Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanynghenedl
← Plwyf Llanfair Yn Neubwll | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llechylched → |
PLWYF LLANYNGHENEDL.
Saif y plwyf hwn oddeutu dwy filldir i'r gorllewin o Bodedern. Cysegrwyd yr eglwys i St. Enghenedl, ap Cynan Garwyn, ap Brochwel Ysgythrog, yn y seithfed ganrif.
Yr oedd Enghenedl yn dywysog y byddinoedd Prydeinig o dan Cadfan, yn mrwydr fuddugoliaethus Caerlleon, yn y fl. 603. Dywedir ei fod wedi ei ddyrch- afu oddeutu dechreuad y seithfed ganrif. Tardda enw y plwyf oddiwrth y sant hwn.