Hanes Niwbwrch/Yr Adfywiad Crefyddol

Yr ail Ddadfeiliad Hanes Niwbwrch

gan Owen Williamson

Yr Adfywiad Cymdeithasol

11.—YR ADFYWIAD CREFYDDOL

Nid gwaith difyr ydyw ysgrifenu hanes dadfeiliad. Arwydd o ddirywiad moesol mewn pobl ydyw eu hymddygiad yn llawenhau ynghwymp, ac ymbleseru yn nynoethi gwendidau cymydogion anffortunus. Cafodd rhai teuluoedd eu bedyddio â bedydd alltudiaeth cyn i arferion drwg gael eu chwynnu o'r lle; ond ni ddylid gosod eu cywilydd ar ysgwyddau, nac wrth ddrysau, y sawl na phechasant yn ol cyffelybiaeth eu camwedd; ac ni ddylid codi cyrph o'u beddau er mwyn i'r arogl greu rhagfarn yn erbyn ardal.

Yr wyf fi yn y bennod hon amgeisio dangos Niwbwrch yn ei chymeriad uwchaf, sef rhoi hanes y bedydd a olchodd frychau lawer oddiar wyneb yr hen fwrdeisdref, yr hon a daflesid yma ac acw, ac ymhell tua thueddau anwareidd-dra mawr.

Nid ydwyf am fanylu dim ar hanes yr Adfywiad Crefyddol yn y ffurf a gymerodd, oblegid y mae 'n hawdd syrthio i brofedigaeth wrth sôn am grefydd, neu yn hytrach wrth feirniadu agweddion neu y ffurfiau a'r rhai y gwisgir crefydd gan ddynion.

Un peth ynglŷn â'r Adfywiad Methodistaidd yn y parth yma o Gwmwd Menai i dynnu sylw dyn diduedd, ydyw y lle amlwg yr oedd Niwbwrch yn ei gymeryd o'r dechreu fel canolbwynt y symudiad. Yma y dechreuodd gyntaf, a Niwbwrch a adeiladodd y capel cyntaf, yn y rhanbarth. Nid am fod y plwyf yn gyfoethoccach na'r plwyfi cymydogaethol, (yr oedd ymhell yn y cyfeiriad gwrth gyferbyniol);-nid am fod safle Niwbwrch yn fwy canolog na Dwyran neu Langaffo, (gallasai y lleoedd hynny fod yn hwylusach ar lawer cyfrif);—ac nid chwaith am fod yno fwy o grefyddwyr, y bu i Niwbwrch gymeryd y flaenoriaeth am lawer o flynyddoedd. Ond, (a chydnabod o hyd y gallaf fod yn camgymeryd) byddaf fi yn meddwl fod y plwyfi agosaf heb anghofio y pryd hynny, fel y gwnaethant yn fwy diweddar, mai Niwbwrch oedd prif dref y Cwmwd, ac mai hi fel y cyfryw oedd i fod y prif gyrchfan ynglŷn â symudiad crefyddol, yr un modd ag ynglyn ag achosion gwladol y Cwmwd yn yr hen amser. Ac heblaw hynny, y mae'n bosibl fod lle fel Niwbwrch ag oedd wedi ymgynefino cymaint â gweithrediadau bwrdeisiol ar hyd y blynyddoedd, wedi dysgu egwyddorion llywodraeth leol, ac wedi dwyn i fyny ddynion hyddysg yn rheolau trefnidaeth. Mae yn beth addefedig—fod deheurwydd gyda threfniant yn llawn mor angenrheidiol ynglyn â'r peiriant allanol ag ydyw zel ac ymroddiad fel elfenau mewnol

Nodiadau

golygu