Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Etheridge, John

Emrys (William Ambrose) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Evans, John

ETHERIDGE, JOHN (1777—1867), ydoedd Albanwr Llundeinig, a aned yn y flwyddyn 1777. Arfaethai ei rieni iddo fyned yn amaethwr, a bu am gyfnod yn paratoi ei hun at hynny. Daeth i Ddyffryn Madog gyda Mr. Madocks, a daeth yn fuan i ennill ei ffafr a'i ymddiriedaeth lwyraf. Efe oedd un o'r ychydig a barhaodd yn bur a ffyddlon i'w feistr enwog hyd y diwedd. Yr oedd yn ddyn aml ei alluoedd ac yn fedrus mewn llawer crefft. Yr oedd yn saer maen a choed celfydd, ac yn ddyfeisydd gwych. Efe a benodwyd gan Mr. Madocks yn geidwad helwriaeth ei stât, ac i ofalu am ei diroedd a'r coedwigoedd yn ei absenoldeb. Priododd â Miss Catherine Hughes, Pengamfa, Penmorfa; a bu'n byw yn Gatehouse, Morfa Lodge. Gofalai am Duhwnt i'r Bwlch a Morfa Lodge i Mr. Madocks, a dygai ymlaen welliantau ac adgyweiriadau yno. Efe a adeiladodd y Tŵr gerllaw Morfa Lodge. Gwelais lawer o lythyrau Mr. Madocks ato, a thystiant oll i lwyredd ei ymddiriedaeth ynddo, a'i ffyddlondeb yntau i'w feistr. Ar ymadawiad Mr. Madocks Gymru, yn 1828, symudodd John Etheridge i fyw i Ben y Bryn, Penmorfa, lle mae wyrion iddo'n byw heddyw. Yn ddilynol, bu am ddeugain mlynedd yng ngwasanaeth Mr. Mathews y Wern. Efe gynlluniodd y peiriant naddu llechi cyntaf, yr hwn a ddaeth o'r fath wasanaeth yn y chwarelau. Danghosodd Mr. Mathews y peiriant yn Arddanghosfa Llunden, 1851, ac efe, ac nid y cynllunydd, gafodd y clod am dano. Bu farw John Etheridge ar y 10fed o Dachwedd, 1867, yn 90 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa.

Nodiadau

golygu