Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Evans, John Rhys

Evans, Evan Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Evans, Owen

EVANS, JOHN RHYS.—Mab i Mr. John Evans, Salop School, Croesoswallt, ac ŵyr i Mr. John Evans, Aberystwyth (Evans y Mathematician)—un o athrawon Dr. Lewis Edwards. Derbyniodd Mr. Evans ei addysg athrofaol ym Mhrifysgol Llunden, lle y bu am ddwy flynedd, ac y graddiodd yn B.A. Oddi yno aeth i Goleg Crist, Caergrawnt, ac etholwyd ef yn Foundation Scholar ymhen dwy flynedd a hanner. Ennillodd ei M.A. mewn Mathematical Tripos. Ar sefydliad yr Ysgol Ganol—raddol ym Mhorthmadog, yn 1894, penodwyd Mr. Evans i fod y prif athro cyntaf iddi.

Nodiadau

golygu