Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Morris, John Jones

Morrice, James Cornelius Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Morris, Robert Owen

MORRIS, JOHN JONES.—Mab i Mr. W. E. Morris un o "Enwogion Doe." Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Elfennol a Gramadegol y dref. Yn 1871 aeth i'r High School, yn y Liverpool Institute. Yn 1874 aeth i swyddfa Mri. Breese, Jones a Casson. Yn 1880 aeth trwy yr Arholiad Cyfreithiol terfynol, ac yn yr un flwyddyn agorodd y ffyrm gangen ym Mlaenau Ffestiniog, o dan ei ofal ef. Yn 1893 pennodwyd ef yn olynydd i Mr. David Homfray, fel Clerc i Ynadon Dosbarth Ardudwy swydd a leinw hyd heddyw. Y mae wedi cymeryd rhan flaenllaw gydag addysg bro'i febyd, ac wedi gweithredu ar y gwahanol fyrddau addysgolelfennol ac uwch-raddol. Yn 1895 etholwyd ef yn Gynghorwr Sir dros ranbarth orllewinol y dref; ac yn 1900 dewiswyd ef yn Gadeirydd y Cyngor. Y mae wedi cymeryd rhan amlwg yng ngweithrediadau'r Cyngor a Rhyddfrydiaeth y Sir. Bu'n aelod a Chadeirydd o Bwyllgor yr Heddlu. Yr oedd yn aelod o'r pwyllgor fu'n edrych i mewn i ymddygiadau'r Heddlu adeg Streic Bethesda, ac ymchwiliadau pwysig eraill. Y mae'n ymwelydd â Gwallgofdy Gogledd Cymru er 1898. Y mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Mânddaliadau'r Sir, a Pwyllgor Ysgol Amaethyddol Madryn. Yn 1908 gwnaed ef yn Henadur. Y mae'n Annibynwr selog o'i faboed,—yn aelod gwerthfawr yn Salem, ac yn noddwr ffyddlon i'r Ysgol Sul. Y mae wedi gwasanaethu ei enwad mewn cylchoedd lliosog—fel Cadeirydd y Gymanfa Sir, y Cwrdd Chwarter, a rhai o gyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig. Y mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cenhadol Gogledd Cymru.

Nodiadau

golygu