ei ddal er's tro. Yr oeddynt yn adnabod eu gilydd yn dda, a chyn tröedigaeth Lewis Morris, tra yr oedd, yn nhymor gwyllt ei ieuenctid, yn ben campwr chwareuon y wlad, yr ydoedd mewn ffafr mawr gyda'r boneddwr. Ond wedi iddo droi allan o'r fyddin ddu, a dechreu canmol y Gwaredwr trwy y wlad, daeth y boneddwr yn elyniaethus iawn tuag ato. Yr oedd unwaith wedi rhoddi y gorchymyn i'r cwnstabliaid ei ddal tra yr oedd yn pregethu yn Bryncrug ar nos Sabbath; daeth y swyddogion i'r lle gyda'r neges o'i ddal, a'i ddwyn o flaen y gwr mawr, ond wedi cyraedd yno, ni chyffyrddasant âg ef, a dywedir iddynt adrodd ar ol myned yn ol at eu meistr, mai ei ofn oedd arnynt. Fel y crybwyllwyd, yr oedd gan Mr. Corbett lawer o filwyr o'i amgylch, ac yr oedd gan yr ynadon y pryd hwnw awdurdod i bressio pobl, a'u gorfodi i fyned i'r rhyfel. Yr oedd yn wybyddus i Lewis Morris a'i gyfeillion, mai bwriad y boneddwr erlidgar, os llwyddai i'w ddal ef, oedd ei roddi ar fwrdd man-of-war, neu ei anfon yn filwr i faes y gwaed. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd ei gyfeillion ei anfon i Lwyngwair, yn Sir Benfro, lle yr oedd Cadben Bowen yn preswylio, yr hwn oedd yn Ustus Heddwch, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid. "Minau," ebe fe, "a aethum tuag yno yn ddioed." Dranoeth ar ol dal William Hugh, anfonwyd y milwyr allan i'w ddal yntau, ond digwyddodd yn rhagluniaethol ei fod eisoes wedi cychwyn oddicartref i gyhoeddiad yn Sir Drefaldwyn. Ar ei ffordd adref, aeth i'r Bala, ac erbyn hyny, yr oedd Mr. Charles a John Evans, ac eraill, mewn pryder mawr yn ei gylch, gan fod y newydd wedi cyraedd yno fod y milwyr allan yn chwilio am dano. Ac yno, perswadiwyd ef i beidio myned adref, ond i gychwyn yn ddiatreg i Sir Benfro.

"Ar y ffordd o'r Bala," ebe fe ei hun, "yr oeddwn yn myned trwy bentref Llanymawddwy; yr oedd yn enyd o'r nos a gwaeddais wrth y toll-borth yno; daeth y gŵr yn ei grys i agor y gate, ac a ofynodd i mi pa le yr oeddwn yn teithio. Ymlaen,' ebe finau. Y mae hi yn fyd garw tua Thowyn,' meddai ef mae yno ŵr bonheddig yn erlid pregethwyr y Methodistiaid; ac efe a rydd ddeugain punt am ddal un o honynt, gan fy enwi i, 'ac y mae milwyr yn chwilio yn ddyfal am dano.' Ymlaen yr aethum, a chyrhaeddais balas Llwyngwair mewn diogelwch, lle cefais dderbyniad croesawgar, a charedigrwydd mawr; ond ni chefais licence i bregethu cyn y chwarter Gwyl Mihangel, pan y daeth y Cadben Bowen gyda mi i Gaerfyrddin, ac a gafodd un i mi yno. Yn yr amser hwnw, sef o Wyl Ifan hyd Wyl Mihangel, ni bum yn segur. Ymhen tridiau wedi fy myned i Lwyngwair, cefais fy anfon i gyhoeddiad hen bregethwr o'r enw Sion Gruffydd Ellis, yr hwn oedd wedi myned yn afiach ar daith; a bum yn cadw y cyhoeddiad hwnw am bum wythnos, sef hyd Gymdeithasfa Llangeitho, yn Awst; ac yno mynwyd cyhoeddiad genyf i fyned trwy fanau na buaswn ynddynt o'r blaen, ynghyd â rhai lleoedd yr oeddwn wedi bod ynddynt yn flaenorol. Cefais y tiriondeb mwyaf oddiwrth fy nghyfeillion yn y Deheu."— Adgofion Hen Bregethwr, Traehhodydd 1847, tudal. 112.

Yr oedd Lewis Morris, yn ddiau, wedi gosod ei hun yn agored i beryglon dirfawr yn nechreuad y daith bon, ac yr oedd wedi arfer cyfrwysdra nid bychan yn ei fynediad trwy Lanymawddwy, a thrwy y toll-byrth ar hyd y ffordd. Gan ei fod yn ddyn mor hynod o ran maintioli ei gorff, a chryfder ei lais, y syndod ydyw iddo ddianc heb ddyfod i'r amlwg, a chael ei fradychu. Tra yr oedd ef yn aros mewn diogelwch, ac yn mwynhau breintiau crefydd yn y Deheudir, yr oedd y crefyddwyr o amgylch ei gartref, yn Sir Feirionydd, wedi eu dal gan ddychryn, ac ofnau, ac enbydrwydd, hyd yn nod am eu heinioes. Ac nid rhyfedd ei bod hi felly, gan fod y mwyaf cawraidd o honynt oll wedi ffoi. Nid oedd yr un capel hyd y flwyddyn hon wedi ei adeiladu trwy yr holl wlad, o afon Abermaw i afon Dyfi. Yr oedd yma naw neu ddeg o eglwysi wedi eu ffurfio er's pedair neu bum' mlynedd, a rhai o honynt, feallai, yn gynt. Mewn tai anedd y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig, ac nid oedd yr un o'r rhai hyny eto wedi ei recordio. Tra yr oedd llid y boneddwr trahaus wedi enyn i'r fath raddau, ac yn tori allan ar dde ac ar aswy, yn ystod yr haf bythgofiadwy hwn, yr oedd wedi myned yn ddyryswch hollol ar y crefyddwyr, druain. Yr oedd tafodau y pregethwyr wedi eu distewi, a hwythau wedi cymeryd y traed i ffoi, a rhai o'r bobl a'u derbyniasent i'w tai wedi ffoi gyda hwy; ofnai eraill agor drws eu tai, rhag iddynt gael eu drygu yn eu hamgylchiadau trwy ddirwyon trymion; yr oedd arswyd a dychryn wedi meddianu yr holl wlad, o Dowyn i Gader Idris, ac o Arthog i Bennal, ac am dymor byr, yr oedd yr achos crefyddol wedi sefyll yn llwyr rhwng y Ddwy Afon. Dywedir hefyd i gapel Dolgellau gael ei gau i fyny am un Sabbath yr adeg yma, gan fel yr oedd arswyd wedi meddianu y pregethwyr. Erbyn hyn, yr oedd sôn am yr erledigaeth wedi cyraedd i'r cyrion y tuallan i'r ardaloedd, ac enynid cydymdeimlad cyffredinol â'r saint oedd yn cael eu gorthrymu mor greulon. Yn y Bala, yn neillduol, yr oedd y pryder a'r gofal a amlygid dros y rhai a erlidid yn fawr dros ben. Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn ŵr ieuanc newydd ddechreu pregethu. Dengys y dyfyniad canlynol o'i Gofiant, yr hwn a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, beth oedd sefyllfa pethau yn yr ardaloedd hyn, a pha beth oedd y teimlad y tuallan i'r ardaloedd:—

"Tua'r amser hwn, yn y flwyddyn 1794, neu 1795, darfu i Mr. Corbett, o Ynysmaengwyn, ymroi i erlid y Methodistiaid; gorfododd i'r brawd William Hugh, Llanmihangel, dalu 20p. o ddirwy am bregethu heb licence; dirwyodd eraill am roddi eu tai i bregethu ynddynt heb eu recordio, ac eraill i bum' swllt yr un am wrandaw yn y cyfryw leoedd. Nid oedd y Methodistiaid hyd yn hyn yn eu harddelwi eu hunain fel Ymneillduwyr; feallai am fod amryw o'r offeiriaid yn perthyn i'r Corff, ac mai offeiriaid yn benaf oedd ei sylfaenwyr; ac fel hyn, nid oedd gan neb o'r pregethwyr licence i bregethu, canys nid oedd cyfraith i'w hamddiffyn ond fel rhai o dan y cymeriad o Ymneillduwyr. Ond yr amser hwn, gorfu ar yr holl bregethwyr yn y Gogledd gymeryd licence; a chofrestrwyd y capelau, ynghyd â thai anedd i bregethu ynddynt. Daeth llythyr o'r Bala i Ddolgellau yn hysbysu fod modd gochelyd talu y ddirwy am bregethu mewn tai oedd eto heb eu cofrestru, trwy gymeryd y llwon gofynedig cyn pen pum' niwrnod wedi cael y rhybudd cyfreithiol, os da yr wyf yn cofio, a pheidio pregethu yn y manau hyny hyd y Chwarter Sesiwn. Aeth y brawd Hugh Llwyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau yn ddioed i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lanerchgoediog, at Griffith Owen, dau wr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o 20p bob un; a phrydnhawn yr un diwrnod, aethom dros afon Mawddach i Lanenddwyn, at Mr. Owen, ac i Hendreforion, at Mr. Parry, dau ustus heddwch, i gymeryd y llwon angenrheidiol; ac felly yr aeth yr ystorm hono heibio. Yn wyneb hyny o erledigaeth, yr oeddym yn gweled rhai proffeswyr yn ofnus, ac yn anmhenderfynol pa beth a wnaent. Yr oedd yn amlwg y buasai yn well ganddynt i Hugh Llwyd a minau beidio galw yn eu tai wrth fyned heibio, gan na fynent ar hyny o bryd gymeryd arnynt mai Methodistiaid oeddynt. Ond yr oedd rhai eraill yn ymddangos yn wrol, ac yn ymddwyn yn garedig atom. Gobeithio yr wyf na welir byth erledigaeth yn Nghymru; ond meddyliais lawer gwaith wedi y tro hwn, os byth y cawn weled erledigaeth yn ein gwlad, y caem ein siomi am sefydlogrwydd llawer o broffeswyr, ac hwyrach y caem y siomedigaeth fwyaf ynom ein hunain." Y Drysorfa, 1847, tudal. 66.

Bellach nid oedd dim i'w wneyd ond disgwyl am Chwarter Sesiwn y Bala. Yr oedd y boneddwr o Ynysmaengwyn yn ustus heddwch, ond nid oedd dim heddwch i'r Methodistiaid oddiwrtho ef, na diogelwch ychwaith, heb son am heddwch. "Os tewi a son a wnai di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon o le arall." Felly hefyd cyfododd ymwared i'r Methodistiaid o le arall. Gwnaethpwyd cais am drwyddedau i'r pregethwyr, ac am i'r tai lle y cynhelid pregethu gael eu cofrestru. Cymerodd Methodistiaid y Bala ran flaenllaw mewn dwyn ymlaen eu cynorthwy, yn enwedig Mr. Charles, a John Evans, yr hen bregethwr. Rhoddodd Mrs. Charles hefyd lawer o gynorthwy yn yr achos hwn, fel y gwnaeth yn achos capel Llanfachreth. Trwy eu hofferynoliaeth hwy sicrhawyd gwasanaeth cyfreithiwr i ddyfod i'r Bala i ddadleu achos y rhai a ofynent am drwydded. Mae yr hanes hwn yn cael ei adrodd yn Methodistiaeth Cymru (I. 584.):—

"Yn y cyfamser, yr oedd Chwarter Sesiwn yn y Bala gerllaw,. a darpariaeth wedi ei wneuthur i geisio yno amddifyniad y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymnau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd yn Ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon Sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr; ond hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain; a phan rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw., y cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill ai rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd barson Llandderfel, a ddywedai, 'Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny.' 'Y cwbl sydd arnom ni eisiau,' ebe Mr. Jones, yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono." Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, anogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedau mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddid y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu; ond wedi i'r Methodistiaid enill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn;— y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd."

Un o'r rhai oedd yn ymofyn am gael cofrestru ei dy o flaen ynadon Sir Feirionydd yn y Bala y diwrnod hwnw, ac a lwyddodd hefyd i gael trwydded, ydoedd Edward Williams, dilledydd, Towyn, yr hwn a ddirwywyd i 20p am ganiatau i William Hugh bregethu yn ei dŷ, ac a fu yntau hefyd ar ffo o hyny hyd y pryd hwn. Ychydig amser yn ol, cawsom y fraint o weled y drwydded hon fel yr ysgrifenwyd hi yn wreiddiol ar groen, a dangoswyd hi yn gyhoeddus i'r Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Towyn, yn y flwyddyn 1885. Y mae yn cael ei chadw fel trysor gwerthfawr gan rai o hiliogaeth yr hen bererin. Gwaith rhagorol, er mwyn coffadwriaeth yr hen Gristion, fyddai i'r teulu ei throsglwyddo i'w chadw yn Ngholeg y Bala, neu Aberystwyth. Wele gopi o honi air am air—

"Merioneth

to wit.

} Thomas a Becket Sessions, 1795, held before

Rice Anwyl and Thomas Davies, Clerks
Justices of the Peace in and for the said
county.

That a Certain House called Porthgwyn, now in the occupation of Edward Williams, Taylor, situate in Towyn in the County of Merioneth, was this seventeenth day of July 1795, recorded as a place of religious worship for the use of the Protestant Dissenters according to the Statute in such case made and provided.

EDWARD ANWYL,
Dpty. Clerk of the Peace."

Un o'r ddau a enwir yn y drwydded hon ydoedd parson Llandderfel, yr hwn a ddywedai yn y llys, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." Ar ol hyn aeth yr ystorm fawr heibio. Nid oedd perygl i'r rhai oedd wedi cael y trwyddedau oddiwrth y gyfraith mwy, er nad oeddynt eto yn ddiberygl oddiwrth ddynion creulon. Y Sabbath cyntaf ar ol fy nyfod adref," ebe Lewis Morris, "aethum y boreu i Dowyn i bregethu. Erbyn myned yno yr oedd y milwyr ar yr heol, yr hyn na arferent fod ar y Sabbothau; a rhai o'm cyfeillion a'm cyngorasant i beidio cadw odfa, gan eu hofn, ond dywedais nad oedd wiw ildio bellach, ac nid oedd raid en harswydo, am fy mod tan gysgod amddiffyniad cyfraith Prydain Fawr. Felly cadw yr odfa wnaed, a llonyddwch a gafwyd. Yr oedd yr erlidwyr bellach yn analluog i wneuthur niwed i ni." Nid yn unig yr oedd y pregethwr tan amddiffyniad cyfraith Prydain Fawr, ond yr oedd y ty hefyd y pregethid ynddo, ac yr oedd y rhai a elent i mewn i'r tŷ i wrando, o tan amddiffyniad yr un gyfraith, fel na feiddiai squire y plwyf, na'i filwyr wneuthur niwed i neb o honynt. Tybed nad oedd yr ychydig grefyddwyr yn Nhowyn y boreu Sabbath hwnw yn teimlo yn debyg fel y teimlai yr Iuddewon, pan y daeth Petr o hyd nos i guro wrth dŷ Mair, mam Ioan, wedi dianc yn rhydd oddiwrth y pedwar pedwariaid o filwyr yn ngharchar Herod!

Tranoeth ystorm ydoedd. Wedi i'r dymestl fyned heibio, y gwyntoedd ostegu, a'r gwlawogydd beidio, y mae tawelwch yn dilyn, yr elfenau fel pe wedi blino yn ymladd, ac wedi myned oll i orphwyso a huno, a môr a thir wedi dyfod mor llonydd a llyn llefrith. Gellwch weled eich cysgod yn y llyn dŵr, a chlywed deilen rhedynen yn disgyn ar y llawr, gan faint y tawelwch sydd o'ch deutu. Eto i gyd, mae y dymestl wedi gadael ei hôl ar ddyn ac anifail, a natur drwyddi draw wedi ymddryllio, a bydd gwaith nid bychan i adgyweirio yn ol llaw. Felly y gwnaeth ystorm yr erledigaeth ruthr brawychus ar yr eglwysi bychain oeddynt wedi ymgasglu ynghyd ychydig amser yn flaenorol. Gwnaed y gwan-galon yn wanach, a gyrodd i gilio y rhai oeddynt eto heb eu gwreiddio yn y gwirionedd. Ond gwnaeth yr oruchwyliaeth arw y ffyddloniaid yn ffyddlonach, fel y mae y tân yn gwneyd yr aur yn burach. Yr oedd Edward William mor hoew a'r biogen ar hyd tref Towyn, ar ol cael ei dŷ wedi ei drwyddedu. Dangosodd fod plwc ynddo lawer tro ar ol hyn. Lluchiodd yr erledigaeth ei thonau dros Dowyn a'r amgylchoedd, mewn rhyw wedd neu gilydd, dros ryw gymaint o amser eto. Pan oedd un o'r cyfeillion yn myned a'r gloch trwy y dref, i gyhoeddi fod gwr dieithr yn pregethu yn y capel, daeth y boneddwr o'r Ynys ar draws y crier, a gorfu arno ffoi i'w gell. Ar hyn, aeth Edward William a'r gloch allan ei hun, ond ymaflwyd yn y gloch o'i law, a tharawyd ef â hi; ond yr unig anhap, yn ffodus, a ddigwyddodd y pryd hyn oedd, colli'r gloch, a dernyn o gantel yr het a aethai ymaith gyda'r ergyd. Fel hyn y cyfryngodd Rhagluniaeth, onide gallasai darn o'r pen fyned ymaith yr un modd. Daeth Mr. Jones, y cyfreithiwr o Gaer y crybwyllwyd am dano, i wybod am hyn, ac anfonodd gais at Edward William am iddo ganiatau y boneddwr yn ei law ef am y weithred. Ond nacawyd y cais, "Yr wyf wedi ei roddi," ebe E. W., "yn llaw uwch gŵr na chwi, Syr."

Yr oedd Griffith Owen, Llanerchgoediog, wedi ffoi pan y dirwywyd ef i 20p. Ac anfonodd Mr. Corbett ei stiward a chwnstabliaid i'w dyddyn, i geisio rhai o'r anifeiliaid i lawr i Dowyn, i'w gwerthu. Gan ei bod yn yr haf, yr oedd y gwartheg yn y ffridd; aethant hwythau i'r ffridd i'w hymofyn. Wrth eu gweled y dyfod yno ar y fath neges, yr oedd gwragedd crefyddol a duwiol yr ardal ar eu gliniau yn gweddio ar iddynt fethu yn eu hamcan. Llwyddodd eu gweddiau yn rhyfedd i roddi atalfa ar yr atafaeliad. Methasant a dal yr un o'r anifeiliaid; yr oedd y gwartheg a'u cynffonau i fyny yn y gwres, yn rhedeg i bob cyfeiriad; rhedai y cwnstabiaid yn llewis eu crysau, ac er eu llafur, a'u lludded, a'u chŵys, gorfu iddynt roddi i fyny, a dychwelyd adref yn eu cywilydd. Yr oedd Griffith Owen yn daid i Mr. Griffith Pugh, Berthlwyd, blaenor yn bresenol gyda y Methodistiaid yn Bryncrug.

Effeithiodd yr erledigaeth hon er drwg ac er da. Megis y bu yr ymraniad rhwng Harries a Rowlands, ddeugain mlynedd yn flaenorol, yn gwmwl du dros Gymru, yn achos i laweroedd ollwng eu gafael o'u proffes, ac i grefydd mewn llawer ardal ddiflanu yn llwyr, yr un modd, fe ddrygodd y dymhest hon achos y Gwaredwr am ysbaid rhwng y Ddwy Afon, a bu yn waith rhai blynyddau i adgyweirio y rhuthr a wnaed. Yr un pryd, bu yn foddion i beri i'r ychydig ffyddloniaid gredu yn gryfach nag erioed fod yr Arglwydd o'u tu. Am Gorris yr ysgrifenwyd yr hyn a ganlyn, a chofnodwyd yr hanes yn y flwyddyn 1840, tra yr oedd llygaid-dystion o'r amgylchiadau eto yn fyw.

"Wedi yr erledigaeth uchod, aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofnau; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell i bregethwr i'n plith, dygai yr hen wragedd damaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewn twll yn y mur tra parhai yr odfa; byddai hwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogaeth yr amseroedd hyny, deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu o'r eglwys i o 15 i 20 o rifedi."

Ond pa fodd yr ymdarawodd y rhai a ddirwywyd mor drwm? Pobl dlodion oeddynt oll, ac yr oedd 20p yn swm mawr iddynt hwy i'w dalu eu hunain, heblaw yr amser oeddynt wedi golli trwy ffoi o'u cartrefi. O ba le y cafodd y bobl druain arian i dalu y dirwyon? Yr hanes a adroddir gan eu teuluoedd a'u perthynasau ydyw fod y Gymdeithasfa wedi eu talu. Yr oedd y Cyfundeb yn cynorthwyo y gweiniaid y pryd hwnw; ac hwyrach yn helaethach nag yn awr. Er nad oedd dim rheolau wedi tynu allan, pa fodd i estyn cynorthwy, yr oedd cariad ac ewyllys da yn ddigon o gymhellion i gynorthwyo mewn amgylchiadau o fath y rhai hyn. Ymddengys hefyd fod cydymdeimlad mawr yn cael ei amlygu at y gorthrymedigion gan y brodyr crefyddol yn Nolgellau a'r Bala. Yr oedd Cyfarfod Misol yn bod yr amser yma, y ddau ben i'r sir yn un, ond nid ydym wedi cael allan am ddim symudiad a wnaeth y Cyfarfod Misol fel y cyfryw yn y mater. Cylch eangach, sef y Gymdeithasfa, oedd yn rheoli mewn amgylchiadau o'r fath yma yn y blynyddoedd hyny.

Naturiol iawn ydyw gofyn y cwestiwn hefyd, Beth a ddaeth o'r erlidiwr? Dywed Lewis Morris am dano,—"Gellir sylwi na ddarfu i'r boneddwr hwn ddiweddu ei ddyddiau yn gysurus, yn ei feddwl nac yn ei ystad. Dywedir ei fod yn ei flynyddoedd olaf mewn ofn mawr rhag y Methodistiaid. Yn amser terfysg a fu yn Manchester yn 1817, dywedai, 'Beth os cwyd y Methodistiaid? Hwy a'm lladdant i yn sicr.' Nid oedd efe, druan gŵr, yn eu hadwaen, nac yn gwybod mai ysbryd addfwyn a llonydd a feithrinid ganddynt yn eu holl gymdeithasau; ond euogrwydd ei feddwl oedd yn creu bwganod i'w ddychrynu."

Ond y mae hanesion ar gael, a ffeithiau hefyd ymhlith y trigolion, wedi eu trosglwyddo o dad i fab, mai boneddwr caredig oedd Mr. Edward Corbett. Cael ei yru i erlid y Methodistiaid a gafodd gan eraill, y rhai a gludent bob chwedlau drwg iddo am danynt. Yr oedd achwynwyr yn brysur mewn gwaith o'r fath o gwmpas palas y boneddwr. Cares i William Hugh, Llechwedd, a achwynodd arno gyntaf; a'r ail dro dygwyd y newydd i'r Ynys cyn nos dranoeth ei fod wedi pregethu yn Nolgellau. Arferai y diweddar Humphrey Davies, Corris, yn fynych adrodd yr hyn a glywsai efe ei hun o enau y boneddwr, fel prawf ei fod yn cael ei dwyllo gan ei weision ei hun. Yr oedd H. D. un tro ar ymweliad ag Ynysmaengwyn ar neges cyn diwedd oes yr hen foneddwr. Arweiniwyd ef gan Mr. Jones, y goruchwyliwr, i'r ystafell lle yr oedd yr hen ŵr, yr hwn a ofynai, pan welodd Mr. Humphrey Davies, "Pwy yw hwn sydd gyda chwi, Mr. Jones?" "Gŵr o Gorris, wedi dod ar neges," ebe yntau. "O, gŵr o Gorris, ai e? Fi chwalu hen gapel Corris, a thaflu y pulpud dros y geulan i'r afon." Dywedai H. D. fod ei waed yn berwi wrth ei glywed, gan fel yr oedd yn teimlo nad oedd Mr. C. yn gwybod y gwir hanes.

Cynhaliwyd Cymdeithasfa yn Nhowyn, ymhen deuddeng mlynedd ar ol yr helyntion hyn, sef yn y flwyddyn 1807, y gyntaf erioed a gynhaliwyd yn y lle. Pryderai llawer ynghylch cynal y fath gyfarfod mor agos i balas y boneddwr, ac adroddir amryw hanesion ynglŷn â'r amgylchiad. Ymhlith eraill, dywedir i ŵr oedd yn cadw gwest-dŷ yn y dref fyned ato, i'w hysbysu am y cyfryw gyfarfod, ac nas gallai efe atal i'r Methodistiaid ddyfod i'w dy, ac heblaw hyny, y gwyddai mai hwy oedd y bobl agosaf i'w lle a ddeuent i'w dy ef. Arwyddodd yntau ei foddlonrwydd iddo wneyd fel y mynai. Diwrnod cyntaf y Gymdeithasfa aeth rhai o'r hen dylwyth chwedleugar i ddweyd fod llawer o bobl wedi dyfod i'r dref, ac y byddai yno lawer mwy dranoeth, gan feddwl yn sicr cael croesaw ganddo. Ond y cwbl a gawsant ganddo oedd, "Gwnant lawer o les i'r dref." Ymhen y flwyddyn bu Sasiwn yn y dref drachefn (cedwid Sasiwn yn flynyddol yn Nhowyn am amser maith ar ol hyn), a phwy y tro hwnw a anfonai gais at y pregethwyr am gael pregeth Saesneg ond merch y boneddwr. Cydsyniwyd a'i chais, pregethwyd pregeth Saesneg gan un o'r Methodistiaid, sef y Parch. Robert Ellis, y Wyddgrug, yn Nhowyn, yn y flwyddyn 1808. Safai y foneddiges ieuanc ar yr heol, a gwrandawai yn astud ar y bregeth drwyddi.

Prawf arall fod y boneddwr wedi cael ei arwain, i fesur, gan eraill i'r erledigaeth ydyw y geiriau a adroddai ef ei hun ymhen blynyddoedd ar ol hyn. Digwyddai fod prinder ymborth mawr yn y wlad, oddeutu 1817 neu 1818, ac eisiau bara yn gwasgu yn drwm ar y preswylwyr. Gan gredu y byddai hyny o ryw wasanaeth, anfonodd y gŵr boneddig am lwyth llong o haidd i Aberdyfi; a chymaint oedd yr awyddfryd am ei gael, fel y gwerthwyd y cwbl mewn deuddydd. Synodd y boneddwr at hyn; ni feddyliasai fod angen y tlodion mor fawr. A chan gyfeirio at yr amgylchiad, efe a dorodd allan i lefaru, gan ddywedyd; "Welwch chwi, pe buasai y Methodistiaid wedi gwneyd rhywbeth, cawswn wybod y cwbl gan y clepgwn, ond ni fu wiw ganddynt ddweyd fod y fath eisiau ar y tlodion!" Y mae yn deilwng o sylw fod hiliogaeth y boneddwr hwn wedi darfod oll o'r wlad er's dros 10 mlynedd. Yr erledigaeth hon, hefyd, fu yn foddion i beri i'r pregethwyr,. a'r capelau, a'r tai gael eu trwyddedu ymhob man—yn y siroedd eraill yn gystal a'r sir hon, ac i'r Methodistiaid alw eu hunain yn Ymneillduwyr. Rhydd y dyfyniad canlynol olwg gyflawn. ar yr amgylchiadau: " Deallodd Mr. Charles, mewn ymddiddan â'r cyfreithiwr parchus hwn, pryd yr adroddodd wrtho yr erledigaeth yr oedd y Methodistiaid dani oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C——t wedi troseddu y gyfraith ei hun, wrth ddirwyo pregethwyr, a'r rhai a'u derbynient i'w tai, gan na ranodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thlodion y plwyf yn ngwydd y dirwyedig. Cynygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gosbi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes O leiaf iddo gydymgynghori a'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos gerbron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith. "Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oedd Cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y Cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed dan nawdd y gyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd. Mr. Charles, John Evans, ynghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd; ond gwrthwynebid hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynent, er dim, gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Y canlyniad fu i ddirwy o 20p. gael ei osod ar William Pugh; 20p. ar dŷ yn Nhowyn; 20p. ar dy yn Mryncrug; ac 20p. ar dŷ yn Llanerchgoediog. Parodd hyn, fel y gallesid meddwl, fraw a synedigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu gwneyd yr un peth â C——t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath; mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisiau rheswm, mwyach, o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm; ac o hyny allan, ni bu un petrusder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn."—Methodistiaeth Cymru (I. 599).

Nodiadau

golygu