Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Morris, Robert Owen

Morris, John Jones Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Nicholson, W J

MORRIS, ROBERT OWEN.—Bu'n egwyddorwas gyda Mr. Daniel Williams, Ivy House; ond gadawodd y cownter am y pwlpud. Bu yng Ngholeg y Bala, ac yn Edinburgh, lle y graddiodd yn M.A. Ymsefydlodd yn weinidog yn Nhrallwm; oddi yno symudodd i Lanelwy. Yno ymddiswyddodd o'i waith bugeiliol, gan fyned eilwaith i Edinburgh am gwrs meddygol, lle y graddiodd yn M.B. ac yn M.S. Ar ei ddychweliad o'r Alban, ymsefydlodd yn feddyg yn Birkenhead. Cymerodd ei M.D. yn 1902. Bu'n Faer y dref yn 1902—3; a bu'n llanw'r swydd o Feddyg yr Ysgolion. Yn 1905 cefnodd ar ei enwad crefyddol, gan ymuno âg Eglwys Loegr. Y flwyddyn hon derbyniodd y swydd o Brif Ddarlithydd Meddygol o dan yr Ymgyrch Cymreig yn erbyn y Darfodedigaeth.

Nodiadau

golygu