Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Davies, Jonathan

Breese, Charles E Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Davies, Richard

DAVIES, JONATHAN.—Mab i Mr. Pierce Davies,[1] Porthmadog, a brodor o Nantmor, Beddgelert. Derbyniodd ei addysg ym Methania, Nant Gwynant, a Rhyl. Treuliodd y rhan gyntaf o'i fywyd ynglyn â'r chwarelau yn Llanberis, ac wedyn yn Ffestiniog. Yn 1876 ymsefydlodd ef a'i frawd—Mr. Richard Davies yn y fasnach lechi ym Mhorthmadog; a pharhant i'w dwyn ymlaen gyda llwyddiant. Y mae'n un mwyaf adnabyddus y broydd, a'r amlycaf ym mywyd cyhoeddus y dref—yr helaethaf ei brofiad, a'r addfetaf ei farn—ac yn un o'i harweinwyr medrusaf, yn grefyddol a chymdeithasol. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr Ysgol Sir ym Mhorthmadog, a phery'n un o'i llywodraethwyr, ac yn un o reolwyr yr Ysgolion Elfennol. Bu'n Llywydd Cymdeithas Llech—fasnachwyr y Deyrnas Gyfunol, 1900—2. Penodwyd ef yn Ynad Heddwch yn 1898. Efe oedd Cadeirydd cyntaf y Cyngor Dinesig (1895-8), Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, a Chymdeithas y Gwelliantau.

Nodiadau

golygu
  1. Gwel ysgrif ar Mr. Pierce Davies yn Nhrysorfa, 1884, a Chofianau Cofiawnion (Iolo Caernarfon).