Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Spooner, Charles Easton

Rowland, Robert Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Spooner, James

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Charles Easton Spooner
ar Wicipedia

SPOONER, CHARLES EASTON (1818—1889).—Peiriannydd, mab i James Spooner, a aned yng Nglanwilliam, Maentwrog, yn y flwyddyn 1818. Wedi cwblhau ei addysg yn 1832, aeth i gynorthwyo ei dad yng ngwneuthuriad Rheilffordd Gul Ffestiniog, ac i ddysgu y grefft o beiriannydd. Daeth i fod yn is-reolwr y Cwmni; ac ar farwolaeth ei dad, yn 1856, penodwyd ef yn brif reolwr,—swydd a lanwodd am 33 o flynyddoedd. Yn ystod ei amser gwnaeth gyfnewidiadau a gwelliantau mawrion ynglyn â'r Rheilffordd, trwy adeiladu gorsafäu, ei helaethu, a'i hagor i gludo teithwyr. Efe oedd cynllunydd y peiriannau ager—y "Mountain Pony," y "Taliesin," &c. Daeth y rheilffordd a'r peiriannau i enwogrwydd, ac ymwelid â hwy gan beiriannwyr o wahanol wledydd, ac efelychwyd ei gynlluniau gan gwmniau parthau eraill. Yr oedd yn gymeriad diymhongar, heddychlon, ac iddo barch gan ei gydswyddogion oll, ac edmygedd llwyraf ei weithwyr. Bu farw ar y 18fed o Dachwedd, 1889, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Beddgelert.

Nodiadau

golygu