Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Davies, Richard

Davies, Jonathan Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Eifion Wyn

DAVIES, RICHARD.—Brawd i Mr. Jonathan Davies, a aned yn Hendre Fechan, Nantmor. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Beddgelert, ac yn y Liverpool Institute. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd i'w dad yn Chwarel Cwmllan. Oddi yno aeth i North Ballachulish, yn Scotland, i fod yn arolygwr chwarel, a bu yno am tua thair blynedd. Ar ei ddychweliad adref aeth i arolygu chwarelau Moelferna a Deeside, Glyndyfrdwy. Yn 1879 ymsefydlodd yn y fasnach lechi ym Mhorthmadog. Y mae wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda materion crefyddol a chymdeithasol yn y dref. Y mae yn noddwr ffyddlon i'r Ysgol Sabothol a'i threfniadau yn Nosbarth Tremadog. Y mae hefyd yn un o aelodau mwyaf gweithgar y Cyngor Sir er 1895. Bu'n Gadeirydd y Cyngor, ac amryw o'i bwyllgorau; yn aelod o'r Pwyllgor Addysg o'r cychwyn, hyd Mawrth, 1913, ac yn Gadeirydd amryw o'i is-bwyllgorau.

Nodiadau

golygu