Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Grindley, Richard
← Griffith, William | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Gwilym Eryri → |
GRINDLEY, RICHARD ( —1893). Ysgolfeistr. Brodor o Gaernarfon ydoedd Mr. Grindley. Daeth o Ysgol Genedlaethol y dref honno, yn y flwyddyn 1863, i fod yn brif athro'r Ysgol Genedlaethol ym Mhorthmadog. Yr oedd yn enwog am ei allu i ddysgu plant, a bu'n llwyddiannus iawn gyda'r gwaith. Cydnabyddid ef fel un o athrawon goreu'r siroedd o amgylch. Daeth i Borthmadog ar adeg ffafriol iddo, a gwnaeth ddefnydd o'i gyfle; ac i'w lwyddiant ef y priodolid gwaith Porthmadog yn gwrthod y Bwrdd Addysg am gyhyd o amser. Yr oedd iddo barch didwyll gan bawb o'i gydnabod, ac yr oedd yn fawr ei ddylanwad yn y dref a'r gymdogaeth. Edmygid ef gan rieni a phlant; ac fel arwydd o'r parch a'r edmygedd hwnnw, cyflwynodd ei gyfeillion iddo lestri tê a choffi arian, gwerth £17, ar y 19eg o Ragfyr, 1867; a chyflwynodd y plant gâs pensel arian iddo. Yr oedd yn Eglwyswr selog a chydwybodol, a llanwai'r swydd o warden yn Eglwys Sant Ioan, ac arolygwr yr Ysgol Sabothol. Efe hefyd ydoedd ysgrifennydd pwyllgor yr eglwys Gymreig. Bu farw'n hynod sydyn, yn nhy ei chwaer yng Nghaernarfon, tra yno ar ei wyliau. Digwyddodd hynny ar y 23ain o Orffennaf, 1893, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llanbeblig, Caernarfon.