Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Williams, J Henry

Williams, James Evan Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Y Diweddglo

WILLIAMS, J. HENRY.—Un o bregethwyr grymusaf y Methodistiaid heddyw. Brodor o Glwt y Bont, Arfon. Yno y derbyniodd ei addysg elfennol, ac y dechreuodd bregethu. Oddi yno aeth i Ysgol Clynnog, a bu yng Ngholegau y Bala a Bangor. Yn 1896 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys y Methodistiaid ym Mrymbo. Yn 1900 symudodd i Ddwyran, Môn; yn 1903 i Langefni; ac yn 1910 derbyniodd alwad i fod yn olynydd i'r Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), yn y Tabernacl, Porthmadog. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yno ar y 13eg o Fawrth. Yn 1906 cyhoeddodd lyfr—" Ar ei Ben bo'r Goron, sef annogaethau i bobl ieuanc yr eglwysi a dychweledigion y Diwygiad," a bu iddo ail argraffiad. (Cyhoeddedig gan Mri. Gee a'i Fab, Dinbych).

Nodiadau

golygu