Hanes Niwbwrch/Ffiniau neu Derfynau y Fwrdeisdref
← Hanes Llanamo neu Rhosyr o dan y Tywysogion Cymreig | Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson |
Sefyllfa Rhosyr ar ol y Goresgyniad yn amser Edward I → |
4. FFINIAU NEU DERFYNAU Y FWRDEISDREF
Y mae'n rhaid i mi gyfaddef yn y fan yma ei bod yn anhawdd dilyn y terfynau, oherwydd fod rhai enwau yn ddieithr i hyd yn oed y trigolion. Ac oherwydd nad oedd yr awdwr yr hwn yr ymgynghorais ag ef (fel y y mae'n debyg) yn hysbys iawn yn y mater, bu gorfod iddo yntau ymddibynnu ar dystiolaeth eraill, oblegid ni phroffesa ei fod wedi cerdded y ffiniau, ond disgrifia hwy, "fel y'm hysbyswyd," meddai, "gan y trigolion ryw bryd yn ol"; felly y mae rhannau o'r disgrifiad isod yn lled dywyll. Fel hyn y dywed Rowlands:—"Gan gychwyn yng Nghlynnog Fechan, rhaid i ni fyned trwy Derwyn Beuno i Ddolgeran; ac oddi yno trwy ganol Morfa Genyt i Afon Braint ger Rhyddgaer; oddiyno i Abermenai; ac o Abermenai i Ro-bach; oddiyno yn agos i'r Hendai i'r Bryn Rhedyn; ac oddiyno i Faesyceirchdir; yna i Lyn Rhos-ddu; ac oddiyno trwy Gae'r tywyn i'r brif-ffordd; yna at y Maen Llwyd ; ac oddiyno gan amgylchynu ychydig i Lain y Groesfaen; yna at dy neilltuol yn y dref, a elwir y Plasuchaf; oddiyno i Dir Bodfel; yna at y Ty Mawr; ac oddiyno mewn cyfeiriad trofaol i'r Bryn Madog ym Morfa Malltraeth ; oddiyno i Gerrig Mawr; ac oddiyno dros Hendre 'r Orsedd i'r Glynteg; ac oddiyno i Gefn Mawr Isaf; oddiyno, yn agos i Hendre 'r Orsedd, i le a elwir yn gyffredin, y Dafarn Bridd; yna i'r Caeau Brychion; ac oddiyno i Lyn y Rhoshir (yn Rhos yr Aur); ac yna trwy Dir Nest (Llain Nest) i'r Bryn Sinc; ac yna gan amgylchu Cerrig y Gwŷdd, heibio i Ysgubor y Person cyrhaeddwn Glynnog Fechan o'r lle y cychwynasom y gylchdaith."
Nid ydyw y tir oedd gynt yn Gyttir (Common) neu dir cyffredin, yn cael ei alw yn awr yn Forfa Genyf. Y mae wedi ei rannu yn fân dyddynod, ac y mae terfyn y fwrdeisdref yn rhedeg o Ben y Wal ar hyd y Lon Dywod, rhwng Tros yr Afon a Glan yr Afon, i Lammau y Rhyddgaer, lle mae rhyd i groesi Afon Braint. Nid ydwyf yn gwybod a ydyw "Derwyn Beuno" a "Dolgeran" yn enwau yn bresenol ar feusydd yn agos i Glynnog, ai peidio. Mae yr Erwhirion a rhannau eraill o Glynnog Fechan ymhlwyf Niwbwrch. Efallai fod yr enw rhyfedd Erwhirion yn llygriad o Derwyn Beuno. Sant Beuno oedd un o'r tadau Cristnogol a wnaeth Glynnog Fawr yn Arfon yn enwog. Mae 'r enwau Clynnog Fechan a Derwyn Beuno yn profi fod rhyw gysylltiad rhwng y fferm hon ym Môn a'r Fonachlog Fawr oedd gynt yng Nhlynnog Arfon.
Yr wyf wedi methu cael allan lle 'r oedd Llain y Groesfaen. Mae ychydig o ffordd rhwng lle 'r oedd y Maen Llwyd, yn agos i Dal y Braich, a'r Plas uchaf yn enwedig wrth "amgylchu" o'r naill i'r llall, Yr wyf fi yn meddwl mai i gyfeiriad Tyn Rallt, ac yna heibio'r hen Dy'n y Cae, yr oedd y terfyn yn cyfeirio rhwng y Maen Llwyd a'r Plas uchaf.
Os oedd Ysgubor y Person yr un â'r hen Ysgubor Ddegwm, y mae y disgrifiad-"amgylchu Cerrig y Gwydd i Ysgubor y Person"—yn dywyll i mi, oblegid y mae gryn ffordd rhwng yr Hen Ysgubor Ddegwm a therfyn y plwyf yn nhir Clynnog.
Ond er gwaethaf yr ychydig dywyllni a'r bylchau sydd yn y disgrifiad o'r ffiniau, y mae'n eglur fod y tiroedd a elwid gynt yn Hendre Rhosyr yn gorwedd i'r gorllewin a'r de-orllewin o'r pentref, ac yn cyrraedd o'r Tyddyn, heibio i'r Hendre' Fawr, Ty'n y coed, Ty'n y cae, Rhedyn Coch, Cefn Bychan, a thyddynod eraill, hyd Fryn Madog. Ymddengys fod y Frondeg hefyd tuallan i ffiniau y Fwrdeisdref.
Fel y sylwyd eisoes yr oedd perchenogion a deiliaid rhai maerdrefi oedd tu allan i derfynau plwyf Niwbwrch yn rhwym i dalu gwriogaeth i'r Tywysog yn Llys Hendre Rhosyr. Ac heblaw y pethau a nodwyd o'r blaen yr oeddynt (fel y dywedir am etifeddion Tre Bill, neu Glan y Morfa) "i dalu gwriogaeth i Felin Rhosyr ynghyda maenorwaith (fel ei gelwid) a thalion cylchau march a rhaglot, gan dalu am bob relief ddeg swllt, a'r un faint am amobr."
Yn gyffelyb, dywedir am dir-ddeiliaid Tre Garwedd—sef y gyfran o'r Rhandir a ymestyn o Lon Dugoed i Grochon Caffo-"y rhai oeddynt yn rhwym i dalu i'r trysordŷ brenhinol bum swllt a phum ceiniog bob tri
Ac ymhellach,—"yr oedd holl dir-ddeiliaid y drefgordd hon yn rhwym i gymeryd eu cylch ym Melin Rhoshir, i gyflawni gwasanaeth maenorawl," ac i dalu dirwyon yr un fath ag etifeddion Tre Bill.