Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanffinan

Plwyf Llanfihangel Ysgeifiog Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llan Gefni

PLWYF LLANFFINAN.

Saif y plwyf yma oddeutu chwe' milldir i'r gorllewin o Beaumaris, a saif yr eglwys yn agos i Afon Ceint: cysegrwyd hi oddeutu y chweched ganrif, i un o'r enw Ffinan, Almaenwr, ac esgob Lindisfarne, ac olynydd Aidan i'r esgobaeth hon, fel y crybwyllir gan un o'r enw Bedi. Derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth yr eglwys hon.

Tybir mai yr ystyr yw, "Llan-y-terfyn, neu Terfynlan."