Hanes Niwbwrch/Yr Adfywiad Cymdeithasol
← Yr Adfywiad Crefyddol | Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson |
Achosion y Dyrchafiad Cymdeithasol → |
12.—YR ADFYWIAD CYMDEITHASOL
Y mae Niwbwrch wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau, fel y ceisiais ddangos o'r dechreu hyd yma; ond y cyfnewidiad mwyaf o honynt oll ydyw 'r un sydd wedi ei dwyn dros yr agendor fawr, a'r hyn sydd yn codi y lle yn uwch o hyd o'r pydew yr oedd y trigolion ynddo yn nechreu 'r ganrif.
Ond pa fodd y gallaf ar ychydig dudalennau ddarlunio mewn trefn, a disgrifio mewn modd dealladwy, hanes yr Adfywiad a ddyrchafodd Niwbwrch mewn ystyr gymdeithasol i safle anrhydeddus iawn?
Nid ydyw gwisg dyn a'i arferion bob amser yn arddangos ei foddion a'i gymeriad. Felly hefyd nid yw ymddangosiad allanol Niwbwrch (er fod cyfnewididiad mawr er gwell wedi cymeryd lle yr hanner can mlynedd diweddaf) yn arddangosiad cyflawn o honi yn ei chymeriad cymdeithasol. Ewch i ambell ardal, a chwi a gewch weled palas hardd, meusydd eang, a da lawer, mewn enw yn perthyn i ddyn a gyfrifir yn wr mawr; ond ymhen ychydig, efallai, cewch weled y chwysigen wedi rhwygo a'r perchennog wedi myned gyda'i gwynt. Ond ewch i Niwbwrch a chwi a gewch weled ty trefnus a sylweddol, ac ynddo yn byw deulu diymhongar. Nid oes yno ddim afradlonrwydd nac un ymgais i ffugio. Os y cewch ychydig fanylion yn hanes y gwr, chwi a ddeuwch i ddeall ei fod wedi disgyn o deulu gwerinol; ei fod wedi cychwyn o'i gartref cyntaf heb ddim ond ffettan fechan yn cynnwys ei holl eiddo mewn ychydig ddillad; ei fod trwy ymroddiad, penderfyniad, a chynildeb wedi diwyllio ei hunan, ac ymddyrchafu i gymdeithasu â thywysogion masnach; a'i fod yn awr yn mwynhau digonedd ac anibynoldeb fel ffrwyth ei ymdrechion.
Mae y gwrthgyferbyniad rhwng sefyllfa gymdeithasol bresennol trigolion Niwbwrch, a'r eiddynt drugain mlynedd yn ol, yn ddigon i lenwi yr hwn a gymero y peth i'w ystyriaeth â syndod mawr.
Nid ydwyf yn dweyd fod llwyddiant wedi anfon ei belydrau drwy bob ffenestr. Ni chafodd pob bachgen yr un manteision; ac ni chafodd llawer fwynhau y wobr, neu y gamp, ond am ychydig amser. Mae yn Niwbwrch gostrel dagrau, bron ymhob tŷ, oblegid ni cheir llawer o lwyddiant, mwy na buddugoliaeth ar ol brwydr, heb lawer iawn o aberth. Oh, y taliad mor ddrud a dalodd yr hen dref am y dyrchafiad cymdeithasol a ddaeth i'w rhan o'r diwedd! Tynnodd Neifion Gawr i'w fynwes oer lawer tad, mab, a brawd; ac achosodd i afonydd o ddagrau heilltion i redeg o ffynhonnau serch gweddwon, amddifaid, a pherthynasau galarus.