Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Emrys (William Ambrose)
← Ellis, Wil | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Etheridge, John → |
EMRYS (William Ambrose) (1813—1873).—Pregethwr, bardd, a llenor o nôd. Ganwyd Emrys yng ngwestŷ'r Penrhyn Arms,—man a fu wedyn yn gartref cyntaf i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, ar y cyntaf o Awst, 1813. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadegol Bangor. Dygwyd ef i fyny'n draper, a threuliodd wyth mlynedd mewn masnachdai yn Lerpwl a Llunden. Yn 1836, dychwelodd i Fangor, heb benderfynu ar gyfeiriad ei fywyd. Aeth yn gyfaill i Caledfryn ar daith" trwy eglwysi Annibynol Lleyn ac Eifionnydd; ymwelsant â Phorthmadog. Ceisiwyd cyhoeddiad ganddo, a rhoddodd un. Cerddodd yr holl ffordd o Fangor i Borthmadog i hwnnw. Hoffodd yr eglwys ef, a cheisiodd ganddo aros yn fugail arni; yntau'n anniben i gydsynio a foddlonodd i flwyddyn o brawf "; ond parhaodd honno hyd ddiwedd ei oes. Ordeiniwyd ef yn weinidog Salem ar y 7fed o Ragfyr, 1837. Meddai ar holl anhebgorion gweinidog llwyddiannus. Pregethai'n dda ac yn goeth; ac ymwelai'n rheolaidd, nes ennill iddo'i hunan barch ac anwyldeb ei holl ddeiliaid. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf amlochrog ei ddoniau a fagodd Cymru. Yr oedd yn arweinydd llwyddiannus mewn cyfarfodydd llenyddol, yn areithiwr hyawdl, yn fardd enwog, ac yn bregethwr poblogaidd. Nodweddid ei bregethu gan symlrwydd a naturioldeb, a'i farddoniaeth gan brydferthwch a cheinder. Efe yw tad Annibyniaeth broydd Madog. Bu'n weinidog gweithgar yn y cylch am 36 o flynyddoedd. Fel bardd, cystadleuodd lawer. Gweler hanes ei ymdrechion eisteddfodol a nifer ei gynyrchion barddonol yn "Hanes Llenyddiaeth Gymreig (Ashton), tud. 695—701; hefyd, feirniadaeth arnynt gan Dyfed, yn "Trem ar y Ganrif" (J. M. Jones), tud. 66. Cyhoeddwyd ei weithiau dan olygiaeth Hiraethog yn 1875. Yr oedd efe ei hun wedi cyhoeddi amryw o'i awdlau, &c., "Chofiant S. Jones, Maentwrog. Ystyrir ei "Adgofion fy Ngweinidogaeth" yn hafal i ddim o'r fath yng Nghymraeg. Bu farw ar y 31 o Hydref, 1873, yn 60 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Helyg. (Gwyddoniadur, Cyf. x., tud. 436; Y Geninen, 1895, tud. 224, 172, 130; Y Traethodydd, 1888, tud. 240: 1903, tud. 282; Y Dysgedydd, 1837, tud. 513: 1839, tud. 155, &c., &c.).