Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfair Yn Neubwll

Plwyf Llanfihangel yn Nhowyn Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanynghenedl

PLWYF LLANFAIR YN NEUBWLL.

Saif y plwyf hwn oddeutu pum' milldir i'r dê-ddwyrain o Gaergybi. Tardda yr enw hwn ar y plwyf oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Mair; ac hefyd oddiwrth ddau o lynau bychain, neu byllau cyfygos. Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth sefydlog, mewn cysylltiad a pherigloriaeth Rhoscolyn.

Tref lesg.—Derbyniodd yr enw oddiwrth un o'r enw Llesg, yr hwn a fu yn byw yno.

Tyddyn-treian.—Tyddyn bychan yn y cwr de-orllewinol i'r plwyf hwn, mewn can' troedfedd i tywyn Drewain. Tybir mai Treian ydoedd wraig weddw o'r enw Susannah, gan mai ei enw yn llyfr y tirfeddianydd ydyw, "Tyddyn Susannah," a'i enw yn llyfr y dreth ydyw Tyddyn Treian. Yr enw priodol aruo felly fyddai-Tyddyn Treian Susannah.

Gelwir ef hefyd "Ty Gwrthun;" tybir i'r enw hwn gael ei roddi arno fel gwawdiaeth, gan rai o deulu-ynnghyfraith Susannah.