Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Nicholson, W J
← Morris, Robert Owen | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Owen, J R → |
NICHOLSON, W. J.—Un o bregethwyr mwyaf poblogaidd yr Annibynwyr, a mab i'r diweddar Barch. William Nicholson—yntau'n bregethwr o nôd. Ganwyd ef ym Mangor yn 1866, tra'r oedd ei dad yn Llanengan. Wedi cwblhau ei addysg elfennol mewn gwahanol leoedd, aeth i Ysgol Ramadegol Porthaethwy, at y Parch. E. Cynffig Davies, M.A., ac oddi yno i Goleg Aberhonddu. Ordeiniwyd ef yn Abertawe yn 1889. Symudodd i Borthmadog, yn fugail ar eglwys Salem—hen eglwys Emrys a Dr. Probert—yn y flwyddyn 1892, lle'r erys yn olynydd teilwng iddynt.