Hanes Sir Fôn/Plwyf Amlwch

Plwyf Bodewryd Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Cwmwd Talybolion

PLWYF AMLWCH.

Saif y plwyf yma oddeutu ugain milldir i'r gogledd-orllewin o Beaumaris. Y mae'r plwyf yn saith milldir a haner o hyd, a'i arwynebiad yn 9220 o erwau, a'r boblogaeth oddeutu chwe' mil a haner.

Gorwedda tref Amlwch mewn dyffryn, fel Jerusalem a'r mynyddau o'i hamgylch. Terfynir hi o du y dwyrain gan fynydd Eilian; o du y dehau gan gloddfaefydd enwog Mynydd Parys; ar y gorllewin gan fynydd Tŷ Croes, neu le o'r enw Dinas (Castell); ac ar y tu gogleddol gan fôr Iwerddon. Nis gellir myned heibio i'r Ddinas heb wneud sylw neillduol arni, oblegyd dyma'r lle, fel y tybia rhai, y rhuthrodd y Rhufeiniaid i'r Ynys (Gwel "Mona and Parys Copper Mines," gan O. Jones, gynt o Amlwch.)

Gelwir hi yn Ddinas Cynfor; ac mae Porth Cynfor yn ei hymyl, oddiwrth Cynfor ap Tudwal. Ystyr yr enw yw, "Porth", neu "Safon uffern." Saif y lle hwn yn mhlwyf Llanbadrig, cwmwd Talybolion.

Bernir mai Cynford ab Tudal ydoedd, un o achyddtaeth yr enwog frenin Arthur. Yr oedd yma amddiffynfa gadarn yn y cynoesoedd gan yr hen Dderwyddon, a lle o amddiffyniad i'r Mynachesau. Oddiwrth y rhai hyn y rhoddwyd enwau ar leoedd yn y gymydogaeth hon, megis "Llanlliana", &c. Er ystyr yw cynulliad neu drigfa y Mynychesau. Hefyd, ceir yma ddau fôr gilfach o'r enw Porth Seion a Phorth Gynfor. Mewn cysylltiad a'r amddiffynfa yma o fewn y gwrthfur ceir cerig glan y mor, o bymtheg i ugain pwys bob un, y rhai a gloddiwyd o'r cilfachau hyn, ac a gyflewyd gan y gwarchaedigion, fel y gallent eu defnyddio i ferthyru unrhyw fintai a gynygiai wneyd rhuthrgyrch ar eu hamddiffynfa. Eto, ceir olion hen balasdy i'r Tywysog Llewelyn a elwir Bryn Llewelyn. Yr oedd ffordd gan y tywysog wedi ei wneud o'r Ddinas i'r Aberffraw mor uniawn ag oedd modd; yr oedd wedi ei phalmantu a cherig mân, a chlawdd uchel o bob ochr iddi. Y mae rhanau o'r ffordd yn weledig heddyw mewn gwahanol fanau o Lanlliana i'r Aberffraw, lle y byddai y tywysogion yn cartrefu. Yn agos i Bryn Llewelyn yr oedd gan y tywysog dŵr uchel wedi ei godi, lle y byddai gwyliedyddion yn aros nos a dydd. Pan byddai rhywbeth pwysig yn cymeryd lle, anfonid rhedegwyr o'r naill le i'r llall, sef Llianlliana a'r Aberffraw. Yn nesaf, ceir lluaws o hen olion brwydrau, yn nghyda hen gladdfa yn llawn o weddillion dynol. Dywedai Meistri Parry a Jones fod skeletons wedi eu codi o'r gladdfa yma oddeutu wyth droedfedd o faintioli. Y mae hen gladdfa hefyd yn agos i Beibron yn llawn o feddau y celaneddau ar ol brwydrau y Ddinas. Ystyr yr enw Peibron yw, "Bedd-fron." Yn agos i'r lle yma ceir olion hen Glafdy (Infirmary), a elwid heddyw Clafrdy. Y mae y gymydogaeth yma yn lle prydferth, ac mewn bri uchel. Ymgynullai lluaws o ddyeithriaid yma yn yr haf i bleseru eu hunain—i weled rhanau o furiau yr hen wryfdy, &c.; ac, fel y dywed ai y Bardd Du o'r Burwaen deg:

"Bro hyfryd fal Senir a Hermon
Yw'r bryniau y Burwaen deg dir,
Dyffrynoedd a dolydd gwyrdd deiliog,
Rhai siriol fel Saron sy'n wir:
Wrth edrych o amgylch ei chaera,
Y rhai sydd yn gadarn a heirdd,
Ceir gweled bryn t'wysog Llewelyn,
A Pheibron, prif orsedd y beirdd."
THOMAS WILLIAMS.

ENW AMLWCH.

Ceir lluaws o wahanol farnau o berthynas i'w ystyr: Syniad un dosbarth ydyw, fod marwolaethau mawr wedi bod yma rywbryd; ac mai yr ystyr yw "Aml i Bridd." Dywed eraill mai lle llwchlyd oedd, ac mai yr ystyr yw "Aml lwch." Eraill a dybiant fod y gair yn cynwys dau wreiddyn aml a lwch, yn yr hen Frythoneg, fel y mae y gair loch yr cael ei ddefnyddio yn yr Alban am lyn, neu bwll; ac felly tardda yr ystyr oddiwrth ansawdd y lle. Dywedir fod lluaws o leoedd ereill yn dwyn yr un ystyr, megys Llan-llwch, Tal-y-llychau, &c.; gelwir y lleoedd hyn felly oherwydd eu bod yn gylchynedig gan lynoedd. Os felly arwyddocad yr enw Amlwch ydyw "Cylchynedig gan lynoedd." Y syniad nesaf yw, ei fod yn air cyfansawdd, ond fod y gwreiddyn loch yn gyfystyr a'r gair Saesneg inlet (cilfachau); ac felly yr ystyr yw' Aml-gilfachau.' Wrth chwylio i'r ystyron hyn, yr ydym yn methu canfod un rheswm ynddynt o'u cydmaru ag ansawdd y lleoedd o amgylch y dref.

Y mae ei wir ystyr yn ymddangos i'n tyb ni yn tarddu o'r iaith Gymraeg; y mae yn air cyfansawdd o Aml ac Och! ceir hen enwau ar wahanol leoedd o amgylch y lle sydd yn dwyn prawfion digonol o hyn.

Clywir swn brwydrau ynddynt oll: oddeutu hanner milldir i'r deau, ceir lle o'r enw "Ceryg y bloeddio "; cafodd yr enw hwn, oherwydd mai yno y bu y byddin oedd yn bloeddio ar eu gilydd i frwydr, ar "fynydd y Gad," neu Nebo. Ar ben y mynydd hwn ceir lle o'r enw "Twr llechu," fel y crybwyllwyd o'r blaen. Hefyd, os troir i'r gollewin, sain rhyfel sydd i'w glywed yn yr holl enwau. Oddeutu milldir a haner o'r dref, ceir lluaws o enwau yn arwyddocau hyn, megys (fel y dywed y Parch O. Jones,) "Rhyd Gwaed Gwyr;" Pen-bodail-ffrae. Dyma y fan lle y bu brwydrau gwaedlyd rhwng yr hen Gymry a'r Saeson. Dywed y Parch. O. Jones mai yma y bu y frwydr a elwir "Gwaith Duwsul yn Môn." Yn y frwydr hon y lladdwyd Rhodri Fawr, a'i frawd Gwriad, a Gweirydd ap Owain Morganwg. Parodd y trychineb hwn i wragedd Môn ymgyffroi mor fawr fel y cymerasant arfau ac y rhuthrasant ar y Saeson, ac yr ymladdasant â hwy mor bybyr nes eu gorfodi i ffoi am eu bywyd, hyny oedd yn weddill o honynt, allan o'r ynys! Fel hyn y mae yr oll o'r enwau a'r lleoedd o amgylch Amlwch yn rhoddi sail gref i gredu fod y brwydrau hyn wedi gwneud y lle yn un Aceldama fawr; a'r tebygolrwydd cryfaf yw, fed ystyr yr enw Amlwch yn tarddu oddiwrth yr amgylchiadau hyny, pa rai a achlysurasant yr holl enwau rhyfelgar a nodwyd. Yr ystyr yw, "Aml Ochenaid," yn tarddu oddiwrth aml ocheneidiau y clwyfedigion, neu ocheneidiau y perthynasau ar ol y lladdedigion yn y frwydr hon. Gwel yr un sylwadau gan "Lucyn Ddu," yn mhapur y Cymry, o'r enw ""Lais y Wlad," ers oddeutu deuddeng-mlynedd yn ol; hefyd, gwel "Hanes Cymru," gan y Parch. O. Jones. Mewn hen gof-lyfr o'r enw The Record of Carnarvon, yr hwn a wnaed odddutu y fl. 1451 O.C., o dan deyrnasiad Harri VII., ceir fod Amlwch yn cael ei galw yn Amlogh. Dywedir fod hen lawysgrif ladinaidd ar gael heddyw, yr hon sydd yn cadarnhau yr ystyr Aml-och, Credwn fod cynnifer o engreifftiau ag a nodwyd yn ddigon i ffurfio barn lled gywir mai Aml Ochenaid yw y gwir ystyr. Cysegrwyd yr eglwys i Elaeth Frenin yn y seithfed ganrif: adeiladwyd yr un bresenol yn 1801. Yr enw cyntaf oedd Llan Elaeth.

Oddeutu y fl, 1272, yr oedd Amlwch yn lle poblogaidd. Y prif fasnach y pryd hyny oedd, Silk Manufacture; ac oddeutu y fl. 1348, pryd y bu pla mawr trwy holl Europe, ac y bu farw dros 60,000 yn Llundain, y torodd y pla hwn yn Amlwch. Pan oedd llong rhyfel yn myned heibio i'r lle hwn yn llawn o filwyr, digwyddodd i rai o'r milwyr farw o dan y pla hwn, a thaflwyd hwy i'r môr gyrwyd hwy gan y tonau i'r lân at Porth Careg Fawr. A phan oedd preswylwyr glan y môr yn chwylio am wreck ar ddydd yr Arglwydd, cawsant afael ar gorph un o'r milwyr, a llusgwyd ef i'r lan ganddynt. Bu hyn yn achlysur i'r pla ddod i Amlwch, a gwneyd difrod ofnadwy ar y trigolion. Bu cannoedd feirw dano. Galwyd y pla wrth yr enw "Pla y Cap Coch," (oherwydd i'r person a gafodd y corph roddi cap y trancedig am ei ben.)

Y mae lliaws o hen gladdfeydd o amgylch y dref yn dangos ei bod wedi bod unwaith yn dra poblogaidd.

SEFYLLFA FOESOL AMLWCH.—Yn y cyfnod cyntaf y ceir fod crefydd yn dra isel: nid oedd ond yr eglwys yn unig yn milwrio yn erbyn llygredigaethau yr oes; ac er ei holl ymdrech cynhyddai.

Oddeutu y fl. 1786, yr oedd gwylmabsantau yn cael eu cynal yma. Byddent yn codi esgynlawr ar ddrws y Tŷ Mawr i chwareuwyr. Byddai llawer o lygredigaethau yn eu canlyn. Hefyd, wrth Pen-y-bont, byddai ymladdfeydd ceiliogod. Cesglid hwy yno o filldiroedd o ffordd, a therfynai mewn ymladdfeydd dynion. Eto, byddent yn chwareu tenis a'r ben yr hen eglwys ar y Sabbath, ac yn ei ddiweddu yn y tafarndai trwy ganu a dawnsio; ar prif le i hyny oedd "Three Jolly Sailors" (Castle Inn.)

Er fod ein tref yn ymdroi fel hyn mewn llygredigaethau, yr oedd yn uwch mewn diweirdeb na'r oes bresenol. Os digwyddai i fenyw dripio, edrychid arni yn ysgymunedig am flwyddyn gyfan—ni feiddiai ddarparu bwyd i neb, nac ymddangos mewn cymdeithas, oblegid cyfrifid hi yn aflan. Y mae yr eglwys wedi ymladd yn erbyn llygredigaethau y lle am oddeutu deuddeg cant o flynyddoedd. Gan ei bod ar y dechreu yn bersonoliaeth Elaeth Frenin, ab Meurig, ab Idno, bu raid iddo ef ffoi am fywyd i Bangor Seiriol, yn un o'r Mynaich am oes.

Dywedir fod mewn cysylltiad a'r eglwys hon ar y dechreu, roddion gwirfoddol o 44p. wedi eu neillduo i dlodion y plwyf, i'w rhanu ar ddiwrnod penodedig gan yr offeiriad. Hefyd, mewn hen weithred sydd a'r gael heddyw yn nghoflyfrau yr eglwys, y mae un person tlawd i gael ei gynal am ei oes mewn lle a benodwyd gan y cymunroddwr.

Trachefn, mewn cysylltiad a'r eglwys hon, ynghyda Llanwenllwyfo, dywedir fod cynysgaeth wedi ei roddi iddynt fel bywoliaeth eglwysig. Rhoddwyd 200p. gan Esgobaeth Bangor; 200p o'r gedrôdd frenhinol; yn nghyda 1,100p o roddion seneddol. Y mae yn naddogaeth esgobaeth Bangor, gan yr hwn y mae hawl yn negwm y plwyf er y fl. 1603, sef yn nheyrnasiad Iago I. Adeiladwyd yr eglwys bresenol ar y cyntaf yn y fl. 1801, gan Gwmpeini y Mona & Parys Mines—Y gwir Anrhydeddus Iarll Uxbridge, ac Edward Hughes, Ysw. Amcangyfrif y draul ydoedd 2,500p. yn ol y "Typographical Dictionary"; ond yn ol y "Guide to North Wales," gan Mr. J. Hicklin, 4,000p—sef dwy fil oddiwrth bob gwaith. Hefyd, adgyweiriwyd hi yn drwyadl yn y fl. 1869, trwy offerynoliaeth y Ficar—Parch. John Richards, gyda rhoddion gwirfoddol 1,150p., pa swm a gasglodd trwy ei ddiwydrwydd ei hun. Hefyd, casglodd gan ei gyfeillion uwchlaw 300p. er pwrcasu Organ ysblenydd, o waith Messrs. Beavington & Son, Llundain. Eto, trwy offerynoliaeth yr un boneddwr, adeiladwyd eglwys fechan yn y Borth, yn 1872, yr hon a gyst, wedi ei gorphen, oddeutu 500p.

Y mae gan y pedwar enwad ymneillduol yn y dref eu capelydd hardd a destlus; ac y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd Gapel ac Ysgoldy Newydd ysblenydd gwerth tua 2,200p.

Hefyd, y mae yma Ysbytty Newydd—(Dinorben Cottage Hospital,) yn werth tua 600p. Casglwyd rhan o'r swm yma gan ewyllyswyr da y sefydliad; a rhoddodd y ddiweddar Arglwyddes Dinorben y swm hardd o 400p. ati. Y mae yn anrhydedd i'r dref a'r gymydogaeth.

Porth Llechog.—Yr ystyr yw "Porth-lle-och."

Werthyr.—Fferm yn agos i Amlwch, yr ystyr yw "Gwrth fur."

Pilwr.—Tyddyn yn terfynu ar y Werthyr. Fe dybia rhai fod yr enw yma yn tarddu oddiwrth rai yn cael eu rhwymo wrth bawl; ac mai yr ystyr yw, "Gwr wrth bawl." Gwel 'Trysorfa y Plant.' Tybir gan eraill yn fwy rhesymol, ei fod yn tarddu o'r gair Pilum, dart (bidog) allan i ymladd yn nerth eu bidogau, ac fod hyny wedi cymeryd lle ar dir y Pilwr.

Hefyd, heb fod yn mhell oddiyno y mae lle arall yn cael ei alw Llywarch; credir mai yr enw priodol yw, Lluwarth—yr ystyr yw "Gorphwysfa y fyddin."

Plas Gandryll.—Dywedir fod yr enw wedi tarddu oddiwrth fod y lle wedi bod yn cadw drylliau y byddinoedd.

Tref Cynrig.—Trigfa Cynrig ap Meredydd Ddu.

Bod Dunod.—Trigfa Dunod Fawr ap Pabo Post Prydain, oddeutu y chweched ganrif.

Madyn Dyswy.—Dywedir ei fod yn hen balasdy i un o'r hen dywysogion Cymreig. Tybir mai "Madyn Dywysog" ydyw yn briodol, ac nid Madyn Dyswy; llygriad yw'r gair dyswy o Tywysog, ac ystyr y gair madyn yw llwynog, neu cadnaw. Ceir arf-bais y tywysog ar furiau yr hen balasdy heddyw. Bu y lle hwn yn enwog oherwydd y personau urddasol fy ynddo yn cyfaneddu. Oddeutu y fl. 1552 codwyd un o'r enw Robert Parrys, Ysw., yn uchel sirydd: claddwyd ef yn Mynwent Amlwch. Cydmarer Rowland's, "Mona Antiqua," â chareg fedd Madyn Dyswy yn yr hen fynwent. Bu un arall o'r un enw yn trigo yma, sef Robert Parrys, Ieu., yr hwn oedd yn un o ddirprwywyr penodedig y brenin Harri IV., yn y fl. 1410, i wneud ymchwyliad cyfreithiol, a phenderfynu ar y dirwyon a osodid ar foneddigion Môn, y rhai a bleidiasant Owain Glyndwr. Dywedir i'r Robert Parrys yma fod yn Ystafellydd Caerlleon a Gogledd Cymru; ac mai ei arf-bais ef sydd i'w gweled ar furiau yr hen balas yn awr. Codwyd un arall yn uchel-sirydd yma, o'r enw William Hughes. Gwel "Hanes Amlwch," gan "Hen Graswr."

MYNYDD PARYS.—Hen enw y mynydd hwn ydoedd "Mynydd Trysglwyn." Derbyniodd yr enw hwn oddiwrth fferm o'r enw Trysglwyn; a dywedir gan rai mai oddiwrth lwyn dyrys o goed y derbyniodd y fferm a'r mynydd yr enw; ac mai'r ystyr yw "Mynydd y dyrys lwyn." Derbyniodd yr enw Mynydd Parys, oddiwrth Robert Parrys, yr hwn y crybwyllwyd am dano yn ei gysylltiad a Madyn Dyswy.

Dirwyodd y Robert Parrys, hwn oddeutu 2112 o foneddigion Môn i symiau dirfawr, a dirwyddodd dri-arddeg-ar-hugain o offeiriaid eraill; ac yn eu plith Llywelyn, vicar Amlwch. Tebygol yw iddo gael Mynydd Trysglwyn yn rhôdd fel canlyniad i'w wasanaeth gan y brenin. Ar ol marwolaeth Robert Parrys, ei weddw ef a briododd un o'r enw William Griffith, o'r Penrhyn. Y mab hynaf i'r boneddwr hwn a etifeddodd dir Parys, ac o'r teulu hwn tarddodd yr enw Mynydd Parys ' yn y dechreu.

Darganfyddiad cyntaf y Mwn Efydd yn y Mynydd yma.—Darganfyddwyd ef yn ddamweiniol gan Gymro o'r enw Rowland Puw. Anrhegwyd ef yn flynyddol am hyny â deg punt, ynghyd a phar o ddillad. Hefyd, gwnaethpwyd ymchwyliad manwl iddo wedi hyny gan Ysgotyn, o'r enw Alexander Fawr, yr hwn oedd ar ei daith trwy Ynys Fôn i chwylio am fwnau, yn y fl. 1762. Ond er iddo gael iawn ddirnadaeth fod yno ychwaneg, eto yr oedd y dwfr yn ei atal i fyned yn mlaen, eithr rhoddodd ei anturiaeth ef gefnogaeth i eraill anturio yno am gopr. Gosodwyd ef gan Syr Nicholas Bayley, i gwmpeini o Maccelesfield, ac fe'u rhwymwyd mewn gweithred i wneyd ymdrech am ddyfod o hyd i'r mwn os ydoedd yno, yr hyn a wnaethant; ond nid oeddynt yn cael digon at eu digolledu. Parodd hyn i'r Cwmpeini orchymyn i'r Mwnwyr roddi y gwaith i fyny, eithr ni wnaethant. Ymgasglasant Mawrth 2ail, 1768, i'r un llecyn, a chloddiasant bwll, ac erbyn eu myned oddeutu dwy lath o ddwfn, hwy a gawsant gopr grymus; ac o hyny allan cloddiwyd miliynau o dunelli o hono hyd yn bresenol. Trachefn, gwnaethpwyd ymchwyliad i'w ddyfroedd gan fwnofydd ychydig amser ar ol hyn, a chafwyd ynddynt amryw fwnau eraill

Y dull cyntaf a'r un presenol i cloddio Mun. Ceir yma hen weithfaoedd tân-ddaearol yn brawf eglur mai dull y Rhufeiniaid gynt oedd cloddio am fwn. Gwelir lluaws o gerig o natur wahanol į rai cynwynol y mynydd hwn, y rhai a ddefnyddid ganddynt yn forthwylion. Hefyd, ceir yma ddarnau mawrion o goed llosgedig, cerig calch a fyddai ganddynt yn llosgi y creigiau i ryddhau y mŵn. Dyma y dull oedd yn yr hen amseroedd cyn dyfodiad pylor i ymarferiad. Y darnau trymaf oeddynt yn eu codi o'r mŵn yn y dull hwn oedd haner cant o bwysau Dywedir fod teisen o ofydd wedi ei chael yn mhlwyf Llanfaethlu yn haner cant o bwysau, a nod arni geffelyb i'r llytheren Rufeinig L. Ond y dull presenol yw gydag ebillion, morthwylion, pigiedydd, gyrdd bathiadur, ynghyda phylor: fel hyn dryllir, weithiau, denell neu ddwy ar unwaith.

Rhagoriaeth y Mynydd hwn ar waithfaodd mwnawl y byd.—Rhagora yn ei ddyfroedd. Trwy ad-ddansoddi ei ddyfroedd, ceir ynddynt wahanol elfenau-Copras pur, sug llosgfeini, Oil of vitrol, paent, haiarn, plwm, copr, ac arian. Barnwyd y dyfroedd hyn yn werth wyth geiniog y chwart gan y mŵn-ofydd.