Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Owen, William

Owen, Thomas Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Parry, Thomas

OWEN, WILLIAM (1830—1865).—Coed-fasnachydd a cherddor. Ganwyd ef yn Nhremadog. Danghosodd duedd yn ieuanc at gerddoriaeth. Bu'n chwareuwr taledig yn Eglwys Tremadog, a gwnaeth lawer i feithrin a dyrchafu cerddoriaeth yn Nyffryn Madog. Cyfansoddodd a chyhoeddodd amryw donau ac anthemau. Bu cryn ganu ar ei anthem, "Ar lan afonydd Babilon.' Efe hefyd a gyfansoddodd y dôn "Johana Crüger," ar eiriau Emrys, "Iesu dyrchafedig." Trefnodd hon yn arbennig i'r Cerddor, Mai, 1861. Gwelir hi hefyd yn Llyfr Tonau y M.C., 458; ond ni roddir iddo ddim clod am dani yno. Sefydlodd Gymdeithas Gerddorol yn y cylch, a chynhaliodd lawer o gyngherddau uwchraddol tuag at gynorthwyo achosion dyngarol. addysgol, a chrefyddol. Cynhorthwyid ef yn y cyngherddau hyn gan brif foneddigion a boneddigesau'r cwmpasoedd. Y mae adroddiad am un o'r cyfryw ger fy mron—cyngherdd a gynhaliodd tua blwyddyn cyn ei farw—i helpu Ysgol y Babanod ym Mhorthmadog. Yr oedd yr elw a gafwyd yn £30. Am ei allu fel cerddor, ni raid wrth deyrnged uwch na thystiolaeth Ieuan Gwyllt iddo mewn adroddiad o un o'i deithiau cerddorol trwy Feirion, Eifionnydd, a Lleyn. Yn ei sylwadau ar Eifionnydd dywed:

"Dechreuasom yno ym Mhorthmadog. . . . . Yma ni a ddaethom i gyfarfyddiad â'r cyfaill caredig, a'r cerddor medrus a galluog, Mr. William Owen.

Un o lewion cerddorol Cymru yw y gwr hwn, a da iawn a fyddai i gerddoriaeth ein gwlad pe rhoddai efe fwy o'i lafur ati" (Cerddor, Mehefin, 1862). Yn y Cerddor am Chwefrol, 1865, ceir ysgrif o'i waith ar Melodedd, amrywiaeth ac ystwythder yn y gwahanol leisiau "; ac mewn nodiad yn ei dilyn, dywed y Golygydd: "Byddai yn dda gennym ped anrhegid y Cerddor a mwy o gynnyrch myfyrdod yr awenydd athrylithgar hwn."

Diau, pe y cawsai fwy o ddyddiau ar y ddaear, y daethai'n un o gerddorion enwocaf Cymru. Bu farw ym mlodau'i ddyddiau, ar yr ail o Awst, 1865, yn ddim ond 35 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Penmorfa.

Nodiadau

golygu