Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Yn Lloegr

Ar ei Deithiau Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Yn Dychwelyd Adref—Gwrthryfel yn Moscow—Narva

PEDR FAWR YN LLOEGR

Croesodd Pedr drosodd i Loegr, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar gan Gwilym III, yr hwn a benododd Ardalydd Caerfyrddin i weinyddu arno, ac efe a ymroddodd i wasanaethu yr ymerawdwr. Prif amcan Pedr oedd archwilio llyngesbyrth a sefydliadau morawl Lloegr, megys ag y gwnaethai yn Holland; ac er ei fod yma yn cadw ei radd o'r golwg, ni ddarfu iddo weithio yma fel gweithiwr cyffredin; eto, yn ol un hen ysgrifenydd, "byddai iddo yn fynych gymeryd i fyny yr arfau, a gweithio gyda hwynt; a mynych ymddiddanai â'r adeiladwyr, y rhai a ddangosent iddo eu cynlluniau, a'r dull o osod i lawr, ar gyfartaledd, unrhyw long neu lestr." Ar y cyntaf lletyai yn York Buildings, tra yn Llundain; a dywedir fod y tŷ olaf, agosaf i'r afon, ar yr ochr ddwyreiniol i Heol Buckingham, gerllaw y Strand, wedi cael ei drigianu ganddo; ond wedi hyny, er mwyn cael bod yn nês i'r môr, efe a breswyliodd mewn mewn ty perthynol i'r hynod John Evelyn yn Deptford, fel y crybwylla hwnw yn ei ddyddlyfr, dan y dyddiad Ionawr 30, 1698.

Ymerawdwr Muscofi, wedi dyfod i Loegr, a chanddo feddwl am weled adeiladu llongau, a logodd fy nhy i, Saye's Court, gan ei wneyd yn llys a phalas, wedi ei ddodrefnu o'r newydd gan y brenin." Ac oddeutu yr amser yma ysgrifenai gwas Evelyn at ei feistr fel hyn:—"Y mae llonaid y tŷ o bobl, ac y mae yn ddigon budr. Cysga yr ymerawdwr yn yr ystafell nesaf i'ch llyfrgell, a chiniawa yn y parlwr agosaf i'ch myfyrgell. Y mae yn ciniawa am ddeg o'r gloch, ac am chwech yn y nos; anaml y mae adref am ddiwrnod cyfan; mae yn bur fynych yn yard y brenin, neu ar y dwfr, wedi ymddilladu mewn amryw wisgoedd. Dysgwylir y brenin yma heddyw: y mae y parlwr goreu yn lled lân i'w groesawu ef. Y mae y brenin yn talu am y cwbl a gaiff." Y fath gipolwg a gawn ar yr hen amser gynt trwy chwedleuaeth o'r fath yma!

Er na ddarfu i'r ymerawdwr gario allan ei awyddfryd mor bell yn y wlad hon ag i weithio fel saer llongau, eto yr oedd mor awyddus am hwylio a thrin cychod yma ag yn Holland. Yr oedd Syr Antoni Deane ac Ardalydd Caerfyrddin gydag ef bob dydd ar y Tafwys, weithiau yn hwylio mewn pleser-longau, bryd arall yn rhwyfo mewn cychod, yn mhob o'r ddau ymarferiad yma dywedir fod yr ymerawdwr a'r ardałydd yn rhagori. Bwrdd y Llynges a dderbyniodd orchymyn oddiwrth y llywodraeth i logi dwy long, i fod at: orchymyn yr ymerawdwr pa bryd bynag y tybiai yn briodol hwylio ar y Tafwys, er ymarfer mewn llongwriaeth. Yn ychwanegol at y rhai hyn, y brenin a'i hanrhegodd a'r llong "Royal Transport," gyda gorchymyn am i'r cyfryw gyfnewidiadau a chyfaddasiadau gael eu gwneyd ynddi ag a ddymunid gan ei fawrhydi yr ymerawdwr; ac hefyd i newid ei hwylbreni, ei rhaffau, ei hwyliau, &c., yn y fath fodd ag y barnai ef yn briodol, er gwellhau ei chymwysderau hwylio. Ond ei hyfrydwch llawr oedd cael myned i gwch byrddiedig perthynoldi'r llyngesborth, a chymeryd dim ond Menzikoff a thri neu bedwar ereill o'i ddylynwyr, i weithio gyda' hwy, ac yntau wrth y llyw. Trwy ymarferyd fel hyn dywedai y byddai yn alluog i'w dysgu i hwylio llongau wedi iddynt gyrhaedd adref.

Tra yn Lloegr, trodd Pedr ei sylw at beiriannaeth, a derbyniodd radd doethawr o brifysgol Rhydychain. Cymerodd i'w wasanaeth uwchlaw pum' cant o bersonau—swyddogion, peirianwyr, cyflegrwyr, llaw-feddygon, &c.; ac yn neillduol, un fintai o beirianwyr a gweithwyr medrus, y rhai a ddanfonodd efe i Rwssia, i'r dyben o gario allan gynllun mawr a ffurfiasid ganddo yn ei feddwl pell-ganfyddol. Y gwaith mawr yma oedd agor cymundeb rhwng yr afonydd Volga a Don â'r Môr Caspiaidd. Gellir cael meddylddrych am yr anwybodaeth a'r goelgrefydd yr oedd gan Pedr i ymwneyd â hwy, wrth feddwl fod y cynllun ardderchog hwn wedi codi cri yn mhlith yr offeiriaid a'r pendefigion, y rhai a ddywedent "ei fod yn annuwioldeb troi y ffrydiau un ffordd, tra yr oedd Rhagluniaeth wedi bwriadu iddynt fyned ffordd arall.". Ferguson, yr enwog beiriannydd a mesuronwr, a aeth i'w wasanaeth, ac efe a ddygodd gyntaf rifyddiaeth i ymarferiad yn nhrysorlys Rwssia. Cyn hyny, cyfrifent yn ol dull y Tartariaid, gyda pheleni yn hongian ar wyfren.

Cyn ymadael a Lloegr, wrth ffarwelio â'r brenin William, anrhegodd ef & pherl werth £10,000, gan ei dynu o boced ei wasgod, "wedi ei lapio mewn darn o bapur llwyd.". Anrheg freninol ydoedd, er nad oedd yn cael ei chyflwyno gyda seremoni breninol; ond yr oedd Pedr yn erbyn ffurfiau a seremoniau, ac yr oedd Gwilym III. yn ddyn llawer rhy gall i ddal sylw ar beth felly. Mewn ad-daliad hefyd am y gwasanaeth a wnaethai Ardalydd Caerfyrddin iddo, efe a roddodd i'r pendefig hwnw yr hawl i drwyddedu pob casgen o dybacco a ddeuai i Rwssia, ac i godi pum' swllt am bob trwydded. Rhaid fod hyn yn dwyn cyllid mawr i mewn, oblegyd prynwyd yr hawl i ganiatâu y trwyddedau gan gwmni Seisonig am £15,000.