Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Williams, William (1817—1897)

Williams, Walter Ebner Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Breese, Charles E

WILLIAMS, WILLIAM (1817—1897).—Un o hen yd y wlad ydoedd Mr. William Williams, Llannerch, a mab i un o Biwritaniaid gloewaf Eifionnydd. Ganwyd ef yn y Llannerch, yn y flwyddyn 1817. Yr oedd ei dad yn un o brif flaenoriaid Methodistaidd Sir Gaernarfon, yn un o sylfaenwyr yr enwad ym Mryn Melyn a Thremadog, ac yn gyfaill mynwesol i'r Parch. John Jones. Eri William Williams, y mab, gael magwraeth grefyddol, yr oedd yn ugain oed cyn ymuno â chrefydd —am na oddefai'r Methodistiaid, y pryd hynny, i blant gael eu dwyn i fyny yn y seiat fel yn awr. Ond pan ymunodd, daeth yn fuan i fod yn ddeheulaw deilwng i'w dad parchus yn eglwys Tremadog. Ar ffurfiad eglwys y Garth, efe oedd un o'r prif symudwyr, a dewiswyd ef yn flaenor yno,—swydd a lanwodd gydag urddas a pharchedigaeth am 45 o flynyddoedd.

Pan sefydlwyd Cymdeithas Lenyddol Cefnymeusydd, yn 1846, ymunodd â hi; a bu'n aelod ffyddlon ohoni hyd ei diwedd, a diau i honno fod o fantais iddo i ddysgu meddwl a dweyd ei feddwl. Yr oedd yn ddarllennwr mawr ar brif lyfrau'r Piwritaniaid, a geid yn llyfrgell ei dad—ac yn gredwr cryf yn llywodraeth ragluniaethol Duw ar y byd. Yr oedd ei dueddiadau naturiol yn siriol a bywiog; ac yr oedd bob amser yn rhydd a chyfeillgar gyda'i gydnabod oll. Yr oedd yn grefyddwr cywir, yn gymydog pur, ac yn feistr duwiol, gyda phersonoliaeth gref a dylanwadol, a'i grym yn ymestyn dros ei holl dŷ. Er yn byw tua milldir a hanner o gapel y Garth, eto anfynnych y collai unrhyw foddion tra y gallai fod yn bresennol. Mynychai'n rheolaidd hefyd y seiat ym Morfa Bychan. Yr oedd yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn gynghorwr effeithiol, ac yn weddiwr mawr. Pur anniben fu efe i gefnogi adeiladu'r Garth presennol; ond wedi i'r eglwys benderfynu symud ymlaen, ymunodd yntau â hi'n llawen, a chyflwynodd £25 i'r gronfa, gan adael £25 arall yn ei ewyllys ddiweddaf. Yr oedd yn ffyddlon a theyrngarol i'r Cyfundeb a'i gasgliadau; ond ystyriai bob achos ar ei deilyngdod ei hun. Ar ei farwolaeth gadawodd £30 i'r Drysorfa Gynnorthwyol, a deg punt at yr achos ym Morfa Bychan. Bu farw ar yr 1leg o Awst, 1897, yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa.—(Y Drysorfa. 1898, tud. 331).

Nodiadau

golygu