Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Hughes, Henry

Griffith, William (Eos Alaw) Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Iolo Caernarfon (J J Roberts)

HUGHES, HENRY.—A anwyd yng Nghefn Isa', Rhoslan. Symudodd y teulu i Dre a Phorthmadog. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Frytanaidd Bont Ynys Galch, Dolbenmaen, Clynnog, a'r Bala. Dechreuodd bregethu yn y Garth, Porthmadog. Yn 1872 derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Bryncir, Brynengan, a'r Garn. Yn 1882 ymadawodd y Garn o'r daith, gan adael Brynengan a Bryncir yng ngofal Mr. Hughesa than ei ofal ef y maent hyd heddyw. Y mae wedi ysgrifennu llawer i gyfnodolion ei enwad a'r rhai cenedlaethol, ac wedi cyhoeddi amryw lyfrau,—rhai hanesyddol yn bennaf. Wele restr ohonynt: "Hanes yr Ysgol Sul yn Eifionnydd" (1886); Cyfieithiad o Amddiffyniad i'r Methodistiaid Calfinaidd," Thomas Charles (1894); Hanes Robert Dafydd Brynengan (1895); "Owen Owens Corsywlad (1898); "Trefecca, Llangeitho, a'r Bala" (1896); Diwygiadau Cymru " (1906). Ysgrifennodd hefyd rannau helaeth o Gofiant Richard Owen—ychwaneg nag y rhoddir clod iddo am dano. Y mae ers blynyddoedd bellach yn paratoi "Hanes Methodistiaid Lleyn ac Eifionnydd," a disgwylia ei enwad yn ffyddlon am dano.


Nodiadau

golygu