Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Llywodraeth Leol

Addysg Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Yr Eisteddfodau

PENNOD V.

Y LLYWODRAETH LEOL.

"It seems to me a great truth, that human things cannot stand on selfishness, mechanical utilities, economics, and law courts; that if there be not a religious element in the relations of men, such relations are miserable, and doomed to ruin."CARLYLE.

Llys yr Ynadon—Swyddfa'r Heddgeidwaid—Llys y Manddyledion—Y Bwrdd Iechyd—Y Cyngor Dinesig—Etholiadau'r Cyngor Sir.

LLYS YR YNADON.

Y Clercod.—Mr. David Williams, 1859; Mr. Edward Breese, 1859—81; Mr. Randall Casson, 1881.

CYNHELID Llys Ynadon Eifionnydd ar y cyntaf yng Nghriccieth. Yn y flwyddyn 1825 symudodd i ystafell y Neuadd Drefol, Tremadog, lle y bu hyd y flwyddyn 1860, pryd y symudwyd i Borthmadog.

Yn yr amser boreol yr oedd pob Ynad Heddwch i feddu'r holl wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol tuag at weinyddu'r swydd; ac o byddai rhyw waith clercyddol i'w wneud, yr oedd i gyflawni hynny ei hunan, neu fyned a'i glerc ei hun i'w ganlyn.

Yr wyf, er pob ymchwil, wedi methu cael allan pa bryd y penodwyd Mr. David Williams, Broneryri, i'r swydd o Glerc Ynadon Eifionnydd, ac a fu rhagflaenydd iddo ai ni bu. Nid oes dim cofnodion i'r perwyl yn Swyddfa'r Ynadon Porthmadog; gan hynny, anfonais i Swyddfa'r Sir; a chan fod y llythyr sy'n dilyn yn taflu goleuni ar hanes datblygiad y swydd o Glerc yr Ynadon, yr wyf yn ei roddi i mewn yma.

Clerk of the Peace's Office,
Carnarvon.,

Dear Sir,

I have your letter, and fear I cannot assist you.

As previously stated, in remote times the Justices (and they were then very few) brought their own clerks with them, and apparently charged what fees they liked.

In 1753 the Law required that the Quarter Sessions should prepare a Scale of Fees to be taken, and that it would be an offence for any Clerk to a Justice (or Justices) to demand higher fees than the Scale allowed. Subsequently in 1877, an Act was passed providing (1) That there should be only one Justices Clerk in each Petty Sessional Division, and (2) that he be paid by salary in place of Fees, and that the fees should be paid to the County Fund. From the above facts I think it more than likely that Mr. David Williams would be the first Justices' Clerk representing ALL the Justices of the Eifionnydd Division. You will see that, prior to 1877, the appointment of Justices' Clerk was purely a local affair, and as he was paid solely by fees and not by salary there would be no occasion for any record of his appointment being at the County Hall, nor would his name be likely to occur in the Accounts of the County.

Yours faithfully,

A. BODVEL ROBERTS.

Y mae sicrwydd i Mr. David Williams fod yn Glerc i holl Ynadon Eifionnydd am gyfnod lled faith; ac awgryma Mr. Charles E. Breese i Mr. Daniel Breese—ewythr Mr. David Breese—fod yn rhagflaenydd iddo, ond nid oes dim ar gael i gadarnhau hynny.

Y mae ym meddiant Mr. Christmas Jones, Tremadog, summons, o eiddo Mr. David Williams, i Alltud Eifion, yn ei rwymo i fod yn Gwnstabl Plwyf Ynyscynhaiarn; a chan fod hwn eto'n ddyddorol, ac yn dwyn cysylltiad â'r mater, dodaf hi yma.

County of Carnarvon to wit.

To Robert Isaac Jones of Tremadoc.

I do hereby summon you, to be and personally appear before such two of Her Majesty's Justices of the Peace for the said County as shall be present at the Town Hall at Tremadoc in the said County on Friday the 28th day of March instant in order to your being sworn in as Constable for the Parish of Ynyscynhaiarn in the said County, for the ensuing year, or until another Constable shall be sworn in your stead pursuant to the statute in such case made and provided. Herein fail not, as you will answer the contrary at your peril, and have you then this Warrant. Dated this 18th day of March in the Year One Thousand Eight Hundred and Forty Five.

DAVID WILLIAMS,

Clerk to the Magistrates Acting for the Division of Eifionydd. Sworn to the said Office of Constable for the Parish of Ynyscynhairan this 28th day of March, 1845. Before us

GRIFFITH OWEN, JNO. JONES.

Y cwnstabliaid uchod a gynorthwyent yr ynadon i gadw'r heddwch hyd ddyfodiad Deddf yr Heddgeidwaid 1856 i rym.

Wele'n dilyn enwau ynadon presennol Eifionnydd, ynghyda dyddiad eu penodiad:

Syr Arthur Osmond Williams, Barwnig, Castell Deudraeth, 27ain Hydref, 1877; John Ernest Greaves, Ysw., Arglwydd Raglaw, Bron Eifion, Criccieth, Hydref 1. 1879; R. M. Greaves, Ysw., Wern, 23ain o Chwefrol, 1882; J. A. A. Williams, Ysw., Aberglaslyn, 29ain o Dachwedd, 1886; Jonathan Davies, Ysw., Bryneirian, 9fed o Fehefin, 1898; Evan Bowen Jones, Ysw., Ynysfor, 8fed o Fehefin, 1901; William Watkin, Ysw., Muriau, Criccieth, Rhagfyr 1, 1902; Cadben G. Drage, Parciau, Criccieth, 15fed o Fai, 1905; F. J. Lloyd—Priestley, Ysw., Harddfryn, Criccieth, 16eg o Chwefrol, 1906; Milwriad J. S. Hughes, Llys Alaw, 27ain o Fai, 1907; D. Livingstone Davies, Y sw., M.D., Criccieth, 27ain o Fai, 1907; J. R. Owen, Ysw., Ael y Garth, 30ain o Ebrill, 1908; John Lewis, Ysw., Belle Vue, 30ain o Ebrill, 1908; y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., Brynawelon, Criccieth, 30ain o Ebrill, 1908; David Fowden Jones, Ysw., Eisteddfa, Criccieth, 27ain o Fehefin, 1912; Richard Griffith, Ysw., M.D., Porthmadog, 27ain o Fehefin, 1912; William Morris Jones, Ysw. (Cadeirydd y Cyngor Dinesig, 1910—1913); y Parch. D. Collwyn Morgan (Cadeirydd Cyngor Glaslyn, 1910—1913); Richard Newell (Cadeirydd y Cyngor Dinesig, 1913).

SWYDDFA'R HEDDGEIDWAID.

Sefydlwyd 1860.

Arolygwyr (Inspectors).—William Jones, 1859; Cornelius Davies, 1859—83; Lewis Prothero, 1883—92.

Rhingyll Gweithredol (Acting Police Sergeant).—Owen Price (yn awr ar ei flwydd-dal), 1868—79.

Y Rhingylltiaid (Sergeants).—Thomas Samuel Rowlands, 1879—83; Thomas Williams, 1883—92; John Roberts, 1892—97; Thomas Jones, 1897—1908; D. M. Jones, 1908.

LLYS Y MAN DDYLEDION (County Court).

Cynhelid "Cwrt" ar y cyntaf mewn tŷ yn High Street. Y Registrar cyntaf oedd Mr. Richard Parry; dilynwyd ef gan Mr. J. Humphreys Jones. Symudwyd i'r hen Farchnad, ac oddi yno yn 1860 i Swyddfa'r Heddgeidwaid. Wedi marwolaeth Mr. J. Humphreys Jones, yn 1886, penodwyd Mr. Thomas Jones (Cynhaiarn) i'r swydd, yr hwn a'i gweinydda hyd heddyw.

Barnwr y Gylchdaith.—Mr. William Evans. Y Registrar.—Mr. Thomas Jones.

BWRDD IECHYD YNYSCYNHAIARN.

(Local Board of Health).

Y Cadeirwyr.—Mr. David Williams, 1858—60; Mr. J. W. Greaves, 1860—61; Mr. Edward Breese, 1861

Sefydlwyd y Bwrdd uchod o dan y Public Health Act, 1848, trwy orchymyn y Bwrdd Llywodraeth Leol, dyddiedig y 9fed o Dachwedd, 1857, a gyhoeddwyd mewn atodiad i'r London Gazette am y 4ydd o Chwefrol, 1858. Nodwyd rhif yr aelodau i fod yn naw, a'r 9fed o Fawrth i fod yn ddydd yr etholiad. Dewiswyd Mr. David Williams, Castell Deudraeth, i weinyddu'r swydd o returning officer. Yn yr etholiad cyntaf yr aelodau a etholwyd oeddynt—Mri. David Williams, Nathaniel Mathew, John Whitehead Greaves, Samuel Holland, Edward Windus Mathew, David Homfray, Charles Easton Spooner, John Humphreys Jones, a Thomas Christian.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ar ddydd yr etholiad, pryd yr oedd yr oll o'r aelodau'n bresennol, a dewiswyd Mr. David Williams yn Gadeirydd.

Mewn cyfarfod o'r Bwrdd, a gynhaliwyd ar y 5ed o fis Ebrill, penodwyd Mr. Strains yn Glerc, a Mr. W. E. Morris yn Arolygydd a Swyddog Iechyd (Surveyor and Inspector of Nuisance) am flwyddyn. Ond mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar y 5ed o Orffennaf, yr un flwyddyn (1858), penderfynwyd gwneud i ffwrdd â gwasanaeth y ddau swyddog. Mewn cyfarfod o'r Bwrdd a gynhaliwyd ar y 18fed Hydref, 1858, penodwyd Mr. Job Thomas i lanw'r ddwy swydd. Gweinyddodd Mr. Job Thomas y swydd o Glerc hyd y cyntaf o Ionawr, 1883, pryd y dewiswyd Mr. John Jones, Caerdyni, Criccieth, i'r swydd—ac efe a'i gweinydda heddyw. Rhoddwyd arno ef y swydd o Glerc a Threthgasglydd. Cyn hynny, cesglid y Dreth Leol (y General District Rate) gan Mr. William Jones, Castle House; a Threth y Nwy gan Mr. William Robert Owen.

O'r flwyddyn 1883, hyd ei farw yn 1888, gweinyddai Mr. Job Thomas fel cynhorthwydd i Mr. J. Jones.

Cwynai'r cyhoedd yn fawr oherwydd y dull y cariai y Bwrdd uchod ei waith ymlaen. Ni chyhoeddai un amser ymron unrhyw adroddiad o'i weithrediadau, ac anfoddhaus iawn ydoedd y modd y dewisid yr aelodau. Gwneid hynny trwy i'r Ysgrifennydd hysbysu, ychydig cyn terfyniad tymhor yr aelodau, fod etholiad i gymeryd lle; ac enwai'r aelodau oedd yn diweddu eu tymhor. Yna cai'r trethdalwyr ychydig ddyddiau o amser i roddi rhybudd o bersonau eraill i lanw'r lle. Os na wneid hynny o fewn y dyddiau penodedig, gwnelai'r Bwrdd hynny ei hunan; ac os na byddai gwrthwynebiad i'r rhai a enwid, byddent yn etholedig. Ond cyn lleied o hysbysrwydd a roddid i'r etholiad fel y byddai'r amser wedi myned heibio cyn y gwyddai'r trethdalwyr ddim am dano. Ond o byddai i rhywun wybod, a gwneud gwrthwynebiad mewn pryd, cymerai etholiad le drwy i'r Clerc fyned a phapurau o amgylch, a'u dodi yn nhai'r trethdalwyr, gan orchymyn iddynt enwi eu dynion. Ymhen ychydig ddyddiau galwai am y papurau dull a gwnelai'r canlyniad yn hysbys. Parhaodd y hwnnw hyd ddyfodiad y Public Health Act, 1875, pryd yr etholid yr aelodau trwy bleidlais agored, yr hyn a fu mewn arferiad hyd ddyfodiad Deddf y Llywodraeth Leol, 1894, i rym.

Y CYNGOR DINESIG.

(The Urban District Council).

Y Cadeirwyr.—Mr. Jonathan Davies, 1895—98; Mr. R. M. Greaves, 1899—1904; Dr. W. Jones Morris, 1904 hyd Tachwedd 1905; Mr. J. R. Owen, Tach. 14eg, 1905—1910; Mr. William Morris Jones, 1810—13; Mr. Richard Newell, 1913.

Y Clerc a'r Trethgasglydd.—Mr. John Jones, 1895

Yr Assistant Overseers.—Mr. Wm. R. Owen, 1895—97; Mr. David Jones, 1897—.

Surveyor ac Arolygydd Iechydol.—Mr. Morgan Thomas, C.E., 1901—.

Pan ddaeth Deddf Llywodraeth Leol 1894 i rym, ar y 31ain o Ragfyr, 1894, newidiwyd enw'r awdurdod lleol o fod yn Fwrdd Iechyd i fod yn

"Gyngor Dinesig Ynyscynhaiarn,"

gyda naw o aelodau i'w gyfansoddi. Cymerodd yr etholiad cyntaf (trwy ballot) le ar y 24ain o Ragfyr, Mr. John Jones yn swyddog dychweliadol. Ymgeisiai un ar hugain. Wele ganlyniad yr etholiad:—Jonathan Davies, 485; Robert Isaac, 389; Dr. Samuel Griffith, 373; Morgan Jones, 307; Ebenezer Roberts, 300; J. E. Jones, 270; David Morris, 257; David Williams, 224; William Davies, 202.

Aflwyddiannus:—D. O. M. Roberts, 201; Robert McLean, 176; John Jones, 171; Thomas Morris, 168; Robert Price Lewis, 164; W. Kyffin Roberts, 144; John Williams, 123; Lewis Jones, 119; Robert Roberts, 103; Ellis William Roberts, 65; John Paul, 34; John O. Jones, 27.

Ar yr un dydd bu etholiad Gwarcheidwaid. Dwy sedd. William E. Morris, 450; Mrs. Lucy Jane Casson, 432; Morgan Jones, 345.

Drwy orchymyn y Cyngor Sir, dyddiedig 14eg o Fawrth, 1895, ychwanegwyd rhif yr aelodau o 9 i 17, y Dosbarth i'w rannu'n bum rhanbarth (wards).

Rhanbarth Ddwyreiniol 6 aelod
Rhanbarth Orllewinol 4 "
Rhanbarth y Gest 2 "
Rhanbarth Tremadog 3 "
Rhanbarth Uwchyllyn 2 "


Drwy orchymyn y Cyngor Sir, dyddiedig y 1af o Awst, 1895, a chadarnhad y Bwrdd Llywodraeth Leol yn 1890, gwahanwyd rhanbarth Uwchyllyn oddi wrth Ynyscynhaiarn, gan ei ychwanegu at Blwyf Treflys, ar y 30ain o Fedi, 1896.

Drwy orchymyn y Cyngor Sir, dyddiedig y 6ed o Fai, 1897, gwnaed rhif yr aelodau yn 15, gan dynnu ymaith y ddau aelod dros Uwchyllyn. Safai cynrychiolwyr y rhanbarthau eraill megis cynt.

O dan orchymyn Bwrdd y Llywodraeth Leol, dyddiedig y 23ain o Fawrth, 1895, ychwanegwyd at hawliau'r Cyngor y gallu i benodi Assistant Overseers, y rhai a benodid yn flaenorol gan y Festri. Sicrhawyd hyn o dan orchymyn, dyddiedig 12fed o Hydref, 1895.

Ar y 3ydd o Fedi, 1895, derbyniwyd gorchymyn oddi wrth y Cyngor Sir i derfynu aelodaeth aelodau'r Cyngor bob tair blynedd.

Y CYNGOR DINESIG, 1910—1913.

1. Mr. William Morris Jones, 15, Bank Place, Cadeirydd.
2. Mr. Frederick Buckingham, Post Office, Tremadog, Is-Gadeirydd.


3. Mr. Richard Newell, Central Buildings, Porthmadog, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
4. Mr. John Owain Hughes, The Glen, Porthmadog, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd.
5. Mr. John Robert Owen, Aelygarth, Porthmadog, Cadeirydd y General Purposes Committee.
6. Mr. David R. Evans, 3, Ralph Street, Borth y Gest, Cadeirydd y Pwyllgor Ariannol.
7. Mr. Jonathan Davies, Bryn Eirian, Porthmadog.
8. Capten Morgan Jones, 1, Jones, 1, Marine Terrace, Porthmadog.
9. Mr. Griffith Williams, 68, New Street, Porthmadog.
10. Mr. Ellis Griffith, 56, East Avenue, Porthmadog.
11. Mr. Thomas Garth Jones (cyfreithiwr), 7, Snowdon Street, Porthmadog.
12. Mr. Owen Jones, 22, Glanmorfa Terrace, Tremadog.
13. Mr. Evan Williams, 11 a 13, Church Street, Tremadog.
14. Mr. David Llewelyn Hughes, Frondeg, Borth y Gest.
Mr. David Griffith, Oakeley's Wharf wedi marw; ac nid oes olynydd iddo wedi ei ddewis.


ETHOLIADAU'R CYNGOR SIR.

Cymeradd etholiad cyntaf y Cyngor Sir, ym Mhorthmadog, le dydd Iau, Ionawr 24ain, 1889. Dwy sedd. Ymgeisiai tri, wele'r canlyniad:—John Roberts Y Felin (R.), 428; Capten Morris Jones (R.), 406; O. M. Roberts (A.). 383.

1892. Diwrthwynebiad: Capten Morris Jones.

O. M. Roberts (R.), 251; Robert Isaac (C.), 200. Mwyafrif Rhyddfrydol, 51.

1895. Rhanbarth Ogleddol: Richard Davies, diwrthwynebiad.

Rhanbarth Ynyscynhaiarn: J. Jones Morris (R.). 181; Robert Isaac (C.), 179. Mwyafrif, 2.

1898. Richard Davies a J. Jones Morris. Dim etholiad.

1901. Richard Davies a J. Jones Morris. Dim etholiad.

1904. Richard Davies a J. Jones Morris. Dim etholiad.

1907. Rhanbarth Ogleddol: Richard Davies, yn ddiwrthwynebiad.

Rhanbarth Ynyscynhaiarn: J. Jones Morris (R.), 288; R. Purnell (C.). 71. Mwyafrif, 217.

Yn y flwyddyn 1908 gwnaed Mr. J. Jones Morris yn Henadur, ac ym mis Gorffennaf etholwyd, yn ddiwrthwynebiad, Mr. Charles E. Breese yn olynydd iddo dros ranbarth Ynyscynhaiarn.

1910. Richard Davies a Charles E. Breese—dim etholiad.

Y Cynghorwyr presennol (1912): Y Rhanbarth Ogleddol, Richard Davies.[1] Rhanbarth Ynyscynhaiarn, Mr. Charles E. Breese.

Nodiadau

golygu
  1. Ym mis Mawrth, 1913, ymneillduodd Mr. Richard Davies o fod yn Gynghorwr, ac etholwyd Mr. E. Hugheston Roberts, yn ddi-wrthwynebiad, yn olynydd iddo.