Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfihangel Ysgeifiog
← Plwyf Llan Ddaniel Fab | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanffinan → |
PLWYF LLANFIHANGEL YSGEIFIOG,
NEU
(Llanfihangel Pentre Berw.)
Saif y plwyf yma oddeutu wyth milldir i'r gogledd-orllewin o Fangor, tardda y gair oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Michael, a'r gair ysgeifio am goed ysgaw. Yr ystyr yw, "Llain, neu gell mewn ysgaw hwn sydd yn hoffi Duw."
Y mae y plwyf hwn yn guradiaeth syfydlog mewn cysylltiad a churadiaeth Llanffinan: noddwr y fywiolaeth ydyw Deon Bongor, i'r hwn y mae degwm y plwyf yn perthyn, &c.