Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Rowland, Robert

Roberts, Thoma Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Spooner, Charles Easton

ROWLAND, ROBERT (1829—1898).—Brodor o Danygrisiau, Meirionnydd. Ganwyd ef ar y 27ain o Hydref, 1829, ac efe oedd y pumed plentyn o wyth. Bu farw ei dad pan nad oedd efe ond naw mlwydd oed. Bu am ddeunaw mis gyda'i ewythr, David Rowlands, yng Nghaernarfon; ond o hiraeth dychwelodd yn ol i'w gartref i Feirion. Yn un ar ddeg oed aeth i weithio i'r chwarel at ei frawd hynaf. Pan nad oedd efe ond 15eg oed aeth ei frawd i'r America, gan ei adael ef yn unig i ofalu am ei fam a'r plant ieuengaf.

Pan yn 16eg oed bu ei fam farw, a disgynnodd arno ef y cyfrifoldeb o ofalu am bedwar o blant, heblaw ei hunan. Wedi i'r ieuengaf o honynt gyrraedd oedran i ofalu drosto'i hun, penderfynodd Robert gynilo tuag at gael blwyddyn o addysg; ac aeth i Glynog at Eben Fardd. Ar ei ddychweliad oddi yno cafodd y swydd o arolygwr llechau gan Mr. J. W. Greaves. Yn 1856 gwnaed ef yn ysgrifennydd a shipper i Gwmni Chwarel y Rhosydd. Yn 1871 ymgymerodd ac arolygu cangen o Fanc y Mri. Pugh Jones a'i Gyf. Yn 1877 symudodd i ar- olygu canghenau Ariandy Gogledd a De Cymru yn Abermaw, Blaenau Ffestiniog (1878—83), a Phwllheli (1883—92). Yn 1892 ymneillduodd o'r Banc, gan fyned i dreulio nawnddydd ei fywyd mewn tawelwch i Blas Isa, Penmorfa, a gwnaed ef yn Ynad Heddwch. Felly ymddyrchafodd, o fod yn chwarelwr i fod yn oruchwyliwr, yn fancer, ac yn Ynad Heddwch. Bu'n warden am ddeuddeng mlynedd, a gweithiodd yn egniol dros Addysg. Yr oedd yn un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw yr Ysgol Frytanaidd, ac yn arweinydd o blaid addysg rydd ym mrwydr y Bwrdd Addysg. Yr oedd yn Rhyddfrydwr, Dirwestwr, a Methodist selog. Yr oedd hefyd yn llenor coeth; a phleidiai'r cyfarfodydd llenyddol a'r eisteddfod. Ysgrifennodd lawer i'r Drysorfa, y Cymru, a'r Llenor, a chyhoeddodd rai llyfrau. Gwnaed ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hynafiaethol. Dewiswyd ef yn flaenor bum gwaith,—yn y Tabernacl, y Gareg Ddu, y Bowydd, Penmount (Pwllheli), ac ym Mhenmorfa. Bu'n llanw prif swyddi ei Gyfundeb; cyfrannodd yn hael at grefydd, a gadawodd £500 yn ei ewyllys at Athrofa'r Bala. Bu'n briod ddwy waith yn gyntaf yn 1857, âg Ann, merch Capten Pritchard, Porthmadog, yr hon a fu farw yn 1887; a'r ail waith yn 1888, â Miss Roberts, merch y diweddar Barch. John Roberts, cyn—ysgrifennydd y Gymdeithas Genhadol Dramor y Methodistiaid. Wedi marwolaeth ei phriod, cyflwynodd Mrs. Rowland ei lyfrgell—tua 350 o gyfrolau yn anrheg i eglwys y Tabernacl, Porthmadog.

Bu farw Mr. Rowland ar y 14eg o Dachwedd, 1898, yn 69 oed. Claddwyd ef yng nghladdfa cyhoeddus Porthmadog.—(Cymru, Chwef., 1899; y Drysorfa, Hydref, 1899; "Cofiannau Cyfiawnion," tud. 68).

Nodiadau

golygu