Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Breese, Charles E
← Williams, William (1817—1897) | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Davies, Jonathan → |
ENWOGION HEDDYW.
"Y mae Cymru'n dod yn lle i fagu, a'r byd yn lle i fyw. Ym mhen ychydig dywedir am dani, Y gwr a'r gwr a aned ynddi.'" —MORRIS PARRY, Caer, yn 1896.
BREESE, CHARLES E.—Cyfreithiwr, llenor, hynafieithydd a gwleidyddwr. Mab hynaf ydyw i Mr. Edward Breese, a brawd i Mr. David Breese, Clerc yr Heddwch ym Meirion. Yn 1895 cyhoeddodd lyfr, dan y teitl "Welsh Nationality." Y mae'n hynafieithydd gwych, ac y mae wedi ysgrifennu amryw o ysgrifau gwerthfawr i'r cyhoeddiadau hynafiaethol. Ar ddyrchafiad Mr. J. Jones Morris, yn 1908, yn Henadur, etholwyd Mr. Breese yn olynydd iddo, fel cynrychiolydd rhanbarth orllewinol y dref ar y Cyngor Sir. Efe hefyd yw Ysgrifennydd Cymdeithas у Chwarelau, ynglyn â pha un y mae wedi dangos llawer o fedr. Efe yw Ysgrifennydd yr Income a'r Land Tax Commissioners dros ddeheubarth Arfon; ac y mae wedi gweithredu fel Trysorydd Mygedol y Cyngor Rhyddfrydig Cenedlaethol Cymreig er 1903.
IOLO CAERNARVON