Hanes Sir Fôn/Plwyf Bodedeyrn
← Plwyf Llechylched | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Cwmwd Twrcelyn → |
PLWYF BODEDEYRN.
Saif y plwyf hwn oddeutu wyth milldir o Gaergybi. Tarddai ei enw oddiwrth rhyw St. Edeyrn, bardd enwog. Cysegrwyd yr eglwys iddo oddeutu y seithfed ganrif. Dywed rhai ei fod yn fab i Nudd, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yn y cymydogaethau hyn tua dechreu y seith. fed ganrif.
Llyn Llawenau.—Yr enw priodol ar hwn ydyw "Llyn Llaw Owain." Gelwid ef felly am fod ei ddwfr yn troi Melin Llawenau.
Ar ochr ddwyreiniol y llwyn, y mae palas Presaddfed. Bernir mai yma yr oedd y llywydd Agricola yn byw, yr hwn a gynhaliai ei lys yn y ddau Benesgyn. Gwel sylw ar ystyr yr enw Presaddfed, yn mlwyf Llansadwrn, yn nghwmwd Tindaethwy.
Tref Iorwerth.—Tarddodd yr enw oddiwrth Iorwerth, tad y Tywysog Llewelyn.
Trefigneth." Trigfa Gofid" yw ei ystyr.