Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Owen, Thomas
← Owen, Robert | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Owen, William → |
OWEN, THOMAS (1833—1908).—Ganwyd ef ym Mhlas ym Mhenllech, Lleyn, Mawrth, 1833. Derbyniodd ei addysg yn Nhydweiliog, a bu am bum mis yn Ysgol Ramadegol Bottwnog, o dan gyfarwyddyd yr ysgolor gwych, y Parch. John Hughes, y Rheithor. Oddiyno symudodd at ei ewythr, oedd yn fasnachydd pwysig yn Wolverhampton, a bwriedid iddo ymsefydlu gydag ef yn y fasnach. Ond blwyddyn yn unig a fu efe yno cyn dychwelyd adref at ei rieni i Blas ym Mhenllech. Yn fuan wedi iddo ddychwelyd adref tueddwyd ei feddwl at y weinidogaeth, ac yn y flwyddyn 1853 aeth i Athrofa'r Bala, lle y bu am bedair blynedd. Yng Nghymdeithasfa Bangor, 1859, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Y flwyddyn ddilynol1860—derbyniodd alwad oddi wrth eglwys y Garth, Porthmadog. Pan agorwyd capel y Tabernacl—ymhen dwy flynedd ymgymerodd a bugeilio'r eglwys honno hefyd gwaith a wnaeth gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd y flwyddyn 1877. Parhaodd ei gysylltiad â'r Garth hyd y flwyddyn 1903. Bu'n llenwi rhai swyddi o bwys yn y Cyfundeb. Yng Nghymdeithasfa Llangollen, 1873, penodwyd ef i draethu ar Natur Eglwys. Yr oedd yr un flwyddyn yn Arholwr Cymdeithasfaol. Bu'n Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol yn 1875—6, ac yn Ysgrifennydd Cymdeithasfa'r Gogledd, 1878—80. Bu'n Llywydd y Gymdeithasfa yn 1885. Ystyrid ef yn bregethwr coeth, yn hytrach na hyawdl, a meddai ddylanwad yn y cylchoedd y troai ynddynt. Ymataliai, yn y blynyddoedd diweddaf, rhag myned i Gymanfaoedd ei enwad, nac ymgymeryd âg unrhyw ran amlwg mewn gweithrediadau cyhoeddus o unrhyw natur. Wedi terfynnu ei weinidogaeth ym Mhorthmadog symudodd at ei fab i Connah's Quay, i dreulio gweddill ei ddyddiau mewn tawelwch. Yno y bu farw, ar yr 28ain o Awst, 1908, yn 75 mlwydd oed.—(Y Blwyddiadur, 1909).