Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfair yn Nghornwy
← Plwyf Llanrhwydrys | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanbabo → |
PLWYF LLANFAIR YN NGHORNWY.
Saif y plwyf hwn oddeutu naw milldir i'r gogledd orllewin o Lanerchymedd. Cafodd yr enw uchod am fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair. Cornway neu Cernyw oedd hen enw Prydeinig ar Cornwall, ac ar y rhan yma o Ynys Môn. Beth achosodd iddo gael yr enw nis gwyddom.
Mynachdy.—Ty mynach. Yn agos i'r eglwys y mae tair o geryg mawrion yn cael eu galw "Meini hirion," neu "the stones of Heroes."