Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfeirion

Plwyf Llangadwaladr (Eglwysael) Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Tre' Gwalchmai

PLWYF LLANFEIRION.

Saif y plwyf hwn oddeutu deng milldir i'r de-orllewin o Langefni. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru yn y chweched ganrif i Meirion, neu Meirian, ap Owain Danwyn, ap Einion Trth, ap Cunedda Wledig, brawd Siriol Wyn, ac Inion Frenin. Y mae y gair Meirion yn cynwys y meddylddrych o faer (mayor); yr ystyr yw "Llan-y-Maerod."

Yr oedd yr eglwys hon mewn cysylltiad a pherigloriaeth Llangadwaladr; ond nid yw yn bodoli yn awr, oblegyd syrthiodd i adfeiliad llwyr oddeutu y fl. 1775.