Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Morris, William Evans

Morris, Owen Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Morris, William Jones

MORRIS, WILLIAM EVANS (1822—1894).—Mab i'r Daniel Morris a enwyd eisoes. Ganed ef ym Mhorthmadog y 30ain o Awst, 1822. Yr oedd yn un o wyr mwyaf adnabyddus Porthmadog yn ei ddydd. Ar farwolaeth ei dad, yn 1840, penodwyd ef yn Feistr yr Harbwr, a daeth, trwy ei ynni a'i gysylltiadau—yn enwedig ynglyn â'r porthladd—yn ddyn pwysig a gwerthfawr mewn llawer cylch. Yr oedd yn amaethwr llwyddiannus hefyd, a bu'n gwneud masnach helaeth mewn llosgi a gwerthu calch. Bu'n gwasanaethu'r dref ar ei holl fyrddau cyhoeddus. Bu'n Warcheidwad ffyddlon a chyfiawn am flynyddau, ac yn aelod gweithgar ar y Bwrdd Lleol. Gweithiodd yn galed, a dilynodd ei ddyledswyddau'n ddiwyd. Bu iddo deulu lluosog, ac y mae rhai o'i ddisgynyddion ymhlith gwyr enwocaf y dref heddyw. Bu farw ar y 24 o Fai, 1894, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfihangel-y-Traethau.

Nodiadau

golygu