Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfair-Pwll-Gwyngyll
← Plwyf Llan Sadwrn | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Cwmwd Menai → |
PLWYF LLANFAIR-PWLL-GWYNGYLL.
Y mae y plwyf hwn yn sefyll oddeutu pedair milldir i'r de-orllewin o Fangor, yn nghwmwd Tindaethwy. Tardda yr enw mewn rhan oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair, a'i bod yn agos i drobwll dychrynllyd yn nghulfor Menai. Ffurfir y trobwll hwn gan ymchwydd y môr, yr hwn a dorir yn wyn ar y creigiau: pan ar drai isel, a dim ond y creigiau isaf wedi eu gorchuddio, bydd y môr-lanw yn rhuthro yn arswydus yn y lle hwn; oherwydd hyny y gelwid ef yn "Bwll-tro." Bydd yn beryglus i longau fyned yn agos iddo y pryd hyn—delir hwy weithiau gan y rhyferthwy (current), a hyrddir hwynt yn erbyn y creigiau sydd yn ymddangos uwchlaw y wyneb. Gelwid y lle hwn gan forwyr Cymru yn Bwll Ceris; ac edrychid arno ganddynt, fel yr edrychid ar Scylla a Charybdis gan forwyr Sicily. O berthynas i enw y lle hwn, sylwa un awdwr fel hyn:—"It should have been Keris, and not Ceris. In Mr. Vaughan, of Hengwrt's MSS of Nennius, it is "Pwll Kerist:" cerissa is only a fanciful derivation."