Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Roberts, Thomas
← Roberts, Robert (1824—1892) | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Rowland, Robert → |
ROBERTS, THOMAS (1837—1900).—Peiriannydd a phensaer. Ganwyd ef yn Nyffryn Ardudwy Chwefrol 17eg, 1837. Derbyniodd ei addysg yno, ac yng Ngholeg Hyfforddiadol Gogledd Cymru, yng Nghaernarfon. Oddi yno symudodd i gadw ysgol ddyddiol i Rhyl, ac oddi yno aeth i Lunden i efrydu peiriannaeth. Bu yn Birmingham a Llunden gyda rhai o gwmniau goreu'r deyrnas yn myned trwy ei rag—brawfion. am gyfnod yn yr Amwythig, ac yna ymsefydlodd ym Mhorthmadog fel peiriannydd i Siroedd Meirion ac Arfon. Yma y treuliodd weddill ei ddyddiau mewn cysur a dedwyddwch, ac yn fawr ei barch gan yr oll o'i gydnabod. Yr oedd yn ddyn dwys, pwyllog, ac amyneddgar, ac yn "foneddwr wrth natur. Noddai lenyddiaeth ei wlad, ac ymgydnabyddai lawer â gweithiau'r prif feirdd. Yr oedd yn achyddwr campus, ac yn awdurdod ar arfau bonedd (coat of arms). Bu farw Ionawr, 1900, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Porthmadog. (Cymru, Cyf. xix., tud. 61).