Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Owen, Robert

Morris, William Jones Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Owen, Thomas

OWEN, ROBERT (1867—1900).—Efengylwr—mab i Capten William Owen, y Marion. Ganwyd ef ym Mhorthmadog yn 1867. Bu am flynyddoedd yn dal swydd gyfrifol yn swyddfa Cwmni Llechi Maenofferen. Dechreuodd bregethu'n gynnar yn y flwyddyn 1889 gyda'r Annibynwyr yn Salem; ac ni wynebodd purach cymeriad a gonestach gwr erioed ar waith y pwlpud. Ymhyfrydai mewn cynhorthwyo'r gwan a'r anghenus; a bu'n gwasanaethu eglwysi gwannaf y cylch lawer pryd yn ddi-dâl—a hynny o ewyllys ei galon dyner. Ymbriododd â Miss Maggie Jones, 'Refail Bach, Abersoch—chwaer i briod Eifion Wyn—a bu iddynt ddau fab. Ond ni welodd eu bywyd priodasol ond ei chwemlwydd oed. Bu farw'r Cristion pur, y gwr tyner, a'r tad gofalus, ym Mehefin, 1900, yn 33 mlwydd oed. Hanner brawd iddo yw y Proffeswr Morris B. Owen, B.A., B.D.,—athro yng Ngholeg Caerfyrddin, ac un o bregethwyr ieuanc blaenaf y Bedyddwyr.

Nodiadau

golygu