Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Y Diweddglo
← Williams, J Henry | Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion gan Edward Davies, Penmorfa |
Addenda—Township Of Gest (AD 1682) → |
PENNOD IX.
Y DIWEDDGLO.
TREM YN OL AC YMLAEN.
O na chawsai Madog ei deilwng wobrwyo,
A medi o gynyrch llafurwaith mor fawr;
Ei arian a'i diroedd, a'i ymdrech diflino,
Ar allor llesoldeb a doddodd i lawr;
Ar wyneb y dyfroedd y bwriodd ei fara,
I fyw ar obeithion gwell amser i dd'od,
Ond eraill a'i cânt wedi llawer o ddyddiau,—
I'r wyrion daw'r enill—i Madog y clod.
—EMRYS.
"Y peth yw Casnewydd i gymoedd Mynwy, a Chaerdydd i lo Cwm Rhondda, hynny ydyw Porthmadog i chwareli Ffestiniog."—O. M. EDWARDS.
CEISIWN daflu'n golwg yn ol ar orffennol Porthmadog, a sylwi ar gamrau 'i hanes,—hanes nad oes i'r un dref yng Nghymru ei debyg. Can mlynedd i heddyw nid oedd yn y lle ond nifer o fân ynysoedd tywodlyd, a phyllau lleidiog. Gwelodd gynnydd a datblygiad cyflym; lluosogodd ei phoblogaeth, cynhyddodd ei mhasnach, a daeth yn dref forwrol o bwys, a'i thrafnidiaeth yn ymestyn i'r gwledydd pellenig; a chlywodd ei galw'n un o drefi pwysicaf Gwynedd. Ni bu llawer o enwogion cenedlaethol a rhan yn ei bywyd. Capteiniaid a chyfreithwyr oedd ei phrif bobl am gyfnod helaeth o'i hoes. Gwannaidd ac ymbleidgar a fu'r enwadau crefyddol yn hir; ac ni feddai'r eglwysi gyfoeth i alw gŵr o athrylith i'w bugeilio. Salem yn unig a lwyddodd i wneud hynny yn yr hanner cyntaf o'r ganrif. Galwodd Emrys; ymlynodd wrtho, a pharchodd ei glod; gadawodd yntau ei ddylanwad yn annileadwy ar ei ol. Bu'r dref yn brwydro'n hir yn erbyn pob gwelliant cymdeithasol o bwys; ac araf ddifrifol a fu hi i wella'i chyflwr, a puro'i hamgylchedd a glanhau'i heolydd. Araf y symudai'r Bwrdd Lleol, ac annibendod a nodweddai ei weithrediadau. Ni bu ganddi le i neb cyhoeddus o'i mhewn, hyd yn ddiweddar; ac ni roddai gyfle i'w mheibion a'i mherched talentog i ddadblygu eu galluoedd. Ni fedd yn awr well anrhydedd i'w hestyn i'w phlant, na bod yn aelod o'i Chyngor Dinesig, neu'n gynrychiolydd iddi ar y Cyngor Sir. Bu cyfnod yn ei hanes pan yr ymwelid â hi gan wyr enwoca'r genedl, gan bregethwyr ac areithwyr mwyaf hyawdl ein gwlad. Ymwelai'r Cynhadleddau â hi; cynhelid Eisteddfodau ynddi; ond nis gellir dweyd hynny am dani mwyach. Y mae ynni'r tadau wedi llesghau, a'u hysbrydiaeth wedi ymado, a chwaeth y plant wedi ei ddarostwng yn fawr, ac ni wneir ond ychydig ymdrech i'w ddyrchafu. Boddlonnir ar i bethau fyned yn eu pwysau, heb bryderu llawer, os na bydd y goriwaered yn amlwg i bawb, a'r dibyn gerllaw.
Ar y 12fed o Ragfyr, 1899, mabwysiadodd y Cyngor Dinesig Ddeddf y Llyfrgelloedd Cyhoeddus, 1892 a 1893, a bwriedid ei rhoddi mewn grym ar y cyntaf o Ebrill, 1900. Ei phrif hyrwyddwyr oedd Mr. Jonathan Davies, a Dr. Samuel Griffith. Ond yn y cyfamser daeth etholiad. Gwrthododd y trethdalwyr y Llyfrgell, a thaflodd ei charedigion pennaf heibio; ac erys y dref hyd heddyw heb well man cyfarfod i'w hieuenctid na'r clwb a'r dafarn. Bu i'r dref unwaith Gymdeithas Ddadleuol anenwadol, ar raddfa eang, a bu honno o les a bendith i lawer; ac y mae ynddi'n awr y Gymdeithas ragorol y "Vagabond"; ond cyfyng yw cylch y gymdeithas hon, a detholedig yw ei haelodau. Nid oes yn y dref yr un gymdeithas lenyddol anenwadol â'i drysau'n agored i'r neb a fynno ymuno â hi. Gwan ac eiddil yw cymdeithasau llenyddol yr enwadau. Yn sicr y mae chwaeth feddyliol y tô sy'n codi ymhell o fod yn deilwng o dref a'i phoblogaeth dros dair mil; ac yn meddu ar lawer o nodweddion gwir Gymreig.
Siomedig iawn hefyd yw gwaith Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Disgwylid ar ei ffurfiad y buasai o ddylanwad mawr yn y dref a'r cylch; ac yn foddion i arwain yn effeithiol gyda'r prif bynciau crefyddol a chymdeithasol. Ond nid yw hyd yn hyn wedi sylweddoli'r disgwyliad hwnnw. Ni fynychir ei gyfarfodydd gan y mwyafrif o'r arweinwyr Ymneillduol ond yn anfynych.
Ond y mae i'r dref, serch hynny, ei rhagoriaethau. Y mae ansawdd ei chwaeth gerddorol mor bur a diwylliedig ag eiddo unrhyw le; ac y mae o ran ei chyflwr moesol i fyny ag unrhyw dref o'i mhaint. Y mae rhif ei thafarnau yn llai o ddwy ar hugain nag oeddynt hanner canrif yn ol. Y pryd hynny yr oedd terfysgoedd ac ymladdfeydd yn bethau cyffredin ynddi: ond heddyw, anfynych y gwelir meddwyn cyhoeddus o'i mhewn; ac ychydig yw'r troseddau a geir ynddi. Nid oes dref yng Nghymru yn fwy egniol dros burdeb na hi. Y mae ynddi, er's dros chwarter canrif, weinidogion yr Efengyl hafal i unman, ac ni bu cenhedlaeth erioed yn gwrando cenadwri lawnach o rymuster, ac o burdeb dilychwin. Deil ei mhanteision addysgol hefyd, o ran eu hansawdd a'u gweinyddiad, gymhariaeth deg â threfydd y Siroedd cylchynol. Ond beth yw ei haddewidion i ni heddyw, ac am ba beth y gobeithiwn yn y dyfodol ? A ddadguddia gwyddoniaeth ini gyfoeth newydd yn ein broydd; a egyr y mynyddoedd eu trysorau yn helaethach ini; a welir eto ein masnach yn ei rhwysg cyntefig?