Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Greaves, Richard Methuen
← Greaves, John Ernest | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Griffith, William (Eos Alaw) → |
GREAVES, RICHARD METHUEN.—Mab ieuengaf, a phartner gyda'i frawd yn y fasnach lechi. Dygwyd ef i fyny'n beiriannydd, a'u chwarel hwy oedd y gyntaf yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio trydan i'w goleuo. Y mae wedi gwasanaethu llawer ar y Cynghorau Plwyfol a Threfol; a Gorffennaf diweddaf etholwyd ef i gynrychioli Plwyfi Penmorfa a Dolbenmaen ar Gyngor Sir Arfon. Cymer ddyddordeb mawr mewn magu gwartheg duon Cymreig, ac ennilla'r prif wobrwyon yn yr Arddanghosfeydd Brenhinol a Chenedlaethol gyda hwy. Gweithreda lawer fel beirniad hefyd yn yr arddanghosfeydd, a lleinw swyddi pwysig ynglyn â hwy. Y flwyddyn o'r blaen, penodwyd ef ar y Commisiwn Brenhinol i chwilio i mewn i achos damweiniau ynglyn â'r chwareli.