Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Griffith, William (Eos Alaw)

Greaves, Richard Methuen Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Hughes, Henry

GRIFFITH, WILLIAM (Eos Alaw).—Brodor o Lanbedrog, Lleyn, a melinydd wrth ei alwedigaeth. Symudodd i Borthmadog ym Mehefin, 1869, i weithio ynglyn â'r lech fasnach. Y mae wedi gwneud llawer gyda cherddoriaeth, a dechreuodd gystadlu'n fore. Y wobr gyntaf a ennillodd ydoedd o dan feirniadaeth Tanymarian, am ddadansoddi yr Hen 50 (o Lyfr Tonnau Ieuan Gwyllt). Bu'n arweinydd côr llwyddiannus yn Rhydyclafdy a Llanbedrog. Ar ei ddyfodiad i Borthmadog ymunodd â Chôr yr Eglwys (hen gôr William Owen), o dan arweiniad Mr. John Thomas. Yn ddilynol, ymunodd â Chôr Mr. John Roberts. Pan ffurfiodd Mr. Roberts y Gerddorfa, yr oedd Mr. William Griffith yn un o'r chwareuwyr cyntaf. Yr offeryn a chwareuai oedd y "ffidil fawr," neu fel y dywed y cerddorion, y "'cello." Bu'n chware ymhob perfformiad y bu'r Gerddorfa ynddo, ym Mhorthmadog, Dolgellau, Ffestiniog, Bala, Caernarfon, a Phwllheli, &c. Y mae wedi cyfansoddi tua 50 o Donau, naw o Ranganau, 4 o Donau Plant, dwy Anthem, Cantata, a Chants. Ei dôn fwyaf adnabyddus yw "Y Gest" (rhif 274, yn Llyfr Tonau y M.C.). Am ei waith fel cyfansoddwr, dyfynaf a ganlyn o adolygiad Isalaw, yn y Cymro, am Mai 25ain, 1893, ar ei rangan, "Ai Cariad yw?" "Y mae teithi y rhangan yn hynod firain. a thlws. Cyfansoddiad destlus ydyw a chyfansoddiad a haedda gylchrediad helaeth. Gwna Ai Cariad yw' destyn cystadleuol rhagorol." Ac ebe D. Jenkins am yr un dernyn—"Ceir yma gyfuniad o alawon a chynghaneddion mirain, teilwng o ysgolhaig cerddorol gwych."

Nodiadau

golygu