Hanes Niwbwrch/Yr ail Ddadfeiliad
← Achos yr Adfywiad | Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson |
Yr Adfywiad Crefyddol → |
10. YR AIL DDADFEILIAD
Pe buasai yr hen blâsau sydd yn aros yn gallu siarad ychydig mwy, oni fuasai ganddynt stori ddyddorol i'w hadrodd am ddigwyddiadau a helyntion yr amser gynt? Ond y mae'n rhaid ymfoddloni ar olion bychain henafiaethol,—ôl blaen troed digwyddiad yn y fan yma, ac ychydig o ôl sawdl helynt yn y lle acw; a chyda thrafferth mawr y gellir dilyn ein henafiaid ar hyd llwybrau dyrys y ddeunawfed ganrif. Bu cymylau duon iawn yn taflu eu cysgodion dros lechweddau Niwbwrch hyd amser yr Adfywiad Crefyddol tua chanol neu ddiwedd y ganrif; ac yn wir, digon helbul fu yma er pob ymdrech ddaionus i ddyrchafu 'r lle yn foesol, oblegid anhawdd iawn ydyw hyd yn oed arafu olwynion dirywiad, heb son am wneud iddynt droi tuag i fyny.
Gallwn gasglu oddiwrth enwau rhai o'r hen dai eu bod ryw adeg yn dafarndai. Cydiwyd â'r plâsau, ac â'r tai mwyaf, ryw faint o dir a brynwyd, mae 'n debygol, yn ddiweddarach i ffurfio tyddynod. Yr oedd y tir yn llawer gwaelach nag ydyw yn awr, oherwydd diffyg diwylliant yn cael ei achlysuro gan ymledaeniad y tywod mewn parthau o'r plwyf; ond er hynny bu rhai tyddynwyr ymroddgar yn ymladd yn erbyn gwrthwynebiadau, a buont lwyddiannus i hau hadau dyrchafiad. Yr oedd y rhai hyn yn ddiwyd yn ceisio diwyllio 'r meusydd, a hau a phlannu; ond yr oedd yno ddosbarth llai gweithgar na hwynt, er hynny yr oeddynt bob amser yn ddiwyd gyda 'r gwaith o ddifa 'r cnwd.
Yn amser y Dirywiad Cyntaf cosbid y neb a dorrai fôr-hesg. Ni chai hyd yn oed ddynion cryfion waith i'w wneud, oblegid nid oedd ond ychydig iawn o drin tir; ac nid oedd derbyniad i drigolion un plwyf i blwyf arall, rhag iddynt "blwyfo" yno. Dywedais mewn pennod arall fod trigolion plwyf Llanddwyn wedi eu gyrru gan y tywod i ymsefydlu yn Niwbwrch. Yr oedd digon o angen yn y lle hwnnw eisoes; ond pan y dyblwyd y boblogaeth, aeth y sefyllfa yn un ddifrifol. Mae yn anhawdd dirnad na deall y modd yr oedd un dosbarth mawr o'r bobl yn cael eu cynhaliaeth, na deall y modd yr oedd rhai yn gallu byw yn onest am un diwrnod.
Byddai rhai yn pysgotta ychydig, neu yn casglu ynghynauaf y traethau. Clywais fod yn y cyffiniau lawer o rêdnwyddwyr (smugglers) yn niwedd y ganrif o'r blaen ac yn nechreu hon, yn gwneud bywoliaeth wrth fasnachu mewn nwyddau ar y rhai yr oedd toll uchel ond a ddygid i Gaergybi yn ddi-doll, ac felly 'n anghyfreithlon.
Yr oedd rhai hefyd yn gwningwyr medrus; ac eraill yn saethu llawer yn y gauaf pryd yr ymwelir â'r glannau hyn gan filoedd o hwyaid gwylltion. Ac os dywedwn y gwir yn ddistaw yr oedd yno lawer yn y cyfnod tywyll yn gwisgo menyg blewog.
Pa fodd bynnag yr oedd y trigolion yn gallu cadw angen draw tra'r oedd cyhoeddiad y Frenhines Elisabeth, yn gwahardd iddynt dorri môrhesg, mewn grym, mae 'n amlwg fod y gwaharddiad wedi ei ddileu, neu fod y tlodion yn y ganrif o'r blaen yn ei anwybyddu, oblegid yr oedd "creisio," neu gludo nwyddau môr hesg o fan i fan i'w gwerthu, yn arferiad cyffredin iawn yn nechreu y ganrif hon, a llawer o'r dynion yn dilyn yr alwedigaeth honno.
Ond er fod yno lawer iawn o dlodi, ac (oherwydd hynny yn bennaf) lawer o afreoleidd-dra, etto yr oedd yno yn y cyfnod tywyllaf deuluoedd uwchraddol fel pobl anibynnol a chrefyddol eu tueddiadau, ac felly yn ddiwyd a gonest ymhob peth, fel pe buasent o anian wahanol i rai o'u cymydogion, neu fel pe buasent wedi eu trwytho yn syniadau, arferion, a thueddiadau yr hen fwrdeisiaid gynt ag oedd wedi dyrchafu Niwbwrch mor uchel yn y canoloesoedd. Yn wir, y mae Rowlands yn rhannu trigolion Niwbwrch yn yr hen amser i dri dosbarth sef tyddynwyr rhydd-ddaliadol Hendref Rhosyr, a'r ddau ddosbarth oedd yn y faenor gaeth ac wedi hynny yn y fwrdeisdref rydd. Gallwn ninnau yn yr oes yma ddychymygu am y trigolion presennol, fod y tri dosbarth uchod yn cael eu cynrychioli ganddynt. Yr hyn lleiaf gellid cysylltu rhai o'r trigolion a'r hen dyddynwyr; eraill â'r hen grefftwyr a llawer eraill â'r dosbarth isaf oedd yno gynt. Y mae rhai o'r naill ddosbarth wedi ymbriodi i ddosbarth arall; a rhai o ddosbarth isel wedi llwyddo i ddringo i un uwch; ond gall y sylwedydd cyfarwydd yn hanes yr hen deuluoedd bwyntio at arwyddion o'r gwahaniaeth oedd fwy amlwg gynt nag yn bresennol.