Hanes Sir Fôn/Plwyf Llan Ddaniel Fab

Plwyf Llan Edwen Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfihangel Ysgeifiog

PLWYF LLAN DDANIEL FAB.

Saif y plwyf hwn oddeutu saith milldir i'r dê-orllewin o Fangor; a saif yr eglwys oddeutu milldir-a-haner o Lanidan, ar y ffordd o Moel-y-don i Langefni. Cysegrwyd hi oddeutu y seithfed ganrif i St. Daniel, fab Deiniolen ap Deiniol Wyn, ap Paba Post Prydain, "sant o Fangor Maelor; a gwedi tori hono, efe a aeth i Wynedd uwch Conwy, lle y bu yn arllwybraw Côr Bangor Fawr Arllechwedd, a elwir Bangor Deiniol, yn amser Cadwaladr Fendigaid. Yr oedd ganddo eglwys arall yn Llanddeiniolen yn Arfon." (Gwel "Bonedd y Saint.")

Dywed Mr. Rowlands fel hyn:-" Daniel, who had a church near that of Llan Aiden, was son of Daniel, first Bishop of Bangor; and, therefore, the church is commonly called Llan Ddaniel Fab." Ystyr yr enw yw, "Llan y Duw sydd Farnwr."

Yn agos i'r fan hon y tiriodd y Cadfridog Rhufeinig Suetonius i'r ynys hon, yn ymyl Porth Amel, a'r lle a alwyd Pant, neu Pont-yr-ysgraffau. Meddyliai Mr. Rowlands mai rhwng y lle a elwir Pwll-y-fuwch a Llanidan y glaniodd y Rhufeiniaid y waith gyntaf hon; a dywed fod rhyd, lle y gallasai eu gwyr meirch groesi, odditan Llanidan; ac nid yw yn annhebyg fod y fan lle y glaniodd eu gwŷr traed yn cael ei alw hyd heddyw wrth yr enw "Pont-yr-ysgraffau." Tybir i'r enw darddu o'r gair" Scapha" (Skiff)—cwch. Hefyd, bernir mai yn agos i'r fan hon y croesid y Menai gan Suetonius, y croesid hi bymtheng mlynedd wedi hyn gan Agricola; a haerir fod y lle a elwir "Crug" yn hytrach "Crig," wedi ei alw ar enw y rhaglaw hwn er cof am ei weithredoedd a'i wersylliad yn y lle hwn. Lladdodd Suetonius y Brythoniaid wrth y miloedd yn agos i'r fan hon. Gelwir y lle gan Rowlands, "Maes y gad fawr," (the great army's field.)