Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Evans, Owen

Evans, John Rhys Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

George, D Lloyd

EVANS, OWEN.—Pregethwr cymeradwy, ac un ddiwinyddion goreu ei enwad a'i genedl. Ganwyd ef ym Mhenmachno: derbyniodd ei addysg yno ac yn Lerpwl. Bu am gyfnod wedyn yn swyddfa John Roberts, A.S. Dechreuodd ar ei waith gweinidogaethol yn Llanfair Caereinion yn 1881. Ordeiniwyd ef yn 1885, tra yng Nghylchdaith Abergele. Ysgrifennodd Esboniad ar yr Epistol at y Galatiaid gogyfer â maes llafur ei enwad. Ystyrir ei "Ddiwinyddiaeth Gristionogol" yn waith safonol. Y mae dwy gyfrol o'r gwaith wedi ymddangos, ac y mae un arall i ddilyn. Y mae wedi bod yn gwasanaethu ei enwad dair gwaith ym Mhorthmadog y tro cyntaf tra'n Nghylchdaith Ffestiniog (1892-4), ac yn 1897-1900, a 1911-

Nodiadau

golygu