Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Morris, William Jones

Morris, William Evans Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Owen, Robert

MORRIS WILLIAM JONES (1847—1905).—Meddyg, mab i'r W. E. Morris uchod, a aned Mehefin y 25ain, 1847. Wedi cwblhau ei addysg elfennol, yn 1864 aeth yn egwyddor-was o feddyg at Dr. Samuel Griffith. Yn 1869 aeth am ysbaid tair blynedd o addysg athrofaol i Glasgow. Oddi yno penodwyd ef yn House Surgeon yn y Southern Dispensary, Lerpwl, lle yr arhosodd hyd y flwyddyn 1879. Yna dychwelodd i'w dref enedigol, gan sefydlu busnes iddo'i hun, yr hwn a lwyddodd yn gyflym. Yr oedd yn feddyg medrus, ac yn garedig wrth y gwan a'r tlawd. Yn 1899 penodwyd ef yn feddyg adran Porthmadog, y Garn a Beddgelert, o Undeb Ffestiniog. Bu'n Ysgrifennydd i Gangen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig. Bu hefyd yn Gadeirydd i'r Gangen, a chynrychiolai Ogledd Cymru ar Gyngor y Gymdeithas. Cymerai ddyddordeb mawr mewn Addysg. Bu'n un o Reolwyr yr Ysgol Ganolraddol Porthmadog, a Choleg Bangor, ac yr oedd yn aelod o Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon. Bu'n aelod o Gyngor Dinesig Porthmadog, ac yn Gadeirydd yn 1904—5. Meddai ar gymhwysderau neillduol at waith pwyllgorau. Yr oedd yn ddirwestwr selog, a gwnaeth wasanaeth i'r achos yng Nghymanfaoedd Eifion, Lleyn, Arfon, a Meirionnydd. Yr oedd yn Annibynwr o'r radd flaenaf, a bu'n noddwr ffyddlon a pharod i'w enwad. Yr oedd yn Gymro twymgalon, a chefnogai ein lên a'n heisteddfodau. Ceidwadwr ydoedd mewn gwleidyddiaeth. Bu farw mewn Ysbyty-Gartref yn Llunden, Hydref 15fed, 1905. Claddwyd ef ym meddrod ei dadau ym mynwent Llanfihangel-y-Traethau.

Nodiadau

golygu