Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Tegidon (John Phillips)

Spooner, James Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Thomas, Job

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Phillips (Tegidon)
ar Wicipedia

TEGIDON (John Phillips, 1810—1877).—Argraffydd, clerc, llenor, a bardd, a anwyd yn y Bala ar y 12fed o Ebrill, 1810, ac yno y derbyniodd ei addysg. Cafodd ei brentisio yn argraffydd gyda Mr. Saunderson o'r Bala; yna aeth i Gaerlleon at John Parry, i arolygu ei swyddfa argraffu. Tua'r flwyddyn 1850 gadawodd Gaer a'r argraffwasg am Borthmadog, i arolygu allforiad llechau Cwmni y Welsh Slate; a bu yno hyd ei farw, ar y 28ain o Fai, 1877, yn 67 mlwydd oed. Aed a'i gorff i orffwys i fynwent Llanycil, ger y Bala. Ysgrifennodd Tegidon lawer yn ei ddydd i'r gwahanol gyfnodolion,—y Drysorfa, Gwyliedydd, Seren Gomer, y Traethodydd, a'r Methodist. Gwr yr encil ydoedd yn hytrach na gwr cyhoeddus, am ei fod yn hynod nervous; ond pan gymerai ran yn gyhoeddus byddai'n hyawdl ac yn effeithiol iawn. Yr oedd yn foneddigaidd, yn dyner, ac yn addysgiadol, a'i iaith yn ddewisol a choeth. Dywed Glaslyn am dano:—"Fel bardd a llenor yr oedd i Degidon le anrhydeddus ymysg gwyr goreu Cymru; ac er nad oedd yn eisteddfodwr, nac yn cael ei restru, ond yn anfynych, gyda'r beirdd, yr oedd er hynny'n sefyll yn uchel ym marn y wlad.

Ac er na ennillodd Tegidon na gwobr na chadair mewn eisteddfod, fe ennillodd glust a chalon ei genedl drwy ei gân dyner 'Hen Feibl mawr fy Mam.' Fe ganwyd ac fe adroddwyd y gân swynol hon gan blant a hynafgwyr, llanciau a gwyryfon, trwy bob parth o Gymru, ac y mae wedi myned ag enw Tegidon i bob cwr o'r ddaear lle mae Cymro wedi ymwthio. Y mae Tegidon, yn gystal a Wordsworth, wedi rhoddi stamp ei athrylith ar y gân dlos "Saith y'm ni"; ac y mae y dernyn swynol hwn wedi dyfod yn gân deuluaidd ymysg miloedd o ieuenctyd Cymru." (Cymru, Cyf. vi., tud. 111).

Nodiadau

golygu