Hanes Niwbwrch/Prif achos Dadfeiliad Bwrdeisdref Niwbwrch

Dyrchafiad y Fwrdeisdref yn yr unfed ganrif ar bymtheg Hanes Niwbwrch

gan Owen Williamson

Yr Adfywiad cyntaf

7. PRIF ACHOS DADFEILIAD BWRDEISDREF NIWBWRCH

Yr hyn sydd yn tynnu sylw mawr dieithriaid pan ar ymweliad yn Niwbwrch ydyw y cyflawnder mawr o dywod sy'n gorchuddio holl blwyf Llanddwyn (y Gwning—gaer Fawr yn bresennol,) ac yn bwgwth plwyf Niwbwrch â'r un dynged a syrthiodd i ran y plwyf cymydogaethol.

Nid ydyw o un pwrpas i mi ddisgrifio fel y mae pethau yn awr, ond hwyrach na fyddai yn anyddorol nac anfuddiol nodi yr hyn ddywed hynafiaethwr enwog mewn perthynas i'r difrod a gyflawnwyd gan y tywod; ac hefyd ychwanegu rhai sylwadau o'r eiddof fy hun.

Clywais lawer gwaith y traddodiad yn cael ei adrodd, sef y byddai offeiriad Llanddwyn yn gallu myned ar draed i Glynnog yn Arfon, ar hyd y tir oedd gynt yn ffurfio gwlad helaeth yn y man lle y mae tonnau y weilgi fawr yn chwareu ar fanciau peryglus Morgilfach Caernarfon, fel y prancia ŵyn ar y ddol. A phwy sydd heb glywed hanes traddodiadol Tre Gaeranrhod oedd ger Dinas Dinlle?

Dywed Rowlands am Landdwyn, fel hyn: "Y mae y cyfan bron wedi ei orchuddio gan drwch mawr o dywod, yr hwn a yrrwyd gan y gwyntoedd oddiar lennydd cyferbyniol Arfon; ac y mae y lluwchfeydd tywod yma wedi bod mor andwyol i'r llanerch hon fel y maent wedi llwyr orchuddio tai a gerddi, a gweirgloddiau y rhai debygid oeddynt gynhyrchiol dros ben yma yn yr oesoedd gynt fel y gweinyddid cynhaliaeth gysurus i lawer o deuluoedd; ond y mae eu haneddau wedi eu claddu yn ddwfn dan y bryniau tywodlyd yma; etto, ar amserau bydd y gwyntoedd ystormns yn chwalu y tywod, ac yn dadenhuddo adeiladau i oleu dydd, fel eu gwelwyd gan lawer; ond fe 'u cleddir yn ddwfn eilwaith mewn byr amser, lle y byddant yn gladdedig am oesoedd drachefn."

Nid ydwyf fi am ddweyd dim i ddadymchwelyd, nac i geisio cadarnhau, y traddodiadau uchod, na sylwadau yr hynafiaethydd; ond yn ol deddf cyfatebiaeth gellir dyfod i benderfyniad fod cnewyllyn y gwir a'r ffaith yn y traddodiad a'r chwedl, oblegid y mae llawer o bobl sy'n awr yn fyw yn cofio gwastadeddau gwyrddion a phorfaog yn lle y llanerchau sy'n bresennol megis yn ymfalchio yn eu ponciau llwydion tywodlyd.

Pe byddai i ddieithrddyn ymweled a thywyn Niwbwrch a sylwi ar y cannoedd aceri sydd o dan dywod, a phe clywai rhyw hen frodor yn disgrifio y gwahaniaeth rhwng ystad y plwyf yn awr a'r hyn oedd pan oedd yr henafgwr yn blentyn; a phe byddai iddo gymharu y Gwning-gaer Fawr a mannau eraill â'r hyn oeddynt yn yr oesoedd gynt, yn ol hanes credadwy, byddai y canlyniad yn ddigon i'w lenwi â syndod, wrth feddwl fod y bryniau a'r breichiau mawrion o dywod wedi eu gyrru o rywle i ddiffeithio un plwyf cyfan, ac i orchuddio cyfran fawr o blwyf Niwbwrch sy'n terfynnu ar y plwyf anrheithiedig.

Mewn un man, y mae Rowlands yn canmol tir Clynnog Fechan oherwydd fod y fferm honno "yn cael ei thrwytho â'r tywod a chwythir oddiyno (Morfa Ceinwen,) cystal â'r trwch halawg o'r mor," ac felly yn ei wneud yn dra chynyrchiol. Ond mewn man arall, wrth gyfeirio at ran o blwyf Niwbwrch, efe a ddywed: "O barth i ansawdd y tir rhaid i mi sylwi fod yr holl gymydogaeth yn dra chynyrchiol, ac yn gyfaddas i bori anifeiliaid, neu i gynyrchu grawn, yr hyn a briodolir i'r awelon halaidd a chwythant drosto. Y mae rhan o'r diriogaeth a wyneba haul hanner dydd yn cynhyddu ac yn cael ei hadnewyddu beunydd drwy ei bod yn cael ei thaenellu beunydd â thywod halawg o'r môr, er fod gyrriad y tywod gan wyntoedd cryfion y de-orllewin wedi bod yn dra anfanteisiol i'r dref hon lawer pryd."

Gŵyr ein amaethwyr yn dda mor llesol i'r tir ydyw y gwrtaith a elwir guano; ac o'r mathau o wrtaith ag sy'n myned dan yr enw hwnnw, nid oes un yn fwy gwerthfawr na'r Peruvian guano; ond gwyr y morwyr hynny a fuont ar ororau gorllewinol America Ddeheuol mor ddiffrwyth a diffaith yr ymddengys yr ynysoedd a lleoedd eraill lle yr oedd y guano mewn gorlawnder. Lled debyg yw y tywod yn ei effeithiau; y mae'n llesol iawn i lawer math o dir os defnyddir ef yn gymedrol, ond lle y mae wedi gorchuddio cannoedd lawer o erwau â llawer o droedfeddi o drwch ohono y mae'r fendith yn troi i fod yn ddinystr anrheithiol.

Bu 'r lluwchfeydd ar rai adegau yn ddychrynllyd. Y mae'n amhosibl dirnad bron o ba gronfa ddihysbydd y daeth y miliynau tunelli o dywod a orchuddiodd ran mor fawr o wlad deg a ffrwythlawn, os na chredwn yr hen draddodiad a ddywed fod bàriau a banciau Morgilfach Caernarfon un adeg yn gwneud i fyny rannau o blwyfi Llandwrog, Clynnog, a Llanddwyn. Os felly yr oedd, y mae'n rhaid mai yn amser rhyw ystormydd gerwin y torodd nerthoedd y weilgi anwrthwynebol dros derfynau y gwastadedd bras, ac y rhychodd wyneb y tir gan ei droi yn draeth ansefydlog, yr hwn drachefn a chwalwyd gan y dymhestl ac a yrwyd yn dew gymylau tywodlyd i orchuddio broydd eang, ac i droi y Falltraeth yn dir ffrwythlon.

Y mae y difrod mawr diweddaf yn ninystriad Braich Abermenai, yr hyn sy'n bwgwth cau i fyny fynedfa ddeheuol y Fenai, yn ddarlun bychan o'r modd y dinystriwyd breichiau a thiroedd eraill, ac yr anrheithiwyd Llanddwyn ar hannau o Niwbwrch. Os difrodwyd cymaint, ac os y lledodd dylanwad y tywod mor bell, mewn un oes yn ein dyddiau ni, pa faint a anrheithiwyd ynghorph y pum can mlynedd diweddaf!

Ond er fod dynion yr oes hon wedi bod yn llygaddystion o ddifrod mawr, eto y mae llawer o bethau yn profi fod rhyw luwchfeydd mwy dychrynllyd o lawer wedi bod ryw flynyddoedd yn ol. Edrycher ar leiniau a gerddi Niwbwrch, yn enwedig rhai yr ochr ddeorllewinol, a cheir gweled fel y maent mor uchel o'u cymharu â lefel y ffyrdd. Mewn rhai achosion bu i'r trigolion gario trwch mawr o dywod oddiar wyneb eu gerddi er mwyn dyfod at y pridd cynhenid a gyfansoddai dir y gefnen hyd Landdwyn; ac mewn un amgylchiad beth bynnag wrth drolio y tywod o ardd darganfuwyd pydew genau yr hwn oedd lawer o fodfeddi islaw yr arwyneb oedd wedi ei godi gan y tywod. Nid oedd neb yn gwybod dim fod yr hyn sydd mor werthfawr a bendithiol i bentref ar gefnen lled uchel, yn orchuddiedig ar hyd y blynyddoedd gan gaenen drwchus o dywod yngardd tŷ a elwir Coedana.

Hefyd yn Heol Malltraeth, yn agos i'r Plas uchaf, y mae tŷ o'r enw Pen y Bonc, a alwyd felly oherwydd fod gynt bonc fawr o dywod yn y cae y saif y ty arno. Efallai mai nid y storm a grynhodd y tywod i'r man hwnnw, ond mai y trigolion wrth glirio 'r ffyrdd a gludasant y tywod yno. Mae'r tywod wedi ei chwalu, a'r cae wedi ei wneud yn wastad, ers blynyddoedd; ond yr oedd pobl yr oes o'r blaen yn cofio fel y byddai 'r plant yn chwareu ar y bonc dywod.

Etto, y mae Rowlands yr hwn a ysgrifennai ddau can mlynedd yn ol yn disgrifio helbulon Niwbwrch ddau can mlynedd cyn ei amser yntau: "Ac er ceisio attal hynny, (hynny yw, lledaeniad y tywod) fe roddwyd cyhoeddiad allan yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth yn gwahardd dan boen dirwyon mawrion i neb ddryllio y bryniau tywod a orweddant o'r tu cefn i'r dref, trwy dorri y morhesg a ddefnyddir i wneud rhaffau, fel yr arferir, a rhag rhyddhau y tywod trwy hynny, ac iddo gael ei guro, ac felly i'r dref gael ei gorchuddio yn anisgwyliadwy."

Yr wyf yn gobeithio nad ydwyf wedi rhoddi disgrifiad rhy faith wrth ysgrifenu ar yr achos yma. i ddadfeiliad Niwbwrch. Gyrrwyd ymaith bob ynni ac anturiaeth o ysbryd y tyddynwyr; a safodd amaethyddiaeth yn syn uwchben effeithiau yr ystormydd anrheithiol. Gallwn enwi rhai o'r hen dadau a wrthodasant dir i'r dehau o bentref Niwbwrch, a hynny ar brydles hir ac ardreth isel iawn, oherwydd fod y tywod gwŷn yn drwch mawr yn gorchuddio 'r holl fro. Gyrrwyd teuluoedd lawer o'u tyddynod yn Llanddwyn a Niwbwrch, gan yr anrhaith tywodlyd, a thaflwyd hwynt i ymddibynnu ar y rhan o Niwbwrch oedd heb ei niweidio, ac i geisio noddfa yn y dref. Nid oedd gweithfeydd yn agos, ac ni oddefid i ddieithriaid ymsefydlu mewn plwyfi eraill; ond rhywfodd cysylltwyd Llanddwyn â Niwbwrch, a thaflwyd felly laweroedd i bwyso ar bentref oedd eisoes yn rhy lawn o drigolion.

Y mae llawer o bobl ag sy'n awr yn fyw yn cofio Niwbwrch yn isel ei chyflwr, a'r mwyafrif o'i thrigolion yn dlawd ac anghenus, er i bob ewin yn y lle fod yn ddiwyd yn y gwaith môrhesg; ond pwy all ddirnad y cynni, yr angen, a'r tlodi oedd fel cwmwl dudew uwchben y plwyf pan oedd cyfraith yn bwgwth cosbi 'n llym y neb a dorrai fôrhesg i geisio cadw 'r newyn draw.

Dyma ni yn awr wedi gweled y bwrdeisiaid ar y gris isaf yn y dadfeiliad cymdeithasol. Ni raid i ni ryfeddu oherwydd iddynt ddeisebu y llywodraeth a cheisio rhyddhad odiwrth y beichiau neu'r gost ynglyn â breintiau prif dref yr Ynys. Mae llawer bachgen tlawd yn ein dyddiau ni wedi llafurio 'n galed a chynilo i gaslu arian i brynu tir neu dŷ er mwyn sicrhau breintiau lled amheus; ond wedi cael rhosyn y ddinasfraint, ceir fod galwadau a threthi trymion fel y pigau sydd dan y rhosyn yn gwaedu 'r llaw nes gwneud i'r perchennog ar lawer adeg syrthio i brofedigaeth a bod ar fin taflu 'r fraint a'r cwbl o'i law, a chanu—"Diofol ydi dim." Yn debyg i hynny yr oedd bwrdeisiaid Niwbwrch yn nheyrnasiad Harri VIII., a'i fab Edward VI., pan yr atolygasant ar y Llywodraeth eu gwaredu oddiwrth eu breintiau.

Ychydig sydd ar gael o hanes bywyd cymdeithasol yn Niwbwrch yn y cyfnod tywyll rhwng yr adeg y rhoisant eu breintiau i fyny, a'r amser y dechreuodd rhyw fath o adfywiad gynhyrfu y lle.

Nodiadau

golygu