Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Ar ei Deithiau

Dan Addysgiaeth Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Yn Lloegr

PEDR FAWR AR EI DEITHIAU

.

Wedi sicrhau porthladd dymunol, a chael ymadael â gwraig nad oedd yn addas iddo, y gwaith nesaf wnaeth Pedr oedd anfon nifer o Rwssiaid ieuangc i orphen eu haddysg yn Italy, Germany, a Holland. Hyd yma yr oedd Rwssia heb un cynrychiolydd swyddogol yn unrhyw lys yn Ewrop; ond anfonodd yr ymerawdwr genadwriaeth ysplenydd i Holland, y prif ddynion yn mha un oedd Le Fort a Menzikoff, a Phedr ei hun yn eu canlyn yn answyddogol. Y mae y rhwyddineb a'r dyogelwch â pha un yr ymadawodd â'i ymerodraeth eangfawr yn dangos mor gadarn yr ydoedd wedi sefydlu ei awdurdod. Wrth fyned trwy Riga, ar ei ffordd i Holland, ceisiodd ganiatâd i weled yr amddiffynfeydd, ond gwrthodwyd hyny gan y llywodraethwr Swedaidd—dirmyg y penderfynodd Pedr ei gospi yn y man. Wrth fyned trwy Prwssia, derbyniwyd ef gan y brenin gyda pharch mawr, a chyda holl fawredd ac ysplenydd-dra breninol. Yma ymwahanodd Pedr oddiwrth y genadwriaeth, ac a aeth i Holland, gan drafaelio yn anadnabyddus, ac mor gyflym ag oedd yn bosibl. Llogodd ystafell fechan yn y dockyard, wedi cyrhaedd Amsterdam bymtheg niwrnod o flaen y genadwriaeth. Yn fuan wedi hyny ymwisgodd fel cadben Long Isellmynaidd, ac yn y dillad hyny aeth i Saardam, lle yr ymgyflogodd fel saer llongau i weithio wrth y dydd, dan yr enw Pedr Michaeloff, gydag un o'r enw Calf. Yma y preswyliodd mewn cut pren am saith wythnos, yn gwneyd ei wely ei hun, ac yn parotoi ei fwyd ei hun, tra yr ymohebai gyda'i weinidogion gartef, gan weithio ar yr un pryd fel saer llongau.

Dyma y dull a gymerodd Pedr Fawr i ddysgu llong-saernïaeth; mor ewyllysgar i weithio fel saer llongau i'r pwrpas hwnw ag y buasai yn gweithredu fel tabyrddwr i ddyben arall yn ei gatrawd gyntefig. Gwir a ddywed un o'i fywgraffwyr boreuaf, "fod llawer o freninoedd wedi rhoi heibio eu hawdurdod wedi blino ar ofalon a llafur llywodraethu, ond efe yn unig a adawodd ei deyrnas er astudio y gelfyddyd o'i llywodraethu." Y fath ddarlun o Pedr Fawr a all meddwl ystyriol dynu ar yr adeg hon; a'r fath gyfarfyddiad a raid fod hwnw a gymerodd le rhyngddo ef a'r Duc Marlborough yn ddamweiniol yn Saardam! Oblegyd yr oedd y pendefig Seisonig yn gwybod yn dda ei fod yn canfod, yn y gweithiwr "Pedr Michaeloff," berchenog diymwad ar chwarter o'r belen ddaearol, yn arglwydd a feddai allu ar fywyd ac angeu ei holl breswylwyr; yn fyr, ymerawdwr Rwssia. Yr oedd Pedr ar y pryd, 1697, yn bump ar hugain oed, a dysgrifir ef fel dyn mawr nerthol, gyda phrydwedd hyf a rheolaidd, gwallt gloywddu yn disgyn yn fodrwyau o gylch ei wddf, a llygad du, treiddgar, yn gwibio o'r naill wrthddrych i'r llall gyda chyflymder melltenol. Ymwisgai ar yr achlysur hwnw mewn crys o wlanen goch, llodrau a het llongwr, ac eisteddai, gyda neddai yn ei law, ar ddernyn afrywiog o bren a orweddai ar lawr. Ymddiddanai, gyda difrifwch mawr, â rhyw ddyeithriaid, a'i wyneb yn arddangos, trwy ei amlygiadau cryfion ac amrywiol, y dyddordeb a gymerai yn yr ymddiddan. Y duc milwrol—onid yw yn hawdd dychymygu y gwahaniaeth yn eu gwisgoedd a'u nodweddiad?—ddynesodd ato, ac a ddechreuodd ymddiddan gydag ef trwy wneyd rhai sylwadau ar y gelfyddyd o adeiladu llongau. Tra yr oeddynt yn ymddiddan, daeth dyn dyeithr atynt, a chanddo lythyr mawr yn ei law; y gweithiwr a neidiodd ar ei draed, a chan gymeryd y llythyr, efe a dorodd y seliau, ac a'i darllenodd yn awyddus, tra y rhodiai Marlborough falch i ffwrdd heb gael un sylw pellach!

Pwy ddichon dyweyd beth oedd cynwysiad y bryslythyr hwnw! Dichon fod bywyd neu angeu, rhyddid neu gaethiwed, clod neu gyfoeth un neu fwy o'i ddeiliaid yn crogi ar air y "gweithiwr tramor" hwnw. Fel hyn, tra yn trin y cwmpas a'r neddai yn Saardam, y dygwyd iddo y newydd fod ei gydymgeisydd Augustus, etholydd Saxoni a thywysog Conti, wedi ei ddewis i deyrngadair wag Poland; a Phedr a addawodd ei gynorthwyo gyda 30,000 o filwyr.

Yn y cyfamser yr oedd ei fyddin yn enill buddugoliaethau o'r newydd tuag Azoph; ond yr oedd gan Pedr uchelgais ardderchocach na dymuniad am ogoniant milwrol. Parhaodd i ymwellhau mewn gwahanol gelfyddydau, gan fyned yn fynych o Saardam i Amsterdam i wrando darlithiau ar ddifyniaeth; a gwnaeth ei hun yn alluog i gyflawni amryw weithrediadau mewn llaw-feddygaeth. Efe hefyd a ddysgodd yr iaith Isellmynaidd, ac a aeth gryn ffordd mewn mesuroniaeth, peiriannaeth wladol, a'r wyddor o wneyd amddiffynfeydd, heblaw ymweled a phob sefydliad llenyddol, elusenol, a gwyddonol, a'r melinau papur a'r melinau llifio, a phob sefydliadau llaw-weithyddol, y rhai a archwiliai yn ofalus, gyda'r bwriad o sefydlu rhai cyffelyb yn ei ymerodraeth ei hun. "Beth yw hwna?" fyddai ei ofyniad gwastadol pan welai rywbeth newydd; ac ni orphwysai ei feddwl am foment nes cael esboniad arno. Gallwn ddychymygu syndod yr Isellmyniaid tawel a swrthlyd at y tywysog egnïol hwn, yr hwn, er yn dewis gweithio fel saer llongau, ni chymerai unrhyw drafferth i ddirgelu ei urddas; yn teithio hyd y wlad gyda bywiogrwydd meddwl a chorph hefyd ag oedd iddynt hwy yn annirnadwy, ac yn ceisio gwybodaeth gyda mwy o awydd a gwresogrwydd nag y darfu i neb tywysogion ereill hyd yn nod chwilio am bleserau.

Treuliodd Pedi Fawr oddeutu naw mis yn yr Iseldiroedd, yn ystod pa amser yr adeiladwyd llong ryfel o driugain gwn yn ol ei gynllun ef, ac yn yr hon y gweithiodd gryn lawer a'i ddwylaw ei hun. Dywedir fod y llestr hon yn engraifft ardderchog o long-saernïaeth—anfonodd hi i borthladd Archangel, canys hyd yma nid oedd ganddo borthladd yn Môr Llychlyn.