Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Dan Addysgiaeth

Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Ar ei Deithiau

PEDR DAN ADDYSGIAETH

Ni pherthyna i ni groniclo pa fodd y daeth Le Fort i Moscow, ond y mae pob sicrwydd mai efe oedd dysgawdwr Pedr Fawr yn y ddinas hono. Yr oedd Le Fort wedi cael y fantais o addysg Ewropeaidd, a meddai ar gyfran helaeth o sylwgarwch ar ffeithiau. Efe a esponiodd i Bedr Fawr y fath ragoriaeth rhyfeddol a feddai milwyr hyfforddiedig a dysgybledig Ewrop ar heidiau anffurfiol Rwssia; ac ar hyn o bryd yr adnabu Pedr y cynllun o ddifodi y Strelitsiaid, sef milwyr y brif ddinas, у rhai a fuasent bob amser mor flaenllaw i osod i fyny a diorseddu breninoedd. Cadwodd ei fwriad yn ddirgel ar hyny o bryd, ond ni chollodd ei olwg arno o gwbl.

Yn fuan wedi i'r ymerawdwr ffurfio cyfeillgarwch â Le Fort; daeth i gydnabyddiaeth â pherson arall , enw yr hwn oedd Mensikoff, dyn ieuangc o'r tarddiad mwyaf israddol, ond yr hwn yn y diwedd a gafodd fwy o ddylanwad yn yr Ymerodraeth Rwssiaidd na Le Fort ei hunan. Amcanai hwn enill ei fywioliaeth trwy werthu teisenau a phasteiod hyd heolydd Moscow, gan eu hargymhell gyda math o gân o'i gyfansoddiad ei hun. Tra yr ydoedd yn myned yn mlaen fel hyn tynodd sylw Le Fort, yr hwn a ymddiddanodd ag ef, a thrwy iddo gael ei foddhau gyda'i ffraethineb parod, efe a'i dygodd at yr ymerawdwr. Rhaid ei fod wedi gwneyd argraff cyffelyb ar Pedr, oblegyd y mae son am dano yn fuan wedi hyny fel un o'i weision personol.

Trwy anogaeth Le Fort ffurfiodd Pedr gatrawd ar y cynllun Ewropaidd, ar ba un y gwnaeth efe y blaenaf yn filwriad, tra yr ymrestrodd ei hunan fel tabyrddwr (drummer), gan mor awyddus ydoedd i roddi gwers o ostyngeiddrwydd i'w ddeiliaid. Yn wir, fel y cawn weled, ei amcan bob amser oedd anelu at wraidd pob gwybodaeth, a thrwyadl feistroli yr hyn a gymerai mewn llaw; a gwyddai nas gallai ddyfod i wybodaeth mwy trylwyr am faterion milwraidd na myned trwy holl raddau yr alwedigaeth hono.

Oddeutu yr un amser efe a ddechreuodd adeiladu amryw longau, gyda pha rai y bwriadai hwylio i lawr yr afon Don, ac ymosod ar Azoph, yr hwn le oedd y pryd hyny yn meddiant y Tyrciaid. Wrth edrych ar ddarlunlen o Ewrop gwelir pwysigrwydd y lle hwn, am ei fod mewn gwirionedd fel allwedd i'r Môr Du; ac nid oes dim yn profi athrylith Pedr Fawr yn fwy na'i ystyriaeth o bwysigrwydd gallu morawl, ac anghenion ei ymerodraeth eang. Wedi ei gylchynu gan elynion—oblegyd yn y dyddiau hyny yr oedd yr holl genedloedd cymydogaethol yn gyfryw—y Môr Du yn meddiant y Tyrciaid, a'r Môr Llychlyn yn meddiant y Swediaid, teimlai nas gallai y ei wlad fyth fod yn fawr nes y dygid rhai porthladdoedd oddiar y galluoedd hyny. Yr oedd ymerawdwyr blaenorol wedi rhoddi allan orchymynion yn gwahardd i bawb drafaelio o'r tu allan i derfynau yr ymerodraeth; ond gwelai Pedr mai yr anhawsder mawr oedd, nid cadw pobl i mewn, ond myned allan o honi; a gwyddai nad oedd dim gwell llwybr at oleuo yr anwybodus, a symud ymaith ragfarnau, na chefnogi dyfodiad dyeithriaid i'r deyrnas, a rhoddi pob rhwyddineb i'w ddeiliaid yntau dramwyo trwy wledydd ereill

Byddem yr olaf o bawb i ganmol penaethiaid nad oeddynt ond arwyr milwrol neu goncwerwyr yn unig, ond y mae yn amhosibl peidio edmygu yr ymerawdwr ieuangc hwn yn y cyfnod yma o'i yrfa. Yr oedd ymerodraeth Twrci y pryd hyny y fwyaf galluog yn y byd. Ychydig flynyddoedd cyn hyny yr oedd Vienna wedi cael ei gwarchae gan 200,000 o Dyrciaid; ac yr oedd Sweden yn wlad llawer mwy gwareiddiedig, yn meddu byddinoedd dysgybledig—ac yn fuan i gael Siarl XII., y penadur mwyaf rhyfelgar yn Ewrop, i'w blaenori. Ond nid oddiar unrhyw gariad at ryfel y bwriadai Pedr oresgyn terfynau ei gymydogion, ond fel moddion angenrheidiol er cyrhaedd dybenion mawr. Nis gallai wareiddio ei bobl heb borthladdoedd, felly porthladdoedd a fynai efe gael.

Dywedir fod Pedr Fawr, pan yn blentyn, yn meddu arswyd rhyfedd at ddwfr; yn gymaint felly fel y byddai i groesi afon ei daflu i ddirdyniadau. Bernir mai y ffaith, ddarfod iddo gael diangfa gyfyng rhag boddi pan oedd oddeutu pum' mlwydd oed, a'r dychryn a gafodd ar yr achlysur hwnw, oedd yr achos o hyny; ond o'n rhan ein hunain, nid oes genym ond ychydig ffydd yn y grediniaeth fod ar yr ymerawdwr ofn dwfr. Yr oedd drwy ei holl fywyd yn ddarostyngedig i ffitiau; ond gan fod ei frodyr felly hefyd, y mae yn dra thebyg fod y peth yn y teulu. Pa un bynag am hyny, os bu y fath beth yn bodoli, rhaid ei fod wedi ei orchfygu yn fuan; canys ymddengys y byddai, pan, yn fachgen, yn ymarfer â rhwyfo mewn cychyn bychan ar yr afon Yansa, yr hon a red trwy Moscow. Hyd yn nod cyn iddo erioed weled y cefnfor, ac yn preswylio 500 o filldiroedd oddiwrth y môr, deallai anghenion ei ymerodraeth eang, a phenderfynodd y byddai raid iddi ddyfod yn allu morwrol.

O ganlyniad, yn y flwyddyn 1695, efe a hwyliodd i lawr yr afon Don, ac a ymosododd ar Azoph; ond bu yn aflwyddiannus y waith gyntaf, yn benaf oherwydd bradwriaeth un o'i gyflegrwyr, o'r enw Jacob, yr hwn a hoeliodd gyflegrau y Rwssiaid, ac a drôdd yn Fahometan, gan fyned drosodd at y Tyrciaid, i amddiffyn y lle yn erbyn ei feistr blaenorol. Nid oedd Pedr, er hyny, yn un a gymerai ei ddigaloni gan un methiant. Adnewyddodd ei ymosodiad yn y flwyddyn ganlynol; a chan fod marwolaeth ei frawd Ioan erbyn hyn wedi taflu holl adnoddau arianol yr ymerodraeth i'w ddwylaw, yr oedd ganddo foddion i gyfnerthu a darparu ar gyfer ei alluoedd mewn modd effeithiol. Yr oedd y llongborth newydd yn Woronetz, ar yr afon Don, wedi cynyrchu iddo, erbyn haf 1696, lynges o 25 o rwyflongau, a phedair o longau tân. gyda pha rai y gorchfygodd efe y llynges Dyrcaidd o'r tu allan i Azoph. Trwy fod pob cymhorth o'r môr wedi ei gau allan, cariodd yn mlaen y gwarchae gyda bywiogrwydd adnewyddol, ac yn mhen dau fis, yr oedd y Rwssiaid yn Azoph. I ddyogelu meddiant o'r allwedd yma i'r Môr Du, efe a eangodd ac a gadarnhaodd yr amddiffynfeydd, adeiladodd borthladd digon mawr i dderbyn llongau trymion, a rhoddodd orchymyn am i bymtheg a deugain o longau rhyfel gael eu hadeiladu, gan gadw mewn golwg ar yr un pryd y cynllun o wneyd camlas er cysylltu yr afon Don gyda'r Wolga.

Flwyddyn neu ddwy cyn hyny yr oedd Pedr wedi ysgaru a'i wraig yr hon a briodasai pan yn fachgen gwraig a ddewisasid iddo, ac nid cydmar o ddewisiad ei hun. Rhoddir amryw resymau dros ei waith yn gwneyd hyny; ond ymddengys mas y gwir reswm oedd, ei bod yn ddynes o ddealltwriaeth gwan, yn gaethes i goelgrefydd a rhagfarn, yn offeryn yn nwylaw yr offeiriaid, ac o ganlyniad yn sefyll ar fordd pob diwygiad; canys yr offeiriaid, gan wybod y darfyddai eu gallu o flaen goleuni gwybodaeth, ni chollent un cyfleustra i ddrwgliwio yr ymerawdwr ac i ddyrysu ei amcanion. Diau i Pedr gamsynio wrth adael ei fab Alexis dan ei gofal, fel y profwyd wedi hyny; ond i'n meddwl ni profai dynerwch ac ystyriaeth at y fam, ac arddangosai galon fwy teimladwy nag y mae haneswyr yn gyffredin yn addef ei fod yn ei meddu.