Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanbabo
← Plwyf Llanfair yn Nghornwy | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Caergybi → |
PLWYF LLANBABO.
Mae'r plwyf hwn oddeutu chwe' milldir i'r gorllewin o Lanerchymedd. Sylfeinydd yr eglwys oedd un o hen dywysogion Cymry, yr hwn a fu yn amddiffynydd dewr i'w wlad rhag ymosodiadau y Scotiaid a'r Pictiaid. Cyfenwid of Pabo Post Brydain—The support of Britain; ac ar ol yr urddiad sanctaidd, daeth yn un o'r seintiau mwyaf parchus a chyfrifol. Tardda enw y plwyf oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y bedwaredd ganrif, i Pabo, yr hwn oedd fab Arthwys, ap Môr, ap Morydd, ap Cenau, ap Cael Godhebog. Efe oedd frenin yn y Gogledd, ac a yrwyd o'r wlad gan y Gwyddel Ffichti, a daeth i Gymru, lle cafodd diroedd gan Gyngen Deyrnllwg, a chan ei fab Brochwel Ysgythog.