Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Yr Eisteddfodau

Llywodraeth Leol Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Y Cymdeithasau

PENNOD VI.
YR EISTEDDFODAU.

"Tri diben Prydyddiaeth: cynnydd daioni,
Cynnydd deall, a chynnydd diddanwch."—Y TRIOEDD


Eisteddfod Madog 1851
Eisteddfod Eryri .1872
Eisteddfod Dalaethol Gwynedd 1887


HYD y gwyddis, ni chynhaliwyd ond pum Eisteddfod yn Nyffryn Madog. Y gyntaf ydoedd yn y Wern, Penmorfa, yn y flwyddyn 1796, o dan arolygiaeth Howel Eryri a Dafydd Ddu. Cynhaliwyd yr ail yn Nhremadog, ar yr 17eg o Fedi, 1811, o dan nawdd Mr. Madocks, pryd yr oedd yn bresennol Dafydd Ddu, Twm o'r Nant, Sion Lleyn, Dewi Wyn, ac Owen Gwyrfai. Cynhaliwyd yr eisteddfod yn y Neuadd Drefol.

Cynhaliwyd y tair dilynol ym Mhorthmadog, y gyntaf yn 1851, yr ail yn 1872, a'r drydedd yn 1887.

EISTEDDFOD 1851.

Dywed Alltud Eifion mai iddo ef y perthyn y drychfeddwl o gael yr eisteddfod hon, a hynny mewn canlyniad i ymddiddan a fu rhyngddo ef a Mrs. Gwynne, merch Mr. Madocks. Ysgrifennodd at Eben Fardd, yr hwn ar y pryd oedd yn ymgeisydd am y swydd o athraw yn Ysgol Frytanaidd Porthmadog, a chytunwyd i'w chyhoeddi ar y 15fed o Awst, 1850. Ar y diwrnod penodedig, ymgasglodd nifer o wyr blaenllaw y fro i ben Ynys Galch i'w chyhoeddi, "yng ngwyneb haul llygad goleuni." Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Syr Love Jones Parry; Mr. D. Williams, Castell Deudraeth; Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch; Mrs. Gwynne, Eben Fardd, Emrys, Beuno, Alltud Eifion, ac eraill. Penodwyd Pwyllgor Gweithredol o 80, gyda Mr. David Williams yn Gadeirydd iddo, a'r Parch. E. Andrews, Rheithor Llanfrothen, a Mr. Ellis Owen, Cefn Meusydd, yn Ysgrifenyddion Mygedol, a'r Parch. Thos. Jones, Cefn Meusydd (Eisteddfa wedyn), yn Ysgrifennydd Gweithredol. Yr oedd yr oll o'r pwyllgor i wisgo, ar ddydd yr eisteddfod, wasgod linsey cross-bar, gwyrdd a gwyn; a rhoddwyd gwobr am y patrwm goreu o un felly.

Swyddogion yr eisteddfod oeddynt:—

Arweinydd, Talhaearn.

Beirniaid.

Y Farddoniaeth: Caledfryn, Eben Fardd, a Nicander.
Llenyddiaeth: Y Barnwr A. J. Johnes; yr Archddeacon Williams; Dr. James, Kirkdale; y Parchn. D. R. Stephens; D. Jones, M.A.; William Jones, Nefyn (Myfyr Môn); John Williams, ac Owen Thomas, Drefnewydd.
Cerddorol: Dr. Wesley, y Parchn. John Edwards, M.A., a John Mills.
Chware'r Delyn: Mr. Ellis Roberts (Eos Meirion), a Mr. E. W. Thomas.
Celf: H. Jones, Ysw., Beaumaris; John Walker, Ysw., Hendregadredd; y Parch. J. W. Ellis, Glasfryn; a Mr. D. Williams.

Cynhaliwyd yr eisteddfod ar y Parc, ar y 7fed, yr 8fed, a'r 9fed o Hydref, mewn pavilion eang a gynhwysai bedair mil.

Wele'r prif destynnau, a'r buddugwyr:—Awdl: "Heddwch." Gwobr, £20, a Chadair.
Ymgeiswyr,—Gwilym Hiraethog, Ieuan Gwynedd, Ionoron Glan Dwyryd, Dewi Ddu, Gwilym ab Iorwerth. buddugwr, Hiraethog.
Awdl Goffa i Dewi Wyn: Y Parch. T. Pierce, Lerpwl.
Pryddest: "Doethineb Duw." Ymgeiswyr,
Thomas Parry, Llanerchymedd, Gutyn Padarn, a Bardd Du Mon. Y buddugwr, T. Parry.

Cywydd: "Robert ab Gwilym Ddu." Ioan Madog.
Cân: "Y Morwr." Gwobr, £5. Iorwerth Glan Aled.
Marwnad i W. A. Madocks, Ysw. Gwobr, £15, a medal. Emrys.
Marwnad i Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch, £10, a medal. Emrys.
Hir a Thoddeidiau: "Cwymp Jericho." Gwobr, Dwy Gini, a medal. Emrys.
Deuddeg o Englynion: "Y Pellebr." Gwobr, Tair Gini. Emrys.
Beddargraff i Carnhuanawc. Y goreu, allan o 127, ydoedd englyn Mr. Robert Hughes (Robin Wyn), Llangybi'r pryd hynny,—Bangor wedyn. Wele'r englyn:—

Carnhuanawc, cawr ein hynys,—gwnai'n henw,
Gwnai'n hanes yn hysbys;
Gwnai'r delyn syw'n fyw â'i fys
O!'r mawr wr—yma'r erys.


Rhyddiaeth.

Traethawd: "Y moddion mwyaf effeithiol i wella arferion a moes y Cymry." Gwobr, £10. Mr. John Morgan, Wrexham.
Traethawd: "Y Dosbarth Gweithiol yng Nghymru, o'i gymharu â rhannau eraill y Deyrnas. Gwobr, £20. Thomas Stephens (Gwyddon), Merthyr, a'r Parch. D. Griffith (ieu.), Bethel.

Cerddoriaeth

Rhoddwyd mwy o le yn yr eisteddfod hon i feirniadu Rhyddiaeth, Barddoniaeth, ac Areithio, nag i Ganu. Ychydig oedd rhif y cystadleuaethau cerddorol, a bychan oedd y gwobrau. Rhoddwyd ei lle i'r delyn: cynhygid tair punt am ganu penillion gyda hi, a deg punt i'r chwareuwr gore arni. Deg punt ydoedd gwobr y gystadleuaeth gorawl. Yr oedd y corau i ganu ym mhob cyfarfod, a'r dyfarniad i'w roddi y diwrnod olaf. Ymgeisiodd tri chor, sef Lerpwl Caernarfon, a Ffestiniog. Datganent hefyd yn y cyngerddau bob nos.

Mynediad i mewn i'r eisteddfod,—sedd ar y llwyfan (un cyfarfod), 2/6; seddau ar y llawr, 1/-; lle i sefyll, 6c. Cyngerddau: seddau, 6c.; lle i sefyll, 3c. Er mor fychan y prisiau am fyned iddi, caed £15 12s. o elw.

Fel y gwelir, eisteddfod y beirdd ydoedd hon, a gwnaethant ddefnydd helaeth o honi.

Caed cryn hwyl yn yr Orsedd bob dydd, ac yng nghyfarfodydd y beirdd. Bardd yr Orsedd ydoedd Meirig Idris, a gweinyddai ei swydd gydag awdurdod. Un diwrnod, daeth ato un a ystyriai ei hunan yn eginyn bardd, i ymofyn am urdd. Gofynnodd Meirig iddo a allai efe adrodd englyn neu ddarn o gynghanedd o'i waith ei hun, i'r hyn y cafodd atebiad nacaol; ac ebe Bardd yr Orsedd wrtho, gyda holl awdurdod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain o'r tu cefn iddo, "Yr wyf fi gan hynny, ar air a chydwybod, yn cyhoeddi nas gellir bardd o honaw; felly anfonwch ef allan o'r cylch."

Ym mhlith y rhai a urddwyd yn yr eisteddfod honno yr oedd Ioan Arfon, Iolo Trefaldwyn, Dewi Glan Dwyryd, Llyfnwy, y Parch. D. Silvan Evans (Hirlas), Ioan Twrog, Owen Aran, Prysor, Moelwyn Fardd, Ellis Wyn o Wyrfai, Robin Wyn, Gwilym Mon, Dewi Ddu, Emrys, a'r Parch. T. Pierce (Tomos Clwyd).

EISTEDDFOD GADEIRIOL ERYRI.

Awst 28ain, 29ain, a'r 30ain, 1872.

Llywyddion: Arglwydd Arglwydd Penrhyn, Mr. Osborne Morgan, A.S., W. W. Wynne, Bar., A.S., a Mr. Lloyd Morgan.

Arweinwyr: Cynddelw, Tan y Marian, a Mynyddog.

Beirniaid.

Cerddorol: Owen Alaw, a Than y Marian.
Y Farddoniaeth: Cynddelw, Hiraethog, a'r Parch. Hugh Owen (Meilir).
Datganwyr gyda'r Delyn: Idris Fychan ac Eos Mai.
Telynor: John Thomas.

Ysgrifenyddion Mygedol: Mri. Thomas Jones a Robert Rowland.
Ysgrifennydd Gweithredol: O. P. Williams.

Y Testynau a'r Buddugwyr.

Awdl y Gadair: "Dedwyddwch." Gwobr, £15 15s., a Chadair dderw, gwerth £5 5s. Ymgeiswyr, dau. Goreu, Hugh Pugh (Clynnog).
Pryddest (y testyn at ddewisiad yr ymgeiswyr). Gwobr, £15 15s., a medal. Goreu, Taliesin o Eifion.
Awdl-Bryddest: "Cariad Mam." Gwobr, £10 10s., a medal (rhoddedig gan Dr. Roberts, Porthmadog). Ymgeisiodd tri. Goreu, Glan Alaw.
Awdl: "Y Mab Afradlon." Ymgeiswyr, 4. Goreu, "Graienyn," Brithdir.
Cywydd: "Gobaith." Gwobr £5 5s. Ioan Arfon. Cywydd Goffa: "David Williams." Gwobr, £5 5s., a medal. Myrddin Fardd.
Englyn: "Arglwydd Mostyn." Gwobr, £1 1s. Ioan Madog.
Englyn: "Breuddwyd." Gwobr, £1 1s. Meiriadog.
Hir a Thoddaid: "Beddargraff i Ellis Owen." Gwobr, £2 2s. Ioan Madog.
Englyn: Arglwydd Penrhyn. Gwobr, £1 1s. Ieuan Glan Peris.
Traethawd: "Dedwyddwch Teuluaidd." Gwobr, £3 3s. Miss Lizzie Hughes, Pwllheli, ac E. Brown.
Traethawd: "Hanes desgrifiadol o Ddyffryn Madog, o ganol y ddeunawfed ganrif hyd yn awr. Gwobr, £3 3s. (rhoddedig gan Alltud Eifion). Goreu, John Jones, Tremadog.
Rhamant Hanesyddol: "Sylfaenedig ar ffeithiau cysylltiedig â Chymru, mewn unrhyw gyfnod blaenorol i'r ddeunawfed ganrif." Gwobr, £15 15s. Rhanwyd y wobr cydrhwng William Lloyd, Llanerchymedd; M. Evans, Porthmadog; a'r Parch. E. A. Jones, Sir Gaerefrog.
Cystadleuaethau Corawl: I Gor yn rhifo o 40 i 60 o leisiau, "Wrth Afonydd Babilon" (o waith William Owen, Tremadog). Gwobr, £7 7s. Goreu, Cor Penygroes.

I Gor heb fod dan 40 mewn nifer: "Y Retreat Chorus," allan o Gantata Owen Glyndwr (Eos Bradwen). Gwobr, £5 5s., a medal i'r Arweinydd. Goreu, Cor Caernarfon, o dan arweiniad William Parry.
Cor o unrhyw faint: Y dôn "Moab." Gwobr, £4 4s. Goreu, Cor Caernarfon.
Cyfansoddi Ymdeithgan Genedlaethol. Gwobr,£5 5s. D. Emlyn Evans.
Cyfansoddi ton ar y geiriau "O Dduw, rho im dy hedd." Alaw Ddu.
Cystadleuaeth y Seindyrf. Goreu, Caernarfon.


Cynhelid yr eisteddfod mewn pabell eang, a honno wedi ei "haddurno yn wych, a'i gwyntyllio yn dda." Cynhwysai tua chwe mil. Cynhaliwyd yr Orsedd ar yr ail a'r trydydd dydd, a chyfarfyddai'r beirdd a'r llenorion ar nosweithiau'r eisteddfod yn Neuadd Drefol, Tremadog. Cynhelid yr Orsedd ar ben Ynys Fadog, o dan arweiniad Owen Williams, Waen Fawr. Ar yr ysgwydd ogleddol i'r cylch cyfrin yr oedd cadair wedi ei nhaddu yn y graig, lle'r eisteddai'r hen batriarch o'r Waen ynddi.

Ymhlith y beirdd a urddwyd yn yr eisteddfod honno yr oedd Gwilym Eryri, Cynhaearn, Robin Goch o'r Gest, a Glaslyn.

Bu'r eisteddfod hon yn llwyddiant ym mhob modd. Yr oedd yr holl dderbyniadau yn £1,112 1s. 2c., a'r treuliau yn £970 10s. 2c., yr hyn a gynhwysai gost y Pavilion, sef £342 9s. 6c. Gwobrwyon, £196 13s. 6c. Gwasanaeth datganwyr, &c., £167 8s. 1c. Am argraffu ac hysbysu, £111 5s. 3c. Felly'r oedd yr elw a dderbyniwyd oddi wrthi yn £141 11s. Cyflwynwyd y swm hwn at Addysg, sef: i'r Ysgol Genedlaethol, Porthmadog, £40; i'r Ysgol Frytanaidd eto, £40; i Ysgol Frytanaidd Tremadog, £31 11s.; i Ysgol Genedlaethol Pentrefelin, £30.

EISTEDDFOD DALAETHOL GWYNEDD.

Awst 24ain, 25ain, a'r 26ain, 1887.

Llywyddion: J. E. Greaves, Ysw. (Arglwydd Rhaglaw y Sir), Syr Love Jones Parry, Barwnig, W. E. Oakley, Ysw., S. Pope, Ysw., a F. W. A. Roche, Ysw. Arweinyddion: Llew Llwyfo, Pedr Mostyn, a'r Parch. Hugh Hughes, Llandudno.

Swyddogion y Pwyllgor Gweithiol: Cadeirydd, Dr. S. Griffith; Is—gadeirydd, Mr. T. Jones (Cynhaearn); Trysorydd, Dr. R. Roberts; Ysgrifenyddion Mygedol, Mr. W. Jones, Banc, a Dr. W. Jones Morris; Ysgrifennydd Cyffredinol, Mr. R. G. Humphreys (R. o Fadog).

Beirniaid.

Barddoniaeth: Hwfa Mon, Ellis Wyn o Wyrfai, Tudno, Tafolog, Alafon, a Watcyn Wyn.
Rhyddiaeth: Parchn. D. Rowlands, M.A.; John Evans (Eglwys Bach); D. Adams, B.A.; Mynyddawc ap Ceredic; Mri. T. E. Ellis, A.S.; W. Cadwaladr Davies; W. Williams; R. Pugh Jones, M.A.; John Roberts, Tan y Bwlch; Crangowen, a Mrs. Thomas, Ficerdy, St. Ann's, Bethesda.
Cerddoriaeth: Dr. Joseph Parry, a'r Mri. Henry Leslie, David Jenkins, Mus. Bac., a J. Gladney.
Celf: Syr Love Jones Parry, Barwnig, Syr Pryce Jones, Mri. H. J. Reveley, J. R. Davids, J. C. Rowlands, W. E. Jones, Morris Rowlands, J. J. Evans, Robert Owen, O. T. Owen, Mr. Holland, Mr. Williams, Mr. R. M. Greaves, Mr. Jacobs Jones.

Y Testynau a'r Buddugwyr.

Awdl y Gadair: "Ffydd." Gwobr, £20 a Chadair dderw. Pedrog.
Pryddest: "Y Frenhines Victoria." Gwobr, £20, a thlws. Glanffrwd.
Awdl: "Arglwydd Penrhyn." Gwobr, Deg Gini, a bathodyn. Mr. William Jones, Rhydymain.

Cywydd: "Ioan Madog." Gwobr, Saith Gini. Gerallt.
Duchangerdd: "Y Ddau-wynebog." Gwobr, Tair Gini. Glaslyn.
Hir a Thoddaid: "Cwsg." Gwobr, £1 10s. Dewi lan Ffrydlas.
Englyn: "Yr Eryr." Gwobr, Gini. R. Jones, Cemaes, Trefaldwyn.
Traethawd: "Prydyddiaeth Gymraeg." Gwobr, Deg Gini. Glanffrwd.
Traethawd: "Pa fodd i ddadblygu, a hyrwyddo diwydiannau newyddion yng Ngogledd Cymru." Gwobr, Saith Gini. Glaslyn.
Traethawd: "Mynyddoedd Cymru,-eu dylanwad yn ffurfiad cymeriad y genedl." Gwobr, Saith Gini. Cyd-fuddugol, Llew Llwyfo, a'r Parch. J. Myfenydd Morgan, Abercanaid.
Traethawd: "Diwylliant Ffrwythau yng Nghymru." Gwobr, Pum Gini. Mr. Edward Severn, Porthmadog.
Traethawd: "Y pwysigrwydd o roddi addysg gelfyddydol i blant Cymru. Gwobr, Pum Gini. Mr. Thomas Morgan, Cumberland.
Traethawd: "Lle a gwaith Merched mewn Cymdeithas" (cyfyngedig i ferched). Gwobr, Tair Gini. Mrs. Lizzie Owen, Pwllheli.
Rhamant: "Syr John Owen, Clenennau." Mr. R. Roberts, Ysgolfeistr Llanddoget. (Ymddanghosodd y rhamant hon yn yr Herald Cymraeg am y flwyddyn 1888).

Y Brif Gystadleuaeth Gorawl: "Be not afraid " (Elijah), a "Gweddi gwraig y meddwyn " (Dr. Parry). Gwobr, £60, a baton i'r arweinydd. Ail wobr, £15. Goreu, Cor Caernarfon, o dan arweiniad Mr. J. J. Roberts; ail, Cor Tanygrisiau, arweinydd, Mr. Cadwaladr Roberts.

Ail Gystadleuaeth Gorawl: I Gor heb fod uwchlaw 80 mewn nifer, na llai na 50, (a) "The Lullaby of Lily" (H. Leslie), (b) "Trowch i'r Amddiffynfa" (J. H. Roberts). Gwobr gyntaf, £30, a thlws arian i'r arweinydd; ail, £10. Cor Aberdyfi yn unig a ymgeisiodd, a chafodd y wobr. or Meibion, heb fod o dan 25 na thros 40 o rif, Cydgan y Bugeiliaid" (D. Jenkins), a "Nyni yw'r Meibion Cerddgar" (Gwilym Gwent). Gwobr gyntaf, £15, a thlws arian i'r arweinydd; ail £5. Goreu, Cor Dolgellau arweinydd, Mr. R. Davies; ail Cor Abergynolwyn: arweinydd, Mr. David Thomas.

Cyfansoddi "Anthem Gynulleidfaol." Gwobr, £5. Alaw Ddu.
Cyfansoddi "Unawd i Fâs." Gwobr, £3. Mr. David Parry, Llanrwst.

Cynhaliwyd yr Orsedd ar betryal Tremadog, am naw o'r gloch, ddyddiau Iau a Gwener. Bardd yr Orsedd, Clwydfardd. Ymhlith y rhai a urddwyd yn feirdd yr oedd Tryfanwy, Bryfdir, Gwilym Deudraeth, Dwyryd, Tryfanydd, Eifion Wyn, Isallt, Amaethon, a Madog.

Gwasanaethid gan Gor yr Eisteddfod, dan arweiniad Mr. John Roberts, y Felin, a cherddorfa yn rhifo 36. Y prif ddatganwyr cyflogedig oeddynt: Miss Mary Davies, Miss Hannah Davies, Miss Eleanor Rees, Eos Morlais, Mr. Maldwyn Humphreys, Mr. Lucas Williams, Mr. John Henry, Mr. David Hughes. Canu Pennillion: Eos y Berth. Telynor: Ap Eos y Berth. Cyfeilwyr: Mri. John Williams, Caernarfon, a W. T. Davies, Porthmadog.

Nodiadau

golygu