Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Parry, Thomas

Owen, William Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Percival, Frederick Samuel

PARRY, THOMAS (1826—1896).—A aned yn Nhyddyn y Morthwyl, Rhoslan. Aeth i forio'n ieuanc; ond ar un o'i fordeithiau, gadawodd y llong yn un o borthladdoedd Awstralia, i fyned i "dreio'i lwc," a llwyddodd. Wedi treulio cyfnod maith yno, dychwelodd yn ol i Eifionnydd, gan ymsefydlu ym Mhorthmadog yn fasnachydd coed ar raddfa eang. Bu'n noddwr ffyddlon i'r Bedyddwyr ym Mhont Ynys Galch. Cyfrannodd yn hael tuag at yr achos, a bu yn gyfaill wrth raid iddo mewn cyfyngder. Ceir prawf o hynny ar mortgage deed y capel, wedi ei ysgrifennu gan Mr. Parry ei hun.

"I, Thomas Parry, Timber Merchant, Portmadoc, paid all of this within Mortgage as in statements from May 22, 1872 to April 4, 1885, which amounted to nearly £400, including interest and fines. I deliver the same up for the consideration of Promissory Note from the Brothers of £50.—THOMAS PARRY."

Cyfranodd symiau eraill o £100, a dau £25.

Bu farw Gorffennaf 8fed, 1896, yn 70 mlwydd oed.

Nodiadau

golygu