Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Griffith, William

Griffith, Samuel Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Grindley, Richard

GRIFFITH, WILLIAM.—Mano'warsman, ac ysgolfeistr. Wedi cwblhau ei amser ar y môr, bu'n cadw ysgol ddyddiol, yn gyntaf mewn ystafell yn ymyl gwaelod y Grisiau Mawr, ac wedyn mewn ystafell y tu cefn i Gapel Berea, yn Terrace Road. Yr oedd yn anafus o'i glun, a gwisgai goes gorcyn. Efe oedd yr ysgolfeistr cyntaf i ddysgu'r tô cyntaf o fechgyn y Port a ddaethant yn gapteiniaid ar y dosbarth llongau a ddechreuasant hwylio o Borthmadog ymhellach na Lerpwl, Caerdydd, a'r porthladdoedd cartrefol. Morwriaeth a ddysgai efe'n bennaf. Yr oedd llawer o hynodion yn perthyn iddo, yn ei wisgoedd a'i ddull o fyw. Slippers cryfion a wisgai bob amser. Hen lanc ydoedd, ac efe a wnai bopeth iddo'i hunan—golchi, glanhau y tŷ, pobi, a choginio, heb son am drwsio ei ddillad, &c. Yn ychwanegol at gadw'r ysgol, efe hefyd a ofalai am y News-room ym Mhen y Cei.

Nodiadau

golygu